minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Penodi Cyfarwyddwr Gweinidogaeth newydd ar gyfer Esgobaeth Bangor

Mae Archesgob Cymru ac Esgob Enlli yn falch o gyhoeddi y bydd y Parchedig Alexier Mayes yn ymuno â’r esgobaeth fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth newydd a Chanon Eglwys Deiniol Sant ym Mangor.

Bydd Alex yn arwain y gwaith o gydlynu prosesau gweinidogol yr esgobaeth i gefnogi pawb sy’n rhannu yng ngweinidogaeth yr Archesgob a’r Esgob ar draws yr esgobaeth, a bydd yn adeiladu ar y gwaith caled sydd wedi cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i dyfu gweinidogaethau newydd o dan arweiniad yr Esgob David.


Bydd Alex yn dod â llawenydd a brwdfrydedd heintus i’w gweinidogaeth newydd yn ein plith

Yn ei rôl newydd, bydd Alex yn gweithio ochr yn ochr ag Arweinwyr Ardal ein Gweinidogaeth, Offeiriaid, Gweinidogion Trwyddedig Lleyg ac Arloeswyr i alluogi’r gwaith o ddatblygu gweinidogaethau newydd, yn ogystal â chefnogi’r rhai sy’n ystyried eu galwedigaeth i weinidogaethau penodol.

Bydd Alex hefyd yn goruchwylio ein myfyrwyr a’n curadiaid gweinidogol, ein hymgysylltiad ag Athrofa Padarn Sant, a chyfarfodydd Grŵp Cadfan.

Meddai’r Esgob David Morris, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu Alex i’r esgobaeth. Mae Alex yn frwdfrydig ynghylch meithrin disgyblion, dirnad galwedigaethau a datblygu’r weinidogaeth, ac mae’n dod atom gyda 13 mlynedd o brofiad o weinidogaeth blwyfol a hefyd, yn fwy diweddar, fel swyddog galwedigaethau yn esgobaeth Llanelwy. 

"Bydd Alex yn dod â llawenydd a brwdfrydedd heintus i’w gweinidogaeth newydd yn ein plith.”

Yn ei rôl, bydd Alex yn gweithio’n agos gyda’i chydweithwyr ar Gyngor yr Esgob a gyda’i chymheiriaid yn esgobaeth Llanelwy i barhau i weithio’n agos gyda’i gilydd ledled Gogledd Cymru ym mhob agwedd ar alwedigaeth a hyfforddiant.

Meddai’r Archesgob Andrew John, “Rwy’n falch iawn bod Alex wedi derbyn y penodiad hwn. Bydd ei hegni, ei doethineb a’i phrofiad yn sicrhau bod ein gwaith o ddatblygu gweinidogaethau amrywiol yn yr esgobaeth yn parhau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda hi yn fuan iawn.”

Meddai’r Esgob Llanelwy Gregory Cameron,“Fel offeiriad yn esgobaeth Llanelwy, mae Alexier wedi cael ei llenwi ag egni ac optimistiaeth. Rwy’n siŵr y bydd hi’n arddel y talentau hyn yn ei rôl newydd ym Mangor. Gwyliwch allan!”

Meddai y Parchg Alex, Rwy’n falch iawn o fod yn dod i Esgobaeth Bangor fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth. Mae llawer o gyfleoedd gwych ar gyfer gweinidogaeth a chenhadaeth ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr heriau a’r llawenydd a fydd yn dod gyda’r rôl ac, wrth gwrs, at ddod i adnabod pawb a gweithio allan sut y gallaf hwyluso galwad Duw ym mywydau pobl. Lleyg ac wedi’u hordeinio."

Cynhelir gwasanaeth trwyddedu'r Parchg Alex yng Nghadeirlan Sant Deiniol ym Mangor ar 18 Awst am 3pm.

