Cadeirlan Deiniol Sant ym Bangor i gynnal gwasanaeth carolau cymunedol y Sefydliad Brenhinol
Mae Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn cynnal cyngerdd carolau cymunedol ar gyfer y Sefydliad Brenhinol yr wythnos hon. Mae'r digwyddiad arbennig hwn yn rhoi sylw i bobl ifanc leol ac mae'n ymroddedig i gefnogi'r elusen Gymreig Piws, sydd wedi ymrwymo i greu Cymru fwy hygyrch.
Mae'r thema eleni yn dathlu'r rhai sy'n gofalu am bobl ifanc ac mae'r gwasanaeth yng Nghadeirlan Deiniol Sant yn cefnogi'r elusen leol Piws, a'i chenhadaeth yw creu Cymru fwy hygyrch i deuluoedd ag anableddau cudd neu weladwy.
Bydd y gwasanaeth, a gynhelir ddydd Mercher 6 Rhagfyr, yn cael ei gyflwyno gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Seymour Bailey, ac mae wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer y gwesteion arbennig o ysgolion lleol a fydd yn mynychu. Cymerwyd gofal gan Piws a thîm y Gadeirlan i greu gwasanaeth carolau sy'n hygyrch i blant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu difrifol ac anableddau anweladwy. Bydd cerddoriaeth, gweithgareddau, siâp ac arddull y gwasanaeth yn dra gwahanol i rai gwasanaethau carolau traddodiadol, ond mae’r cyfan wedi’i baratoi i greu awyrgylch croesawgar i’r gynulleidfa.
Rydym yn anelu at greu gofod lle gall pawb gamu allan a mwynhau diwrnod hyfryd gyda hyder diwyro.
Dywedodd Davina Carey-Evans, Sylfaenydd Piws, "Mae'n anrhydedd i ni fod yn rhan o'r digwyddiad unigryw hwn yng Nghymru, lle mae Piws yn cymryd y llwyfan o ran hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb.
"Mae bod yn rhan o'r ymdrech hon yn arwydd o ymrwymiad i rymuso teuluoedd ac unigolion, gan gadw at weledigaeth y Sefydliad Brenhinol. Gyda'n gilydd, rydym yn anelu at greu gofod lle gall pawb gamu allan a mwynhau diwrnod hyfryd gyda hyder diwyro.
"Mae arwyddocâd y digwyddiad hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r dathliad uniongyrchol — mae'n dyst i'n hymroddiad i leihau teimladau o unigedd. Ein cenhadaeth ar y cyd yw ysbrydoli darparwyr i weithredu newidiadau bach ond effeithiol, gan feithrin cynwysoldeb mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys addoldai.
"Mae'n arbennig o galonogol gweld ymgysylltiad brwdfrydig Cadeirlan Bangor, gan danlinellu eu hymrwymiad i hygyrchedd i bob nam."
Mae’r gwasanaeth carolau hwn yn dathlu’r gwerthoedd hynny o degwch a chyfiawnder, yn ogystal â llawenydd y Nadolig.
Wrth groesawu'r newyddion, dywed Siôn Rhys Evans, Is-Ddeon Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant, “Fe ryfeddwn ni yn stori’r Dolig ar i Dduw ddod i'n plith mewn plentyn bach bregus. Hawdd ydi rhoi sglein dros hynny, a gwneud y Dolig yn rhy felys. Rhaid i ledrith yr Ŵyl wasted gyd-fynd â’r her i wneud ein byd ni, sydd wedi’i fendithio gan bresenoldeb Duw, yn le tecach a mwy cyfiawn, yn enwedig i blant a phobl ifanc.
“Mae’r gwasanaeth carolau hwn yn dathlu’r gwerthoedd hynny o degwch a chyfiawnder, yn ogystal â llawenydd y Nadolig, ac rydym yn falch iawn o fod yn gwneud hynny yn y Gadeirlan eleni mewn partneriaeth â’r Sefydliad Brenhinol.”
Mae Cadeiriol Deiniol Sant yn un o 12 lleoliad i gynnal gwasanaeth carolau cymunedol ledled y DU ac mae'n ategu'r Gwasanaeth Carolau Nadolig Brenhinol yn Abaty Westminster sy'n cael ei gynnal gan Dywysoges Cymru. Bydd y gwasanaeth o San Steffan yn cael ei ddangos fel rhan o raglen arbennig ar ITV1 ac ITVX ar Noswyl Nadolig.
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor to host Royal Foundation community carol service
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor is hosting a community carol concert for The Royal Foundation this week. This special event places a spotlight on local young people and is dedicated to supporting the Welsh charity Piws, which is committed to creating a more accessible Wales.
This year's theme celebrates those who care for young people and the service at Saint Deiniol's Cathedral is in support of the local charity Piws, whose mission is to create a more accessible Wales for families with hidden and visible disabilities.
The service, which takes place on Wednesday 6 December, will be introduced by the Lord-Lieutenant for Gwynedd Edmund Seymour Bailey, and has been specially designed for invited guests from local schools.
Care has been taken by Piws and the Cathedral team to create a carol service that is accessible for children and young people with severe learning difficulties and non-visible disabilities. The music, activities, shape and style of the service will be quite different from some traditional carol services, but has all been prepared to create a welcoming environment for the congregation.
We aspire to create a space where everyone can step out and relish a delightful day with unwavering confidence.
Davina Carey-Evans, Founder of Piws, says, “We are honoured to be part of this unique event in Wales, where Piws takes centre stage in championing inclusion and equality.
“Being involved in this endeavour signifies a commitment to empowering families and individuals, aligning seamlessly with the Royal Foundation's shared vision. Together, we aspire to create a space where everyone can step out and relish a delightful day with unwavering confidence.
“The significance of this event extends beyond the immediate celebration—it is a testament to our collective dedication to minimizing feelings of isolation. Our joint mission is to inspire providers to implement small yet impactful changes, fostering inclusivity in diverse settings, including places of worship.
“It is particularly heartening to witness the enthusiastic engagement of Bangor Cathedral, underscoring their commitment to accessibility for all impairments.”
This carol service celebrates those values of fairness and justice, as well as the joy of the gift of Christmas.
Welcoming the news, Siôn Rhys Evans, Sub-Dean of Saint Deiniol’s Cathedral, says, “We marvel at Christmas at God coming among us in a vulnerable child. Sometimes we gloss over that, and make Christmas too sweet. Christmas’s magic is always paired up with the challenge to make our world, blessed by God’s presence, a fairer and more just place, especially for children and young people.
“This carol service celebrates those values of fairness and justice, as well as the joy of the gift of Christmas, and we’re delighted to be doing so at the Cathedral this year in partnership with the Royal Foundation.”
Saint Deiniol's Cathedral is one of 12 locations to host a community carol service across the UK and complements the Royal Christmas Carol Service at Westminster Abbey which is hosted by the Princess of Wales. The service from Westminster will be shown as part of a special programme on ITV1 and ITVX on Christmas Eve.