minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Llwybr Cadfan yn Ffynnon Cybi

Cafwyd prynhawn bendigedig yn y seithfed lleoliad ar y bererindod lenyddol, Llwybr Cadfan. Er bod y glaw yn bygwth a'r gwynt yn fain, ymddangosodd yr haul mewn da bryd i alluogi i bawb fwynhau pererindod lythrennol wrth gerdded i lawr at y ffynnon. Mae hon mewn lleoliad godidog wedi ei nythu ymhlith y coed mewn man diarffordd yn Eifionydd wrth droed Pen Llŷn. Mae’r safle sanctaidd hynafol hwn yn meddu ar naws hudol ddigamsyniol. Wedi’i chysegru i Gybi, sant o’r 6ed ganrif. Credwyd ers amser maith fod gan ddyfroedd y ffynnon briodweddau iachau .Erbyn hyn, gallwch weld dwy siambr ffynnon ochr yn ochr â bwthyn gofalwr diweddar sy’n dyddio o’r 18fed neu’r 19eg ganrif. Er ei chysylltiad â Sant Cybi, mae’n bosibl fod statws sanctaidd y ffynnon yn tarddu o’r oes gyn-Gristnogol.

Digwyddiad gwahanol ei naws oedd hwn eto yn Ffynnon Cybi. Croesawyd pawb gan y bardd preswyl Siôn Aled. Yna trosglwyddodd yr awenau i’r Prifardd Twm Morys gydag eitem lenyddol, gerddorol unigryw a hwyliog. Ar fydr, odl a chân, mewn Cernyweg a Chymraeg, cafwyd cyflwyniad o hanes Sant Cybi. Nododd iddo gael ei eni yng Nghernyw yn fab i Selyf ap Geraint ab Erbin , tywysog rhyfelgar, ac y credir yn gyffredinol mai Brenin Cernyw oedd hwnnw. Roedd ei fam Gwen ferch Cynyr, yn chwaer i Santes Non. Daeth dros y môr i Gymru i genhadu. Yn ôl y traddodiad, sefydlodd yr eglwys yn Llangybi ac mae ei Ffynnon sydd tua 400 medr o'r eglwys, hen ganolfan bererindod leol ar un o'r llwybrau hynafol i Ynys Enlli sef llwybr Cadfan.

Wedi cyflwyniad difyr Twm aeth Siôn Aled yna ymlaen i berfformio ei gerdd wreiddiol wedi ei hysbrydoli gan y lleoliad cyn trosglwyddo’r awenau i’r bardd preswyl arall Sian Northey gyda datganiad o’i cherdd hithau, dyma flas o’i cherdd.

Ffynnon Cybi

Maen nhw'n deud
ei bod hi'n arferiad i ferched y plwyf,
ar ôl golchi'u dillad,
ar ôl sgwrio'r baw ohonynt â sebon prin,
eu cario i'r gofer.

Ac yno byddai dŵr y ffynnon
yn gwneud un gymwynas olaf,
yn hanner bendithio crysau,
a sanau a chobenni,
cyn cario sgwrs y gwragedd
tua'r môr.

Byddai'n gadael rhyw damprwydd sanctaidd
a hwnnw'n troi'n ager
yng ngwres yr aelwyd,
yn stêm a oedd yn hŷn
nag unrhyw sant.

Siôn Rhys Evans

Yna cawsom berfformiad cerddorol gan yr unigryw ar amryddawn Dewi Pws Morris. Ein bardd gwadd yn y lleoliad hwn oedd Gareth Evans Jones a chawsom ddatganiad hyfryd o’i gerdd wreiddiol eto wedi ei hysbrydoli gan y lleoliad. Roedd yr awyrgylch yn yr awyr agored yn odidog i wrando ar arlwy’r prynhawn, ynghanol byd natur gyda sŵn llif y dŵr ar adar yn canu yn gefndir bendigedig. Daeth y cyfan i ben gyda gair byr o fyfyrdod perthnasol ac amserol gan y Canon Siôn Rhys Evans a gweddi fer. Yna croesawyd pawb i gael paned i g’nesu a chacen gri neu ddwy yn yr Eglwys a chyfle i sgwrsio a chymdeithasu..

