minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cadeirlan Bangor yn cynnal gwasanaeth ordeinio gorfoleddus i’r offeiriad ifanc Josie

Cynhaliwyd gwasanaeth ordeinio Josie Godfrey ddydd Sadwrn, 29 Mehefin, yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Roedd yn ddigwyddiad arwyddocaol, dan arweiniad y Gwir Barchedig David Morris, i nodi ei wasanaeth ordeinio cyntaf ers iddo gael ei benodi'n Esgob Enlli.

Ymunodd cydweithwyr ac offeiriaid o Esgobaeth Bangor â ffrindiau a theulu Josie ynghyd â chynulleidfa'r Gadeirlan lle mae Josie wedi gwasanaethu fel diacon ers Mehefin 2023. Traddododd y pregethwr gwadd, y Parchedig Ddr Andrea Russell, Warden Llyfrgell Deiniol Sant ym Mhenarlâg, bregeth ysbrydoledig. Roedd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys darn newydd o gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Daniel Pett, Clerc Lleyg yng Nghadeirlan Deiniol Sant, fel anrheg i Josie.

Wrth fyfyrio ar yr ordeiniad, dywedodd Josie, "Roedd yn ddiwrnod llawen tu hwnt, gyda chariad a chefnogaeth aruthrol gan gydweithwyr, ffrindiau a theulu.

"Rydyn ni'n aml yn siarad am bwysau galwad. Nid wyf erioed wedi teimlo presenoldeb Duw mor agos ag yr oedd yn y foment o ordeinio. Wrth i'r offeiriaid ymgasglu o'm cwmpas, a gosod eu dwylo arnaf, cefais brofiad corfforol o bwysau’r alwad, a chefais fy nghynnal gan nerth Duw.

Dywedodd yr Esgob Dafydd, "Rydym wrth ein bodd yn derbyn a chroesawu Josie i Urddau Offeiriad. Mae hi bellach wedi'i grymuso i lywyddu wrth weinyddu’r Cymun Bendigaid ac i fendithio a maddau pechod yn enw Crist. Fel esgob newydd, braint arbennig oedd llywyddu yn fy ordeiniad cyntaf.

Rydym yn gobeithio ac yn gweddïo y bydd Josie yn cael heddwch a llawenydd wrth iddi gyflawni'r weinidogaeth newydd hon yn Esgobaeth Bangor a lle bynnag mae Duw yn ei harwain."

Dechreuodd ei chysylltiad dyfnach â ffydd pan oedd yn aelod ifanc o gôr yr eglwys. Parhaodd Josie â’i haddysg gerddorol yng Ngholeg y Brenin, Llundain, ac yn ddiweddarach hyfforddodd i fod yn offeiriad yn Saint Stephen's House yn Rhydychen. Trwy gydol ei thaith academaidd, bu'n archwilio ei galwad a meithrinodd ddealltwriaeth ehangach o wahanol gymunedau eglwysig trwy ei hangerdd am ganu clychau.

Dechreuodd galwad Josie i’r weinidogaeth ordeiniedig pan oedd yn bedair ar ddeg pan oedd yn canu yn y côr mewn gwasanaeth ordeinio yng Nghadeirlan Eglwys Crist, Rhydychen. Taniodd y profiad hwn ymdeimlad o bwrpas ynddi, a pharhaodd i'w archwilio yn ystod ei blynyddoedd israddedig trwy wasanaethu fel Cynorthwyydd Bugeiliol mewn eglwys yn Llundain. Mae ei ffydd, sy'n rym arweiniol cyson, wedi'i hintegreiddio'n ddwfn i bob agwedd ar ei bywyd.

Ar y dydd Sul yn dilyn yr ordeiniad, llywyddodd Josie ei Chymun cyntaf. Mae gan Josie barch dwfn at y sacramentau, yn enwedig y Cymun y mae hi'n ei ystyried yn ganolog i'w swyddogaeth fel offeiriad.

