Ynys Môn yn croesawu gweithiwr ieuenctid arloesol newydd i gefnogi taith ffydd pobl ifanc
Bydd gweithiwr ieuenctid arloesol newydd ar Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i archwilio eu ffydd a'u hunaniaeth ysbrydol.
Mae Kelly Bonneval-Cox wedi'i phenodi i Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr yn Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys arfordir de-orllewinol Ynys Môn. Mae Kelly, sy'n dod o ogledd Cymru, yn dod â chyfoeth o brofiad ym maes gweinidogaeth ieuenctid. Mae ei phenodiad yn adlewyrchu ymrwymiad yr esgobaeth i feithrin twf ysbrydol plant a phobl ifanc a chreu mynegiadau bywiog o gymuned Gristnogol ar gyfer cenedlaethau newydd.
Swyddogaeth gweithiwr ieuenctid arloesol yw estyn allan at blant a phobl ifanc mewn ffyrdd sy'n berthnasol iddynt, gan gydnabod efallai nad gwasanaethau eglwysig traddodiadol yw'r ffordd orau o gyflwyno pobl i'r ffydd Gristnogol bob amser. Bydd hyn yn golygu mwy o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol neu glybiau ar ôl ysgol a digwyddiadau cymdeithasol i greu ymdeimlad o berthyn er mwyn trafod ffydd.
Meddai Kelly, "Mae bod yn weithiwr ieuenctid arloesol yn golygu cydnabod mai ychydig iawn o wybodaeth sydd gan rai pobl ifanc am y ffydd Gristnogol ac mae'n rhaid i ni ddechrau yn y fan honno. Pe baem ni'n creu cymuned Gristnogol o'r dechrau i bobl ifanc sut olwg fyddai arni hi? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phlant a phobl ifanc eu hunain i gael gwybod!
Mae Kelly yn gwybod sut beth yw profiffydd ynifanc, "Wnes i ddim tyfu fyny yn mynd i'r eglwys ac fe wnaeth y profiadau cyfyngedig a oedd gennyf ohono fy arwain i gredu nad oedd yr eglwys ar gyfer pobl fel fi. Pan brofais i ffydd yn 15 oed, roeddwn i'n cydnabod yn gynnar er bod eglwysi eisiau pobl fy oedran i roeddwn i'n dipyn o newyddbeth.
"Y teimlad fy mod i'n sefyll allan oedd yn rhoi pwrpas newydd i mi. Deuthum yn gyfieithydd diwylliannol rhwng yr hyn oedd gan yr eglwys i'w gynnig a'r hyn yr oedd ei angen ar y cenedlaethau coll.
"Rwyf eisiau i bobl ifanc wybod mai'r Eglwys yw eu teulu, bod croeso iddynt bob amser, mae eu hangen bob amser, a byddant bob amser yn cael eu caru. Rydw i eisiau i bobl ifanc wybod bod Iesu'n gwybod nad ydyn nhw'n berffaith a bod pwy ydyn nhw'n ddigon. Mae'r angerdd dros blant a phobl ifanc ym Mro Cadwaladr wedi fy rhyfedduac rwy'n awyddus i weld sut y bydd yr Ysbryd Glân yn ein symud ymlaen."
Wrth groesawu Kelly i'r esgobaeth, dywedodd yr Esgob David Morris, "Mae ein hymgysylltiad â phlant ac ieuenctid yn hanfodol i sicrhau bod gan yr eglwys ddyfodol. Mae helpu pobl ifanc i dyfu mewn ffydd a gwybod eu bod yn cael eu caru'n anfesuradwy gan Dduw yn rhan allweddol o'n cenhadaeth. Rwy'n falch iawn o groesawu Kelly fel y gweithiwr plant ac ieuenctid arloesol newydd ar gyfer Bro Cadwaladr."
Dywedodd y Parchedig Emlyn Williams, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr, "Ym Mro Cadwaladr sylweddolwyd bod angen cyflogi rhywun a oedd yn siarad iaith yr oes, a'r ardal (Cymraeg), rhywun nad oedd yn ofni'r gymdeithas sy'n cael ei gyrru gan y cyfryngau cymdeithasol sy’n chwarae cymaint o ran ym mywydau ein hoedolion ifanc ac y maen nhw’n eu defnyddio i gyfathrebu â'i gilydd.
