minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Archesgob yn hyrwyddo Eglwysi’n Cyfrif ar Natur

Bydd mynwentydd yn dathlu eu bywyd gwyllt mewn digwyddiad wythnos o hyd ym mis Mehefin.

O flodau gwyllt i bryfed, adar a mamaliaid, mae creaduriaid o bob maint wedi canfod hafan ym mannau claddau Prydain ers canrifoedd gan na fu fawr iawn o darfu ar y tir.

Yn ystod Wythnos Caru Eich Man Claddu ac Eglwysi’n Cyfrif ar Natur gwahoddir pawb i ymchwilio’r mannau arbennig hyn a helpu arolygu yr hyn a welant.

Caiff yr wythnos, a gynhelir rhwng 8-16 Mehefin, ei threfnu gan Caring for God’s Acre a’i chefnogi gan yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Lloegr ac A Rocha UK. Mae’r digwyddiadau a gynhelir yn amrywio o ‘gyfrif natur’ bioamrywiaeth mewn mynwentydd eglwysi, i gofnodi cofebau a theithiau mewn mynwentydd trefol. Gall pobl ymuno wrth gofnodi’r bywyd gwyllt a welant yn defnyddio ap iNaturalist. Bydd hefyd gyfres o weminarau yn ystod yr wythnos y gall pawb ymuno ynddynt.

Mae Andrew John, Archesgob Cymru, yn gwahodd eglwysi i gymryd rhan. Dywedodd, “Cawsom ein bendithio gyda mynwentydd sy’n gyfoethog mewn bywyd planhigion ac anifeiliaid ac mae hyn yn rhywbeth i’w ddathlu a’i feithrin. Mae Eglwysi’n Cyfrif ar Natur yn ystod yr wythnos Caru Eich Man Claddu ym mis Mehefin yn ffordd rwydd a llawn hwyl i wneud yn union hynny. 

"Rwy’n annog ein heglwysi i gymryd rhan – cynnal digwyddiad, gwahodd y cymdogion ac ymchwilio’r trysorau naturiol sydd o’n cwmpas. A phan gofnodwn yr hyn a ddarganfyddwn, rydym yn ychwanegu at y darlun cenedlaethol o gyflwr ein bywyd gwyllt ac wrth wneud hynny, yn helpu i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ydych chi'n cymryd rhan?

Ebost mattbatten@cinw.org.uk

Mwy o wybodaeth

Mwy am yr wythnos

Map o ddigwyddiadau a gweithgareddau 

Gweminarau

Cymraeg

Archbishop champions Churches Count on Nature

Churchyards and cemeteries will be celebrating their wildlife in a week-long event in June.

From wildflowers to insects, birds and mammals, all creatures great and small have found a haven in the UK’s burial grounds for centuries as the land has been largely undisturbed.

During Love Your Burial Ground Week and Churches Count on Nature everyone is invited to explore these special places and help survey what they find.

The week, which takes place June 8-16, is organised by Caring for God’s Acre and is supported by the Church in Wales, the Church of England and A Rocha UK. Events taking place range from biodiversity ‘nature counts’ in churchyards, to memorial recording and tours in urban cemeteries. People can join in recording the wildlife they find using the iNaturalist app. There will also be a series of webinars during the week that anyone can join.

The Archbishop of Wales, Andrew John, is inviting churches to take part. He says, “We are blessed with churchyards rich in plant and animal life and this is something to celebrate and to nurture. Churches Count on Nature during Love Your Burial Ground week in June is an easy and fun way to do just that. 

"I encourage our churches to get involved - hold an event, invite the neighbours and explore the natural treasures all around us. And when we record our discoveries we are adding to the national picture of the state of our wildlife and in so doing, helping to protect it for future generations.”

Are you taking part?

If your church or Ministry Area is taking part please email mattbatten@cinw.org.uk

More information