minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Sul y Galwedigaethau - Zoe Hobbs

Fy ngalwedigaeth yng Nghanolfan Antur Cristnogol Min Y Don

Wel, gadewch i ni droi’r cloc yn ôl tua 20 mlynedd. Roeddwn ar fin gorffen fy Lefel A ac roeddwn yn bwriadu/gobeithio ymuno â’r heddlu. Roeddwn wedi bod i ddiwrnod agored yr heddlu ac yn teimlo y dylwn i wneud rhywbeth am flwyddyn neu ddwy cyn ymgeisio er mwyn cael profiad ehangach.

Roedd fy rhieni’n arfer cael papur newydd y Christian Herald ac roedd mudiad o’r enw CCI (Christian Camping International) sydd wedi newid ei enw erbyn hyn i CRNET (Christian Residential Network) yn hysbysebu cyfleoedd i wirfoddoli – felly chwiliais amdanynt ar y rhyngrwyd a rhoi fy enw. Yn y diwedd, cefais bost gan lawer o Ganolfannau Cristnogol Awyr Agored. Doeddwn i erioed wedi clywed amdanynt. Roedd yn agoriad llygad go iawn.

Gweithgaredd adeiladu raft a'i hwylio | Raft building activity

Yn y cyfamser, wrth i mi bori drwy’r gwaith papur, roeddwn wedi bod yn gofyn i Dduw fy helpu i ddewis y canolfannau y dylwn anfon cais iddynt. Yn y diwedd, es i ymweld â Min Y Don yng Nghymru a Heatree yn Dartmoor, a chefais gyfweliad yn y ddau le. Roedd cyfnod eithaf hir rhwng y ddau gyfweliad ac roeddwn wedi bod yn siarad â Duw ac yn gobeithio y byddai’n dangos i mi ai hwn oedd y peth cywir ai peidio. Beth bynnag, dw i’n cofio edrych ar fy e-byst yn y coleg un diwrnod a gweld bod y ddwy Ganolfan wedi cynnig lle i mi. Roedd yn sefyllfa oedd yn peri i mi ofyn ‘Dduw, beth nawr? I ba un ydych Chi eisiau i mi fynd? – helpwch fi plîs.’ Beth bynnag – i Min y Don yr es i, ac o fewn ychydig fisoedd sylweddolais na fyddwn i’n ymuno â’r Heddlu. Dyma lle’r oeddwn i fod.

Symudwch y cloc ymlaen i’r presennol ac ym mis Medi byddaf wedi bod ym Min Y Don am 20 mlynedd. Ym meddwl fy ngŵr a minnau ‘Byddwn yn gweithio yn y fan yma Dduw nes byddwch yn dangos yn amlwg iawn i ni y dylem fod yn rhywle arall. Mae wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn anrhydedd ac yn fendith bod yn rhan o greadigaeth brydferth Duw, yn rhannu ein ffydd â’r gwesteion a’r staff yn y Ganolfan ac yn darparu profiadau awyr agored gwerthfawr. Rydym eisiau i bopeth a wnawn yn y ganolfan ogoneddu Duw, p’un a ydym yn glanhau’r toiledau, yn rhoi sgwrs neu air i feddwl drosto, yn gweini cinio, yn dal y rhaffau i ddringwyr y creigiau, y ffordd y gweithiwn fel tîm neu ein hymwneud â’r gwesteion. Ar rai adegau byddwn yn teimlo nad ydym wedi gwneud cystal ag yr hoffem fel tîm, ond mae Duw uwchlaw’r cyfan ac mae’r gwesteion wedi cael amser gwych.


Cymraeg

Vocations Sunday - Zoe Hobbs

My calling to Min Y Don Christian Adventure Centre

Well, let’s rewind about 20years. I was due to be finishing my A-levels and had planned/hoped to join the police force. I had been to a police open day and felt that I should do something for a year or two before applying just to gain wider experience.

My parents used to get the Christian Herald newspaper and there was an organisation CCI (Christian Camping International) now known as CRNET (Christian Residential Network) advertising volunteer opportunities – so I looked them up on the internet and put my name down. I ended up with post from many Christian Outdoor Centres. I never even knew they existed. It really opened up my eyes.

Dringo | Climbing

Meanwhile as I sifted through the paperwork I had been asking God to help me as to which centres to apply to. I ended up visiting/having an interview at both Min Y Don in Wales and Heatree in Dartmoor. Both interviews happened quite a time apart and I had been talking to God and hoping that if this was the right thing that He would make it obvious. Anyhow, I remember checking my emails at college one day only to find that both Centres had offered me a place. I was a bit like ‘ah, what now God which one do you want me to go to? – please help.’ Anyway – I ended up at Min Y Don and within a few months I realised I wasn’t going to be joining the Police force. This was where I was to be.

Fast forward back to now and come September I would have been at Min Y Don for 20years. Both my husband and I have said ‘God we will work here until you make it very obvious we should be elsewhere. It has been and continues to be a privilege and a blessing to be in a part of God’s beautiful creation, sharing our faith to the guests and staff at the Centre and providing valuable outdoor experiences. Everything we do at the centre we want it to glorify God whether it is cleaning the toilets, giving a thought/talk, serving dinner, holding the ropes at the rock face, the way we work as a team and relate to the guests. There are times when we think that as a team we may have not done so well but God is above it all and the guests have had a fantastic time.