Ychwanegodd Josie, "Roedd yn fraint aruthrol gallu gweinyddu’r Cymun am y tro cyntaf, wedi fy amgylchynu gan gariad a chefnogaeth o'r fath gan ffrindiau a theulu, gan gydweithwyr a chymdeithion sydd wedi teithio gyda mi trwy ddirnadaeth, trwy ffurfiant, a thrwy fy ngweinidogaeth hyd yn hyn.

"Roeddwn yn ddiolchgar o allu gweinyddu fy Nghymun cyntaf yng Nghadeirlan Deiniol Sant, y lle hwn sydd wedi fy meithrin fel diacon a'm ffurfio ar gyfer yr offeiriadaeth, y lle hwn sydd wedi dysgu cymaint o ffydd, gobaith a chariad i mi."

Bydd Josie yn parhau i wasanaethu Cadeirlan Deiniol Sant cyn symud i Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio ar ddechrau'r Adfent i orffen ei churadiaeth.

Gwyliwch y gwasanaeth eto ar YouTube. Mae rhagor o luniau o'r gwasanaeth ar ein tudalen Facebook

Cymraeg

Bangor Cathedral hosts joyous ordination service for young priest Josie

The ordination service for Josie Godfrey took place on Saturday, June 29, at St. Deiniol's Cathedral in Bangor. It was a significant event, led by the Rt Reverend David Morris, marking his first ordination service since his appointment as Bishop of Bardsey.

Josie’s friends and family were joined by colleagues and priests from the Diocese of Bangor and the Cathedral’s congregation where Josie has served as deacon since June 2023. The Reverend Dr. Andrea Russell, Warden of St. Deiniol's Library in Hawarden, delivered an inspiring sermon as the guest preacher. The service also included a new piece of music composed by Daniel Pett, Lay Clerk at Saint Deiniol’s Cathedral, as a gift for Josie.

Reflecting on her Ordination, Josie said, “It was an immensely joyful day, with overwhelming love and support from colleagues, friends, and family.

“We often speak of the weight of a calling. I have never felt the presence of God so closely as the moment of ordination. As the priests gathered around me, and they laid on hands, I physically experienced the heaviness of the calling, as I was held by the strength of God.”

Bishop David said, “We are delighted to admit and welcome Josie to the Order of Priests. She is now empowered to preside at the celebration of the Holy Eucharist and to bless and absolve in Christ's name. As a new bishop, it was a particular privilege to preside at my first ordination.

We hope and pray Josie will find peace and joy as she fulfills this new ministry in the Diocese of Bangor and wherever God leads her.”

Josie's deeper connection with faith began through her involvement in the church choir at a young age. Josie pursued her education in music at King's College, London, and later trained to be a priest at Saint Stephen’s House in Oxford. Throughout her academic journey, she explored her calling and gained a broader understanding of different church communities through her passion for bell ringing.

Josie's calling to ordained ministry began at fourteen when she sang in the choir at an ordination service in Christ Church Cathedral, Oxford. This experience ignited a sense of purpose in her, which she continued to explore during her undergraduate years by serving as a Pastoral Assistant in a church in London. Her faith, a constant guiding force, is deeply integrated into every aspect of her life.

On the Sunday following her ordination, Josie presided over her first Eucharist. Josie has a profound respect for the sacraments, especially the Eucharist, which she views as central to her role as a priest.

Josie added, “It was an immense privilege to be able to celebrate the Eucharist for the first time, surrounded by such love and support from friends and family, from colleagues and companions who have journeyed with me through discernment, through formation, and through my ministry so far.

“I was grateful to be able to celebrate my first Eucharist in Saint Deiniol’s Cathedral, this place which has nurtured me as a deacon and formed me for the priesthood, this place which has taught me so much of faith, hope and love.”

Josie will continue to serve Saint Deiniol’s Cathedral before moving to Bro Tysilio Ministry Area at the beginning of Advent to finish her curacy.

Watch the service again on YouTube. More photos from the service are on our Facebook page.