Am y Parchg Alex

Er fy mod i’n newydd i’r Esgobaeth, mae fy nhad yn hanu o Ynys Môn ac felly mae gen i lawer o deulu yng ngogledd yr ynys. Fe gafodd hyd yn oed ei gonffyrmio yn yr Eglwys Gadeiriol.

Rwyf wedi treulio fy mywyd i gyd ers cael fy ordeinio nid nepell i ffwrdd yn Esgobaeth Llanelwy ac, ar ôl gadael Coleg San Mihangel (fel yr oedd bryd hynny – Padarn Sant erbyn hyn) fe fues i’n gurad yng Nghroesesgob, Sir y Fflint. Yn 2014, fe ddes i’n ficer yn y canolbarth gan wasanaethu yn eglwysi gwledig Mochdre, Ceri, Llanmerewig a’r eglwys fwyaf deheuol yn esgobaeth Dolfor.Ar ôl fy mherigloriaeth gyntaf, fe ymgymerais i â rôl offeiriad cyfrifol yn y dref fwyaf yn Sir y Fflint – Cei Connah yn Ardal Cenhadaeth y Gororau. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf hefyd wedi bod yn gynghorydd galwedigaethau ar gyfer yr Esgobaeth ac, yn ddiweddarach, yn Swyddog Galwedigaethau, yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Gweinidogaeth. Mae gen i brofiad o weinidogaeth gwledig a threfol ac rwyf wedi mwynhau’r ddwy am wahanol resymau. Rwyf wedi mwynhau helpu pobl i ddirnad ac ymarfer eu galwedigaeth yn fawr – mae wedi bod yn fendith go iawn.

Fe ges i fy magu yn Timperley gyda fy chwaer, Zelda, sy’n efell unwy i mi, a’m brawd iau, Marcus. Ar ôl gadael ysgol, fe ddechreuais i weithio i Gownteri Swyddfa’r Post ac fe wnes i ddringo’r ysgol gan adael yn Hyfforddwr Asiantaeth (yn addysgu pobl sut i redeg Swyddfeydd Post). Cyn mynd i’r weinidogaeth, fe wnes i weithio ym Maes Awyr Manceinion, yn gyntaf yn y siop gerddoriaeth (Virgin) ac wedyn i Thomas Cook yn ei Swyddfa Bost. Fy rôl ddiwethaf oedd Archwilydd ar gyfer Travelex ar y peiriannau arian parod.

Fe wnes i gyfarfod â’m gŵr, George, yng Ngholeg San Mihangel, ac fe briodon ni dros 5 mlynedd yn ôl erbyn hyn, yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae gennym ni 2 gi dachshund, Agatha a Carina, ac mae’r ddau ohonom yn y weinidogaeth.

Er bod fy rhieni’n dod o Gymru a mam yn siarad Cymraeg iaith gyntaf, dydw i ddim wir wedi dysgu’r iaith yn rhugl felly, ar hyn o bryd, rwy’n mwynhau dysgu Cymraeg ar Duo Lingo ac wedi dod ar draws ymadrodd y byddwch chi’n fy nghlywed i’n ei ddweud yn aml mae’n siŵr, sef ‘Gwnes i fwyta’r siocled ‘na’.

Rwy’n mwynhau cerddoriaeth, darllen, ffilm, theatr, posau a chwaraeon (rwy’n cefnogi Manchester City a Wrecsam!) Rwy’n hoff iawn o gymdeithasu ac rwy’n mwynhau dod i nabod pobl dros goffi a chacen ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â theulu esgobaeth Bangor.”

Bydd rhagor o fanylion ynghylch sefydlu a thrwyddedu Alex yn dilyn maes o law.

Cymraeg

New Director of Ministry for the Diocese of Bangor

The Archbishop of Wales and the Bishop of Bardsey are pleased to announce that the Reverend Alexier Mayes will be joining the diocese as the new Director of Ministry and Canon of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.

