Adolygiad Llyfr: Refresh gan Caroline Montgomery
Mae grwpiau plant bach wedi bod yn flaenoriaeth eglwysig ers blynyddoedd lawer.
Mae gwirfoddolwyr fel arfer yn croesawu oedolion a phlant bach i neuadd neu leoliad tebyg yn yr eglwys, lle gall yr oedolion ymlacio a sgwrsio, tra bod y plant yn rhedeg o gwmpas ac yn chwarae. Gall fod yn ffordd gymharol hawdd o gynnal a chadw cysylltiad â'r gymuned gan hefyd gynnig cefnogaeth fugeiliol i unrhyw un sy'n gweld dyletswyddau magu plant yn anodd ar adegau.
Adfywio oedolion yn gorfforol ac yn ysbrydol
Mae Refresh yn dangos sut y gellir 'troi ben ucha’n isaf’ y weinidogaeth hon, a sut y gall ddod yn ffordd o helpu oedolion ganfod eu ffydd. Gan fanteisio ar flynyddoedd o brofiad, mae Caroline Montgomery yn disgrifio mewn ffordd hynod ymarferol sut i sefydlu a rhedeg grŵp sydd nid yn unig yn hwyl i blant ond sy'n rhoi egni newydd oedolion yn gorfforol a hefyd yn ysbrydol. Mae'r plant yn cael chwarae ac yn mwynhau sesiwn canu; mae’r oedolion yn mwynhau coffi a theisennau ffres - a phum munud i adlewyrchu ar y diwrnod, gan rannu rhywbeth â Duw.
Mae'r llyfr yn ganllaw ardderchog a chefnogol, yn enwedig i unrhyw un sydd heb roi cynnig ar y math hwn o gynllun o'r blaen. Mae 33 o 'feddyliau ar gyfer y diwrnod' parod i'w defnyddio (neu wedi'u haddasu'n hawdd), gydag awgrymiadau ar gyfer caneuon perthnasol neu glipiau YouTube. Mae’r atodiadau cynhwysfawr hefyd (ymhlith pethau eraill) yn awgrymu cynlluniau ar gyfer lleoliadau o faint gwahanol, tasgau i'w gwneud ymlaen llaw ac ar y diwrnod, rhestr o deganau posibl a hyd yn oed rysáit ar gyfer gwneud clai chwarae.
Gall y model Refresh weithio mewn lleoliad mawr neu fach, ac mae'r llyfr yn cynnwys profiadau'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y grŵp yn ogystal â rhai o'r rhai sydd wedi mynychu - ac a ddaeth o ganlyniad i ffydd. Mae straeon fel hyn yn adnodd i’n hatgoffa pam bod gweinidogaethau fel hyn yn bwysig yn y lle cyntaf. Nid yw'n ymwneud â 'chael pobl i mewn i'r eglwys' yn unig, ond eu tynnu i gyfarfod personol a thrawsnewidiol â'r Duw byw.
Y Parchg Naomi Starkey
Mae Refresh: Introducing adults to faith through toddler groups gan Caroline Montgomery yn cael ei gyhoeddi gan BRF.
Book Review: Refresh by Caroline Montgomery
Toddler groups have been a mainstay of church ministry for many years.
Volunteers usually welcome adults and small children to a hall or similar church space, where the adults can relax and chat, while the children run around and play. It can be a relatively low-maintenance way to connect with the community and also offer pastoral support to anyone who is finding the work of parenting harder than they expected.
Refreshing adults physically and spiritually
Refresh shows how this tried-and-tested ministry can be turned on its head and become a way of helping adults journey into faith. Drawing on years of experience, Caroline Montgomery describes in practical terms how to set up and run a group that is not only fun for children but refreshes the adults physically and also spiritually. The children play and enjoy a singing session; the adults have fresh coffee and pastries – and a five-minute thought for the day, sharing something of God.
The book is an excellent and reassuring guide, especially for any who have not tried this kind of outreach before. There are 33 ready-to-use (or easily adapted) ‘thoughts for the day’, with suggestions for relevant songs or YouTube clips. The comprehensive appendices cover (among other things) suggested layouts for different sized venues, tasks to do in advance and on the day, a list of possible toys and even a recipe for play dough.
The Refresh model can work in a large or small setting, and the book includes the experiences of the volunteers running the group as well as the some of those who have come along - and ended up coming to faith. Such stories are a helpful reminder of why these ministries are important in the first place. It’s not just about ‘getting people into church’ but drawing them to a personal and transformative encounter with the living God.
Rev Naomi Starkey
Refresh: Introducing adults to faith through toddler groups by Caroline Montgomery is published by BRF.