minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Eglwysi yn lansio rhaglen brysur ar gyfer yr Eisteddfod

Gwahoddir pobl sy’n mynd i’r Eisteddfod ym Mhontypridd yr wythnos nesaf i lu o ddigwyddiadau a gynhelir gan eglwysi.

Bydd sesiynau addoli dyddiol, lansio llyfrau, sgyrsiau, band pres, gweithgareddau i blant, arddangosfeydd a hyd yn oed arddangosiad o Feiblau wedi eu gweu a llwybr cregyn pererinion. 

Mae Cytûn yn cynnal y rhan fwyaf o’u gweithgareddau yn Eglwys Santes Catherine, yng nghanol Pontypridd. Bydd ganddynt hefyd stondin fechan yn cynnwys llyfrau ac adnoddau ar Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad ac ychydig o naidlenni. Bydd llwybr cregyn pererinion yn cysylltu’r Maes gyda’r eglwys. 

Bydd yr eglwys ar agor dros rhwng 11.30am a 5.30pm, ac mae mynediad am ddim. 

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Esgobaeth Bangor ar y Maes

Côr Esgeifiog ac Elin Owen

Bydd gan Esgobaeth Bangor bresenoldeb ar y Maes hefyd gyda digwyddiad RS Thomas a thri pherson o'r esgobaeth yn perfformio mewn digwyddiadau amrywiol.

Dydd Sadwrn 3 Awst

09.50 a 12.55: Sam Jones, Gweinyddwr Litwrgi, Cadeirlan Bangor, yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Bandiau Pres.

Meddai Sam, "Dwi'n chwarae Trombone gyda Band Pres Porthaethwy (sy'n cael ei adnabod yn lleol fel "Band y Borth"). Rwy'n feiolinydd fel astudiaeth gyntaf mewn gwirionedd, ond codais y trombôn gyntaf tua 10 mlynedd yn ôl i ymuno â Long Melford Silver Band, yr oedd fy mam yn aelod ohono ar y pryd. Ymunais â band Porthaethwy ychydig flynyddoedd ar ôl symud i Fangor — dwi wedi bod yn chwarae gyda nhw ers 6 neu 7 mlynedd bellach.

"Mae'r Eisteddfod yn llawer o hwyl i ni gystadlu ynddi fel band, gan ei bod hi'n gystadleuaeth "hunanddewisiad", gallwn roi rhaglenni o gerddoriaeth at ei gilydd rydym yn eu mwynhau, ac yn gobeithio y bydd yn diddanu'r gynulleidfa a'r beirniad hefyd!

"I mi'n bersonol, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfle i ymgolli yn niwylliant Cymraeg, dal i fyny gyda ffrindiau, ac ymarfer fy Nghymraeg llafar."

Dydd Mercher 7 Awst

13.30: Cyflwyniad ar RS Thomas a noddir gan RS Thomas a Chymdeithas ME Eldridge. Dwyieithog.

18.30, Maes D: Mae Katie Gill-Williams, swyddog yr Eglwysi Pererinion, yn perfformio gig gomedi stand-yp.

Meddai Katie, "Mae'r set yn ymwneud â bod yn ddysgwr a'r peryglon o roi iaith newydd ar waith. Mae hefyd yn ymwneud â symud i wlad newydd ac ymgolli yn y diwylliant. Mae'n wefr wirioneddol gallu perfformio yn yr Eisteddfod. Dwi'n yno ar gyfer ymgolli yn y diwylliant, dathlu a bwrlwm y maes. Mae'n bleser cael gwneud hynny."

Dydd Gwener 9 Awst

6pm: Y Pafiliwn: Côr Esgeifiog, y bydd Elin Owen, Galluogydd y Gymraeg, yn aelod ohono, yn perfformio .

Meddai Elin, "Rydan ni yn cystadlu dydd Gwener y steddfod ar y gystadleuaeth Côr Gwerin yn y prif bafiliwn.Dwi'n canu hefo côr Esgeifiog ers tua 8 mlynedd bellach. Nes i gychwyn pan symudais i fyw i Ynys Môn. Doeddwn i'n 'nabod neb ar yr ynys, felly fe wnes i benderfynu byddai canu mewn côr yn syniad da. Rydw i'n mwynhau yn arw ac erbyn hyn wedi gwneud llawer o ffrindiau. Mae'r elfen gymdeithasol ar cyfeillgarwch yn rhan mawr o'r côr. Rydan ni yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol, ond hefyd yn cefnogi esteddfodau bychan lleol.

