minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Fe’u galwyd gan Dduw: Stori Andy

Mae dau ymgeisydd o'n hesgobaeth wedi bod yn llwyddiannus yn y Panel Dirnadaeth Taleithiol. Llongyfarchiadau i Karen Morris o Fro Celynnin a fydd yn dilyn gweinidogaeth ordeiniedig ddigyflog ac Andy Broadbent o Fro Dwylan fydd yn ddiacon cyflogedig gyda hyfforddiant parhaus.

Rydym yn siarad ag Andy am ei daith alwedigaethol a'i fywyd yn teithio gyda Duw.

Andy, Ordeinio 2023

Fy enw i yw Andy Broadbent, rydw i'n 37 oed. Rwyf eisoes wedi fy ordeinio a hynny yn 2023 fel diacon parhaol, ac rwyf wedi gweithio am y rhan fwyaf o'm gyrfa fel arolygydd lles anifeiliaid yng ngogledd Cymru. Rwy'n briod â Katy ac mae gennym ddau o blant, Jenny (11) a Logan (10). Rwyf wedi bod yn gweinidogaethu ym Mro Dwylan o dan y Parch Tom Saunders dros y blynyddoedd diwethaf.

Allwch chi ddisgrifio'r foment neu'r gyfres o ddigwyddiadau pan deimloch chi am y tro cyntaf eich bod chi'n cael eich galw i'r offeiriadaeth? Sut wnaethoch chi adnabodhon fel galwad gan Dduw?

I ddechrau, cefais fy nirnad i'r ddiaconiaeth barhaol ac yna fy ordeinio i'r swyddogaeth hon yn 2023. Fy ngalwad yw helpu pobl, ymgysylltu â Gair Duw a mynd â’r llawenydd a chariad ffydd, yr eglwys a'r berthynas y gallwn ei chael gyda Duw allan i'r gymuned. Roeddwn i'n hapus i geisio cydbwyso hyn â gwaith seciwlar a bywyd teuluol ac roedd yn ymddangos yn berffaith i mi.

Fodd bynnag, wedi imi gael fy ordeinio, dechreuais gael fy ngwthio a'm pwnio gan yr Ysbryd i barhau â dirnadaeth. Roeddwn i'n gweld mai calon popeth yr oeddwn i'n arwain pobl tuag ato oedd y Cymun, ac er bod pobl yn gofyn i mi ei weinyddu gyda nhw, dim ond eu cyfeirio nhw at y bwrdd yr oeddwn yn gallu ei wneud, ni allwn ei osod a gweinyddu ar eu cyfer. Roedd pobl yn gofyn i mi wrando ar eu cyffesion, ond fel diacon nid oeddwn yn gallu maddau eu pechodau. Ac yn bennaf oll, wrth weithio gyda'r ysgolion a'r plant, teimlais fod fy nghalon yn galw’n daer arnaf i’w bendithio nhw, ond unwaith eto nid swyddogaeth diacon oedd hynny.

Gwnaeth y procio cyson hyn i mi ailystyried a oeddwn wedi cynnig fy hun mor llawn ag y gallwn mewn gwirionedd a chysylltais â’r Esgob David a dechreuom broses o ddirnadaeth eto, ond y tro hwn i ganfod pa un ai hwn oedd y cyfeiriad iawn o ran a oedd gweinidogaeth offeiriadol y llwybr cywir i mi ei ddilyn. Gyda gras a chariad Duw, hwn yn wir oedd y llwybr a gafodd ei ddirnad ar fy nghyfer.

Beth yw rhai o'r heriau mwyaf yr ydych chi wedi'u hwynebu wrth ddirnad eich galwedigaeth i'r offeiriadaeth? Sut wnaethoch chi oresgyn yr heriau hyn?

Yr her fwyaf fu cydbwyso dirnadaeth a'r realiti o fod yn weinidog rhan-amser gyda gwaith seciwlar. Mae wedi bod yn anodd sicrhau fy mod ar gael ar gyfer yr holl gyrsiau a chyfarfodydd, yn ogystal â bod ag amser i baratoi ar gyfer gwasanaethau ac ymgysylltu â bywyd yr ardal weinidogaeth. Pan wnes i ddirnad i fod yn ddiacon am y tro cyntaf, roeddwn i eisiau aros mewn gwaith seciwlar ond cyn hir dechreuais sylweddoli cymaint yr oeddwn yn mwynhau bod yn weinidog yn eglwys ddaearol Duw a helpodd hyn i mi benderfynu dirnad ar gyfer gweinidogaeth amser llawn.

Andy a'i deulu, Ordeinio 2023

Ym mha ffyrdd y cafodd eich ffydd ei chryfhau neu ei phrofi yn ystod y daith hon?

