Archesgob Cymru yn ailagor eglwys yng Ngogledd Cymru ar ôl degawd heb wasanaethau addoli
Mae Archesgob Cymru wedi ailagor eglwys yng Ngogledd Cymru sydd wedi bod heb wasanaethau addoli ers dros ddegawd. Cafodd Eglwys y Santes Fair ym Morfa Nefyn ei hailagor gan yr Archesgob yn ystod gwasanaeth arbennig ddydd Sul 2 Mehefin ar ôl cyfnod o ddeng mlynedd heb addoli rheolaidd yn yr eglwys.
Cafodd Eglwys y Santes Fair, ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, ei hadeiladu yn 1870 ac mae hi wedi bod yn gonglfaen i fywyd ysbrydol a chymunedol Morfa Nefyn ers cenedlaethau. Pan ddaeth addoli yn yr eglwys i ben, sefydlodd aelodau'r gymuned leol bwyllgor o'r enw Cyfeillion Eglwys y Santes Fair gan drefnu digwyddiadau dathlu drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod yr eglwys yn parhau i fod yn rhan fywiog o'r gymuned.
Dechreuodd y daith i ailagor Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaethau addoli rheolaidd pan ddaeth y Parchedig Kevin Elis yn ficer Ardal Weinidogaeth Bro Madryn. Fe ddechreuodd fynychu'r digwyddiadau a dechrau meithrin cydberthynas gref â Chyfeillion Eglwys y Santes Fair.
Mae'r weledigaeth hirdymor ar gyfer Eglwys y Santes Fair yn cynnwys sefydlu cynulleidfa leol, Cymraeg ei hiaith i raddau helaeth, sydd wedi'i gwreiddio'n gadarn yn nhraddodiadau diwylliannol ac ysbrydol y gymuned.
Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, “Pleser o’r mwyaf yw cael ailagor Eglwys y Santes Fair ar gyfer addoli rheolaidd. Rwy’n falch iawn bod yr eglwys annwyl hon, sydd wedi’i chynnal gyda chariad ac ymroddiad gwirfoddolwyr, unwaith eto'n ganolbwynt cymunedol bywiog lle gall pobl ddod at ei gilydd i archwilio’u ffydd a magu ymdeimlad o berthyn. Hoffwn ddiolch i'r Parchedig Kevin a phawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.”
Dywedodd y Parchedig Kevin, “Mae’r ailagor wedi digwydd drwy wylio a gwrando ar yr hyn sy’n digwydd – ac yna ymuno. Rwy'n falch o gael ffordd arall o gyflwyno’r Iesu i bobl Bro Madryn.”
I ddathlu ailagor yr eglwys, mae Eglwys y Santes Fair wedi cynllunio cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol yr haf. Nod y digwyddiadau hyn yw uno'r gymuned a dathlu pennod newydd a chyffrous yn hanes Eglwys y Santes Fair Morfa Nefyn.
Darllenwch fwy
Ailagor eglwys yng Ngwynedd wedi degawd o fod ar gau (BBC Cymru Fyw)
Archbishop of Wales reopens North Wales church after a decade of no worship
A North Wales church which has been without worship services for over a decade has been reopened by the Archbishop of Wales. The Archbishop reopened St Mary’s Church in Morfa Nefyn during a special service on Sunday 2 June after a ten-year absence of regular church worship.
St Mary’s Church, on the north coast of the Llŷn Penninsula, was bult in 1870 and has been a cornerstone of Morfa Nefyn’s spiritual and communal life for generations. When church worship ceased, local community members set up a committee called the Friends of St Mary’s and organised celebration events throughout the year to ensure the church remained a vibrant part of the community.
The journey to reopening St Mary’s for regular worship began when Revd Kevin Elis became vicar of Bro Madryn Ministry Area and started attending the events and began building a strong relationship with the Friends of St Mary’s.
The long-term vision for St Mary’s includes establishing a local, largely Welsh-speaking congregation that is firmly rooted in the community’s cultural and spiritual traditions.
Archbishop of Wales Andrew John said, “It is a profound joy to reopen St Mary’s Church for regular worship. I am delighted that this cherished church, maintained with love and dedication by volunteers, is once again a vibrant community hub where people can come together to explore their faith and find a sense of belonging. My thanks to Revd Kevin and everyone involved who have made this possible.”
Revd Kevin said, “The re-opening comes about because of watching and listening to what is going on - and then joining in. I am pleased to have another way of presenting Jesus to the people of Bro Madryn.”
To celebrate the reopening, St Mary’s Church has planned a series of events throughout the summer. These events aim to unite the community and celebrate a new and exciting chapter in the history of St Mary’s Morfa Nefyn.
Listen again
Interview with Revd Kevin Ellis (BBC Radio Wales, starts at 56mins)