"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn wŷl arbennig iawn, yn llawn o ddiwylliant a cherddoriaeth a thalentau cymreig ac mae'n bwysig i ni fel côr ein bod yn ei chefnogi. Mae wastad hefyd yn llawr o hwyl, gan ein bod ni gyd yn hoffi ymdroi yn ychydig o adloniant yr wŷl y tu allan i'r cystadlu!! Mae ganddom ni hefyd sypreis yn y 'steddfod yma- perfformiad arbennig na fedra i ddweud mwy amdano ar y funud-ond mae'n gyffrous iawn iawn!!"

Mwy o whybodaeth yma - 2024 | Eisteddfod

Cymraeg

Churches launch packed programme for the Eisteddfod

People heading to the Eisteddfod in Pontypridd next week are invited to a host of events run by churches.

There will be daily worship sessions, book launches, talks, a brass band, children’s activities, exhibitions and even a knitted Bible display and pilgrim shell trail.

Cytûn is holding most of its activities at St Catherine’s Church, Pontypridd. It will also have a small book and resource stall on the Eisteddfod field – the Maes – at Ynysangharad Park and a few pop-ups. A pilgrim shell trail will link the Maes to the church.

The church will be open during the Eisteddfod between 11.30am and 5.30pm and entry is free. 

full list of events is available on the Church in Wales website.

Esgobaeth Bangor on the Maes

Katie Gill-Williams

Diocese of Bangor will also have a presence on the Maes with a RS Thomas event and three people from the diocese performing in various events.

Saturday 3 August

09.50 and 12.55: Sam Jones, Liturgy Administrator, Bangor Cathedral, competing in the Brass Bands competition.

Sam says, "I play Trombone with Band Pres Porthaethwy (known locally as “Band y Borth”). I’m a first-study violinist really, but I picked up the trombone about 10 years ago to join the Long Melford Silver Band, which my mum was a member of at the time. I joined Menai Bridge a few years after moving to Bangor — I've been playing with them for 6 or 7 years now.

"The Eisteddfod is great fun for us to compete in as a band, as it's an "own-choice" contest, so we can put together programmes of music we enjoy and that we hope will entertain the audience and the adjudicator also!

"For me personally, I really appreciate the opportunity to immerse myself in Welsh-language culture, catch up with friends, and practice my spoken Welsh."

Wednesday 7th August

13.30: Presentation on RS Thomas sponsored by RS Thomas & ME Eldridge Society. Dwyieithog. Simultaneous English Translation.

18.30, Maes D: Katie Gill-Williams, Major Pilgrim Church officer, is performing a stand-up comedy gig.

Katie says, "The set is about being a learner and the pitfalls of leaning a new language. It's also about moving to a new country and immersing yourself in the culture. It's a genuine thrill to be able to perform at the Eisteddfod. I am absolutely there for the culture, celebration and the nigh camp of the maes. A joy to be doing it."

Friday 9 August

6pm: Côr Esgeifiog, of which Elin Owen, Welsh Language Enabler, is a member, will perform.

Elin says, "We're competing on Friday in the Folk Choir competition in the main pavilion. I've been singing with Côr Esgeifiog for about 8 years now. I started when I moved to live in Anglesey. I knew no one on the island, so I decided singing in a choir would be a good idea. I'm really enjoying it and have now made a lot of friends. The social element and the friendship we have is a big part of the choir. We compete at the National Eisteddfod annually, but also support small local events.

"The National Eisteddfod is a very special event, full of Welsh culture and music and talent and it's important to us as a choir that we support it. It's also always a lot of fun, as we all like to indulge in some whale entertainment outside of the competition!! We also have surprise this year - a special performance that I can't say more about at the moment-but it's super exciting!"

More information about the Eistendfod - 2024 | Eisteddfod