Rwyf wedi canfod doniau nad oeddwn erioed yn gwybod eu bod nhw gennyf i. Doniau y mae Duw wedi'u rhoi i mi na fyddwn i erioed wedi’u canfod pe na bawn i wedi dod i gysylltiad â phregethu neu arwain gwasanaeth. Mae’r canfyddiad hwn yn dangos cymaint yw cariad a thrugaredd Duw tuag ataf ac mae’n fy llanw â pharchedig ofn.

Mae dirnadaeth a hyfforddiant wedi fy ngalluogi i gwrdd â chymaint o Gristnogion o bob eglwysyddiaeth, mynegiant o ffydd a chefndir, ac mae wedi bod yn bleser gwirioneddol darganfod pa lwybr sydd gan Dduw i mi ochr yn ochr â thorf mor fywiog a chyffrous o dystion i gynlluniau Duw ar ein cyfer ni i gyd.

Pwy fu'r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn eich taith ysbrydol, a pha effaith maen nhw wedi'i chael arnoch chi?

Fy arwr ysbrydol yw Sant Ffransis o Assisi. Mae Sant Ffransis yn ddiddorol oherwydd y ffordd yr oedd yn cofleidio gwahanglaf. Roedd gwahangleifion yn codi ofn mawr arno, roedd yn eu hystyried yn annymunol hyd yn oed. Ac eto, un diwrnod, cyfarfu â dyn ar y ffordd a oedd yn dioddef o'r clefyd ac er iddo droi i ffwrdd i redeg i ddechrau, trodd yn ôl a'i gofleidio a'i gusanu. Yn y foment honno sylweddolodd fod yr hyn a oedd wedi bod yn chwerw iddo wedi dod yn felys. Canfu fod gwir lawenydd a hapusrwydd i'w gael wrth gofleidio eraill mewn gostyngeiddrwydd a chariad, doed a ddelo, oherwydd dyma a wnaeth Iesu er ein mwyn ni.

Mae hyn yn bwysig iawn i mi gan ei fod wrth wraidd yr hyn y mae Iesu'n galw arnon ni i'w wneud, i edrych ar y rhai o'n cwmpas, ac ni waeth pwy ydyn nhw, na beth allai'r amgylchiadau fod, eu cofleidio â chariad. Mae'n rhywbeth sydd wedi peri trafferth i mi yn fy ngorffennol, rwyf wedi bod â rhagfarnau, rwyf wedi bod yn angharedig ac yn feirniadol, ond fe wnaeth Sant Ffransis fy atgoffa o'r alwad i garu yr oedd Iesu yn ei datgan a chywirodd hyn fy marn i ynghylch gostyngeiddrwydd a balchder.

A oes yna feysydd penodol o weinidogaeth neu wasanaeth yr ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich galw i’w cyflawni?

Rwyf wrth fy modd yn siarad â grwpiau ysgol am ffydd, arwain gweinidogaeth teuluoedd ifanc ac ymgysylltu â'r gymuned. Alla i ddim aros i allu rhannu llawenydd y Cymun a phawb, i ddweud wrthynt heb unrhyw ansicrwydd eu bod yn cael maddeuant ac yna eu hanfon ymaith gyda bendith gan Dduw sy'n llawn o'i nerth a'i gariad.

Rwyf wrth fy modd yn arwain gwasanaethau a phregethu yn ein heglwysi hardd a'n mannau naturiol fel ei gilydd. Rwy'n gobeithio y bydd fy ngweinidogaeth yn gymysgedd bywiog o'r holl elfennau hyn, wedi'u gwreiddio yn y Cymun, yn llawn gobaith a bendith ac yn estyn allan i'n cymunedau a'n teuluoedd mewn ffyrdd hynod draddodiadol a hefyd mewn ffyrdd newydd ac annisgwyl.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried galwedigaeth i'r offeiriadaeth am y tro cyntaf?

Ewch amdani! Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych yr amser i’w roi, neu nad oes gennych y sgiliau i'w gyflawni, neu efallai eich bod yn teimlo eich bod yn rhy hen neu'n rhy ifanc, neu'n rhy brysur neu'n rhy swil. Does dim ots. Gofynnwch i chi eich hun, 'A ydw i'n cael fy ngalw i'r weinidogaeth?'

Mae Duw wedi rhoi doniau i ni, mor hael â'r rhai a roddwyd i bawb arall. Mater i ni yw canfod beth ydyn nhw a’i defnyddio i adeiladu'r deyrnas. Fe wnaeth esgobaeth Bangor a Padarn Sant fy helpu i ganfod y doniau a oedd gen i ond nad oeddwn yn gallu eu gweld. Rwyf wedi dysgu llawer ac wedi magu hyder a'r gallu i garu.

Fy nghyngor i yw gofyn y cwestiwn a chwilio am eich doniau a gweld i ba gyfeiriad y bydd eich cam nesaf yn mynd â chi. Bydd tuag at Dduw.


Os ydych am archwilio’n bellach yn sgil hynny, siaradwch â'ch ficer lleol neu edrychwch ar ein gwefan.