Erbyn hyn rydym wedi cyrraedd yr wythfed lleoliad ar ein pererindod lenyddol. Dewiswyd 11 o safleoedd i fod yn ganolfannau penodol ac yn ganolbwynt gweithgarwch ysbrydol a llenyddol y prosiect hwn a hynny ar ddyddiadau penodol dros gyfnod o ddeunaw mis. Lleoliadau y tybir i Cadfan ymweld â hwy ar ei bererindod gyntaf i Enlli. Mae’r lleoliadau oll yn amrywiol ac yn cynnig naws a themâu gwahanol ar hyd y daith. Bydd y prosiect yn parhau ei siwrne yn olrhain pererindod gyntaf Cadfan Sant i Ynys Enlli mewn lleoliad unigryw a diddorol arall a hynny ar  2 Mehefin. Bwriedir cynnal y digwyddiad nesaf yn Eglwys Engan Sant, Llanengan ger Abersoch. Bydd y beirdd preswyl Siôn Aled a Sian Northey yn ymuno â ni ynghyd â'r bardd gwadd lleol Esyllt Maelor am brynhawn difyr o adloniant llenyddol a cherddorol arall.

Ffynnon Cybi | Cybi's Well

Cymraeg

Llwybr Cadfan at Saint Cybi's Well

The seventh event on the literary pilgrimage, Llwybr Cadfan took place last Saturday at Saint Cybi’s Well and Church, Llangybi. Although the wind was slightly chilly, the sun didn’t disappoint in the end, and everyone enjoyed a literal pilgrimage walking the short path down to the Well. This is in a magnificent location nestled amongst the trees in a secluded spot in Eifionydd at the foot of the Llŷn Peninsula. This ancient sacred site possesses an unmistakable magical feel. Dedicated to Cybi, a 6th-century saint. It has long been believed that the waters of the well have healing properties. To the eye, you can see two fountain chambers alongside a late 18th or 19th-century caretaker's cottage. Despite its association with Saint Cybi, it is possible that the holy status of the fountain originated in pre-Christian times.

This again had a different vibe to previous events. Everyone was welcomed by resident poet Siôn Aled. He then handed over the reins to Twm Morys with his unique and fun literary, musical item. Through word, verse and song, in Cornish and Welsh, he uniquely presented the story and history of Saint Cybi. He noted that he was born in Cornwall the son of Selyf ap Geraint ab Erbin , a warrior prince, and is generally believed to have been King of Cornwall. His mother Gwen Ferch Cynyr, was a sister of Saint Non. He came across the sea to Wales to mission. According to tradition, he founded the church in Llangybi and its Well which is about 400 meters from the church, a pilgrimage center on one of the ancient routes to Bardsey Island which is, of course, the Cadfan route.

Gareth Evans Jones

After Twm's entertaining presentation Siôn Aled then went on to perform his original poem inspired by the location before handing over the reins to the other poet in residence Sian Northey with a reading of her poem, here is a taste of it.

Ffynnon Cybi

They say
that the women of the parish,
on wash day,
after scouring with the little soap they had,
bought the clothes to the overflow.

And there the water of the well
did one last favour,
semi blessing the shirts,
the socks, the sheets,
before carrying the stories of the women
towards the sea.

It would leave a sort of sacred dampness,
which the heat of evening fires
would turn to steam,
a vapour vesper that was older
than any saint.

Dewi Pws

A musical item followed by the talented Dewi Pws Morris who successfully entertained the audience. Then our guest poet at this venue, Gareth Evans Jones, read his original poem, again inspired by the venue. The atmosphere outdoors was wonderful to listen to the afternoon’s entertainment with the sound of the stream and the birds offering a glorious backdrop. It all ended with a word of relevant and timely reflection from Canon Siôn Rhys Evans and a short prayer. Everyone was then welcomed for a cuppa and a Welsh cake or two at Church and a chance to chat and socialise.

We have now reached the eighth location on our literary pilgrimage. Eleven sites were selected to be the specific centres and hubs of spiritual and literary activity for this project on specific dates over a period of eighteen months. Locations presumed to have been visited by Cadfan on his first pilgrimage to Bardsey. The locations are all varied and offer different settings and themes along the way. The project will continue its journey tracing Saint Cadfan's first pilgrimage to Bardsey Island in another unique and interesting location on 2 June. The next event is planned at Saint Engan's Church, Llanengan near Abersoch. Resident poets Siôn Aled and Sian Northey will join us along with local guest poet Esyllt Maelor for an enjoyable afternoon of other literary and musical entertainment.