"Fel eglwys, mae angen i ni dorri tir newydd yn ein hymgysylltiad â phobl ifanc, ac nid oedd gwneud yr un peth drosodd a throsodd eto yn opsiwn. Roedd yr elfen arloesol yn y swyddogaeth newydd a chyffrous hon yn hanfodol yn ein meddyliau.
Ychwanegodd Emlyn, "Daeth Kelly atom ni, fel person llawn egni, yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg, yn gallu defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac mae ganddi brofiad helaeth iawn yn mentora pobl ifanc a datblygu perthynas gydag eglwysi a sefydliadau partner.
"Er ei bod hi'n ddyddiau cynnar, rydyn ni eisoes yn gweld arwyddion o egin newydd, wrth i ni groesawu pobl ifanc i deulu ein heglwys, ym Mro Cadwaladr ac yn ehangach ar draws Ynys Môn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous, wrth i ni ddilyn yn ôl troed yr eglwys gynnar, estyn allan i'n cymunedau, torri tir newydd, y tu hwnt i furiau adeiladau ein heglwysi, gan ymgynnull i rannu cariad Crist â’r hen a'r ifanc."
Cynhaliwyd gwasanaeth trwyddedu Kelly yn Ysgol Ysgol Santes Dwynwen, Niwbrwch ym mis Mehefin.
Ynys Môn welcomes new pioneer youth worker to support young people’s faith journey
A new pioneer youth worker on Ynys Môn (Anglesey) will help young people explore their faith and spiritual identity.
Kelly Bonneval-Cox has been appointed to Bro Cadwaladr Ministry Area in the Diocese of Bangor, which covers the south-west coast of Anglesey. Kelly, who is from North Wales, brings a wealth of experience in youth ministry. Her appointment reflects the diocese's commitment to nurturing the spiritual growth of children and young people and creating vibrant expressions of Christian community for new generations.
The role of a pioneer youth worker is to reach out to children and young people in ways that are relevant to them, recognising that traditional church services may not always be the best way to introduce people to the Christian faith. This will involve greater use of social media or after-school clubs and social events to create a sense of belonging in which to talk about faith.
Kelly said, “Being a pioneer youth worker means recognising that some young people have very little knowledge of the Christian faith and we have to start there. If we were to create from scratch a Christian community for young people what would it look like? I’m excited to work with children and young people themselves to find out!
Kelly knows what it is like coming to faith at a young age, “I didn't grow up going to church and the limited experiences I had of it led me to believe that church wasn't for people like me. When I came to faith at 15 years old, I recognised early on that while churches wanted people my age I was something of a novelty.
“It was the feeling that I stood out which gave me a new purpose. I became something of a cultural translator between what church had to offer and what the missing generations needed.
“I want young people to know that the Church is their family, that they are always welcome, they are always wanted, and they will always be loved. I want young people to know that Jesus knows they aren't perfect and that who they are is enough. The passion for children and young people in Bro Cadwaladr has blown me away and I'm keen to see how the Holy Spirit will move us forward.”
Welcoming Kelly to the diocese, Bishop David Morris said, "Our engagement with children and youth is essential to ensure the church has a future. Helping young people grow in faith and know they are loved immeasurably by God is a key part of our mission. I’m delighted to welcome Kelly as the new pioneer children and youth worker for Bro Cadwaladr."
Revd Emlyn Williams, Ministry Area Leader of Bro Cadwaladr, said, "In Bro Cadwaladr we realised the need to employ someone who spoke the language of the age, and of the area (Welsh), someone who didn’t fear the social-media-driven society where our young adults inhabit and use to communicate with each other.
"As a church, we need to break new ground in our engagement with young people, and doing the same thing over again was not an option. The pioneering element in this new and exciting role was crucial in our minds.
Emlyn added, "Kelly came to us, as a person full of energy, able to speak both Welsh and English, use social media and has bags of experience mentoring young people and developing relationships with partner churches and organisations.
“Although it’s early days, we are already seeing signs of new shoots, as we welcome young people into our church family, within Bro Cadwaladr and wider across Ynys Môn. These are exciting times, as we follow in the footsteps of the early church, reaching out to our communities, breaking new ground, beyond the walls of our church buildings, gathering together to share the love of Christ, with young and old.”
Kelly’s licensing service took place at Ysgol Ysgol Santes Dwynwen, Newborough in June.