Cymraeg

Called by God: Andy’s story

Two candidates from our diocese have been successful at Provincial Discernment Panel. Congratulations to Karen Morris from Bro Celynnin who will pursue non-stipendiary ordained ministry and Andy Broadbent from Bro Dwylan is to become a stipendiary deacon with ongoing training.

We talk to Andy about his vocation journey and his life journeying with God.

Andy, Ordinations 2023

My name is Andy Broadbent, I’m 37 years old. I am already ordained as of 2023 as a permanent deacon, and have worked for most of my career as an animal welfare inspector in North Wales. I am married to Katy and have two kids, Jenny (11) and Logan (10). I have been ministering in Bro Dwylan under rev. Tom Saunders for the last few years.

Can you describe the moment or series of events when you first felt called to the priesthood? How did you recognise this as a call from God?

Initially I was discerned to the permanent diaconate and ordained into this role in 2023. My calling is to help people, to engage with the Word of God and to take the joy and love of faith, church and the relationship we can have with God out to the community. I was happy to try and balance this with secular work and family life and it seemed a perfect fit for me.

However, once I was ordained I began to be pushed and prodded by the Spirit to continue discernment. I was finding that the heart of everything I was leading people toward was the Eucharist, and despite people asking for me to celebrate it with them, I could only point them towards the table, I couldn’t lay it for them and serve them. I had people ask me to hear confession, but as a deacon I couldn’t offer them absolution. And most of all, when working with the schools and children, I found that my heart cried out to bless them, but again it wasn’t the role of a deacon.

These constant prompts made me reconsider if I had perhaps offered myself as fully as I could have and I approached Bishop David and we began again a process of discernment, only this time as to whether or not a priestly ministry was the direction for me to take. With the grace and love of God, this was indeed the path that was discerned for me.

What are some of the biggest challenges you’ve faced while discerning your vocation to the priesthood? How did you overcome these challenges?

The biggest challenge has been balancing discernment and the realities of being a part-time minister with secular work. It has been difficult making myself available for all the courses and meetings, as well as having the time to prepare for services and engage with the life of the ministry area. When I first discerned to be deacon, I wanted to remain in secular work but I soon began to realise how much I enjoy being a minister in God’s earthly church which helped me decide to discern for full-time ministry.

Andy and family, Ordinations 2023

In what ways has your faith been strengthened or tested during this journey?

I’ve found gifts that I never knew I had. God has given me gifts that had I never been exposed to preaching or leading a service I likely would never have found. I can only be left in greater awe of God's love and mercy for me.

Discernment and training has allowed me to meet so many Christians of all churchmanship, faith expressions and backgrounds, and it has been a real joy to find out what path God has for me alongside such a vibrant and exciting crowd of witnesses to God’s plans for us all.

Who have been the most influential figures in your spiritual journey, and what impact have they had on you?

My spiritual hero is St Francis of Assisi. St Francis is interesting because of the way he embraced a leper. He was terrified of those with leprosy, repulsed even. Yet one day he met a man on the road afflicted with the disease and whilst he initially turned away to run, he turned back and embraced and kissed him. In that moment he found that what had been bitter to him became sweet. He found that true joy and happiness is found in the simple embracing of others in humility and love, regardless of everything else because this is what Jesus did for us.

This speaks to me deeply as it is the heart of what Jesus calls us to do, to look to those around us, and no matter who they are, or what the circumstances may be, to embrace them with love. It’s something I’ve struggled with in my past, I have had my prejudices, I’ve been unkind and judgmental, but St Francis reminded me of the call to love that Jesus proclaimed and set me straight on a few things about humility and pride.

Are there specific areas of ministry or service you feel especially called to?

I love talking to school groups about faith, leading young families ministry and engaging with the community. I can’t wait to be able to share with everyone the joy of the Eucharist, to tell them with no uncertainty that they are forgiven and to send them on their way with a blessing from God that is full of His power and love.

I love leading services and preaching in our beautiful churches and natural spaces alike. I hope my ministry will be a lively mix of all these elements, rooted in the Eucharist, full of hope and blessing and reaching out to our communities and families in ways both deeply traditional and also new and unexpected.

What advice would you give to someone who is beginning to explore a vocation to the priesthood?

Go for it! You might feel that you don’t have the time to give, or don’t have the skills to do it, or might be too old or too young, or too busy or too shy. It doesn’t matter. Ask yourself, “Am I being called to ministry?”

God has given us gifts as gracious as those given to everyone else. It is up to us to find what they are to use them toward building the kingdom. The diocese of Bangor and St Padarn’s helped me find the gifts I had but couldn’t see. I have learned a lot and have grown in confidence and the capacity to love.

My advice is to ask the question and look for your gifts and see which direction your next step will take you. It will be toward God.


More information about exploring your vocation is on our website. If you want to explore your vocation further please talk to your local priest.