Cysegru Esgob newydd Tyddewi yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Bydd Esgob newydd Tyddewi yn cael ei ei gysegru mewn gwasanaeth arbennig Dydd Sadwrn 27 Ionawr yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.
Yn ystod y gwasanaeth caiff yr Esgob Dorrien ei eneinio gydag olew sanctaidd a chyflwynir symbolau’r swydd iddo: modrwy esgob, brongroes a meitr, yn ogystal â Beibl a bagl esgob.
Bydd y côr yn canu darn o gerddoriaeth newydd wrth i’r symbolau gael eu cyflwyno. Wedi’i gyfansoddi gan Joe Cooper, cyfarwyddwr cerdd y Gadeirlan, mae’n osodiad o gerdd Gymraeg o’r 16fed ganrif gan Dafydd Trefor am gysegriad Deiniol, Esgob cyntaf Bangor.
Caiff y gwasanaeth cysegru ei arwain gan yr Archesgob gydag esgobion eraill Cymru gyda 300 o wahoddedigion yn bresennol yn cynnwys eglwysi a sefydliadau dinesig ledled Cymru. Bydd esgobion o eglwysi Anglicanaidd eraill yn y Deyrnas Unedig – Eglwys Lloegr, Eglwys Iwerddon ac Eglwys Esgobaethol yr Alban – hefyd yn bresennol.
Fe’i cynhelir yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor gan mai dyna sedd Archesgob cyfredol Cymru, Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor.
Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 2pm a chaiff ei ffrydio’n fyw ar sianel Youtube y Gadeirlan.
Mae croeso hefyd i ohebwyr fynychu.
Darllenwch fwy ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Saint Deiniol's Cathedral to host consecration of new Bishop of St Davids
The new Bishop of St Davids will be consecrated at a special service at Saint Deiniol's Cathedral in Bangor on Saturday 27 January.
During the service, Bishop Dorrien Davies will be anointed with holy oil and presented with the symbols of office: a bishop’s episcopal ring, a pectoral cross, a mitre, a Bible and a pastoral staff.
The choir will sing a new music composition as the symbols are presented. Composed by the Cathedral music director, Joe Cooper, it is a setting of a sixteenth century Welsh poem by Dafydd Trefor about the consecration of Deiniol, the first Bishop of Bangor.
The consecration service will be led by the Archbishop and the other Welsh diocesan bishop. Over 300 guests representing churches and civic institutions across Wales will be in attendance. Bishops from the other Anglican churches in the UK - the Church of England, the Church of Ireland, and the Scottish Episcopal Church – will also be present.
The service takes place at St Deiniol’s Cathedral as that is the seat of the current Archbishop of Wales, Andrew John, who is also the Bishop of Bangor.
The service starts at 2pm and will be live-streamed on the Cathedral’s Youtube channel.
Read more on the Church in Wales website.