Alex will take the lead in coordinating our diocesan ministerial processes to support all who share in the Archbishop and Bishop’s ministry across the diocese and will build on the hard work of recent years under Bishop David’s leadership to grow new ministries.


Alex will bring an infectious joy and enthusiasm to her new ministry among us.


Bishop David Morris says: “We’re very much looking forward to welcoming Alex to the diocese. Alex is passionate about growing disciples, vocational discernment and ministry development, and she comes to us with 13 years experience of parochial ministry and latterly also as a vocations officer in the diocese of St Asaph. 

"Alex will bring an infectious joy and enthusiasm to her new ministry among us.”

Alex’s new role will see her working alongside our Ministry Area Leaders, Clergy, Lay Licensed Ministers and Pioneers to enable the development of new ministries, as well as supporting those exploring their vocation to specific ministries.

Alex will also oversee our ministerial students and curates, our engagement with St Padarn’s Institute, and our Grŵp Cadfan meetings.

Alex will work closely with her colleagues on the Bishop’s Council and with her counterpart in the diocese of St Asaph to continue to work closely together across North Wales in all aspects of vocation and training.

Archbishop Andrew John says: “I’m delighted Alex has accepted this appointment. Her energy, wisdom and experience will ensure our development of diverse ministries in the diocese continues. We look forward to working with her very soon.”

Bishop of St Asaph Gregory Cameron says: “As a priest in the diocese of St Asaph, Alexier has been filled with energy and optimism. I’m sure she will bring these talents to bear in her new role in Bangor. Look out!”

Revd Alex says, "I’m over the moon to be coming to the Diocese of Bangor as Director of Ministry. There are a lot of great opportunities for ministry and mission and I’m really looking forward to the challenges and joys that the role brings, and of course getting to know everyone and working out how I can facilitate God’s calling in people’s lives both Lay and ordained."

Revd Alex's licensing service takes place at Saint Deiniol's Cathedral in Bangor on 18 August at 3pm.

About Alex

Although I’m new to the Diocese, my father was from Anglesey and so I have lots of family in the north of the Island. He was even confirmed in the Cathedral.

I’ve spent the whole of my ordained life not far away in the Diocese of St Asaph and since leaving St Michael’s College (as it was then- now St Padarn’s) I served my curacy in Bistre, Flintshire. In 2014 I became vicar in mid Wales and served in the rural churches of Mochdre, Kerry, Llanmerewig and the southernmost church in the diocese Dolfor. After my first incumbency, I took a role as priest in charge in the biggest town in Flintshire - Connah’s Quay in the Borderlands Mission Area. During this time, I’ve also been a vocational advisor for the Diocese and latterly Vocations Officer, working with the Director of Ministry. I have experience of both rural and town ministry and have enjoyed both for different reasons. I have loved helping people to discern and exercise their vocation, it has been a real blessing.

I was brought up in Timperley along with my identical twin sister Zelda and younger brother Marcus. After leaving School I started to work for Post Office Counters and went up the ladder leaving as an Agency Trainer (teaching people how to run PO’s). Before going into ministry, I worked at Manchester Airport, firstly, in the music store (Virgin) and then for Thomas Cook in their Post Office. My last role was as Auditor for Travelex on the cash machines.

I met my husband George in St Michael’s College and got married over 5 years ago now at St Asaph Cathedral. We have 2 Dachshunds, Agatha and Carina, and we are both in ministry.

Although I have Welsh parents and mum is a first language Welsh speaker, I haven’t really learned the language fluently so I’m currently enjoying learning Welsh on Duolingo and have found a phrase you’ll probably hear me say lots ‘Gwnes I fwyta’r siocled ‘na’.

I enjoy music, reading, film, theatre, puzzles and sport (Manchester City and Wrexham supporter!). I’m a very sociable person and enjoy getting to know people over a coffee and cake and I’m very much looking forward to joining the Bangor diocesan family.”