minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Yr offeiriad â thatŵs yn dod â roc a Duw i Gaergybi

Mae’r Parch. George Bearwood yn wahanol iawn i’ch offeiriad arferol. O’i ddyddiau roc a rôl cynnar yn y diwydiant cerddoriaeth – gan gyfrif canwr Judas Priest, Rob Halford, yn ffrind personol - i fod yn berchennog ar barlwr tatŵs yn Llundain, mae George ar fin dod â chwa o awyr iach i ogledd Cymru wrth iddo ddod yn Offeiriad Arloesi yn Ardal Weinidogaeth Caergybi.

Dechreuodd George fel cerddor yn chwarae mewn bandiau yng nghanol y 70au. Mae ei angerdd am gerddoriaeth roc wedi parhau, ac ochr yn ochr â’i rôl fel offeiriad, mae’n cyflwyno sioe roc Gristnogol ar Total Rock Radio. Fel cynhyrchydd ac ail-gymysgydd cerddoriaeth, gweithiodd George gyda’r grŵp pop o Brydain, Big Fun ac Ant and Dec, y gantores Almaenig Nina Hagen, a’r act tecno-pync, Bent USA, cyn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y Discovery Channel a Discovery Science.

Y Parch George Bearwood

Ar ôl treulio degawdau’n byw ac yn gweithio’n fyd-eang, gyda chyfnodau yn Llundain, Berlin, Osaka, a Los Angeles, gwnaeth George ymddeol yn 40 oed ac agorodd siop datŵs yn Llundain. Yn ddiweddarach daeth yn arwerthwr llawn amser gyda’i dŷ ocsiwn ei hun yn Rhosan-ar-Wy ac yn werthwr eitemau casgladwy mewn siop yn Swydd Gaerloyw. Ond o dan yr inc a’r persona seren roc, mae ymrwymiad dwfn i’w ffydd ac awydd i gysylltu â phobl mewn ffyrdd annisgwyl ac ystyrlon.

Gydag angerdd am ffilmiau arswyd a diwinyddiaeth, mae George ar genhadaeth i gysylltu â’r gymuned, gan ddefnyddio ei brofiadau bywyd i ddod â ffydd i’r rhai na fydden nhw efallai yn dod o hyd iddo drwy lwybrau traddodiadol.

"Rwy’n credu ei bod hi’n anodd iawn nodi’r hyn sy’n ysbrydoli unrhyw un i fynd ar drywydd galwad i’r weinidogaeth," meddai George. "Ond i fi, mae’n debyg, er gwaethaf fy llwyddiannau yn fy ngyrfa flaenorol, roeddwn i bob amser yn teimlo bod rhywbeth ar goll, potensial nad oeddwn i’n ei gyflawni, ac fe wnaeth hynny fy nenu i i’r eglwys i gychwyn, a wnaeth, wrth gwrs, fy arwain i le’r ydw i nawr."

George Bearwood

Wedi’i ordeinio yn 2020, mae George yn gweld ei rôl newydd fel offeiriad arloesi yn gyfle i gysylltu â’r rhai na fyddent fel arfer yn mynd i’r eglwys, gan ddefnyddio ei brofiadau bywyd unigryw i bontio’r bwlch rhwng diwylliant cyfoes a ffydd Gristnogol.

"Mae fy nghefndir a fy nhaith ffydd yn eithaf anarferol. Rwy’n clywed yn aml nad eich ficer arferol ydw i. Mae dod â phobl eraill i wybod sut y gall Duw newid eu bywydau yn fy ngalluogi i gwrdd â nhw lle y maen nhw, ar ba bynnag gam yn eu taith ffydd y gallai hynny fod.

Gan edrych ymlaen at symud i Gaergybi, mae George yn dweud, "Efallai bod gan lawer o bobl yn nhrefi a phentrefi Ardal Weinidogaeth Bro Cybi ffydd gref, rhywfaint o ffydd neu ddim ffydd ac rwy’n credu bod ymgysylltu â’r bobl hynny i rannu ein ffydd yn bwysig, ac rydyn ni’n gwneud hynny orau pan fyddwn ni’n caniatáu i Dduw ddefnyddio ein profiadau bywyd.

"Mae yna bobl heddiw sy’n gwybod fawr ddim am y ffydd Gristnogol. Nid yw rhai erioed wedi mynd i mewn i eglwys ond rwy’n gwybod bod pobl yn aml yn meddwl am ffydd p’un ai ydyn nhw’n gwybod hynny ai peidio; trwy ffilmiau, llenyddiaeth a cherddoriaeth. Maen nhw eisoes yn cysylltu â Duw, ond dydyn nhw ddim yn gwybod hynny eto.

"Gobeithio bod fy rôl yn golygu mai fi all fod y cysylltiad hwnnw rhwng bywyd cyfoes a ffydd fyw ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn o allu gwneud hynny."

P’un ai yw hynny drwy ei Glwb Spooky HaT —grŵp ffilmiau arswyd a diwinyddiaeth —neu dim ond drwy fod yn bresenoldeb anfeirniadol, agored yn y gymuned, mae George yn benderfynol o ddod â neges cariad Crist at bawb, pa le bynnag y maen nhw ar eu taith ysbrydol.

"Mae ffilmiau arswyd yn ôl eu natur yn ymwneud yn llwyr â diwinyddiaeth. Ar eu lefel fwyaf sylfaenol maen nhw’n ymwneud â daioni yn goresgyn drygioni, ond yn aml iawn mae’r negeseuon ffydd yn y ffilmiau hyn yn ddyfnach ac yn fwy cymhleth na hynny.

"Gall yr hyn sy’n ymddangos ar yr wyneb o fod yn ‘gyflafan waedlyd ddi-chwaeth’ gael cryn dipyn i’w ddweud hefyd am natur iachawdwriaeth neu bosibilrwydd achubiaeth. Mae’r ffilmiau hyn yn gweithio ar sawl lefel. Gallan nhw fod yn adloniant rhad, achosi gwefr wedi’i anelu at ddemograffig penodol, er hynny, mae ond angen i chi grafu’r wyneb i ddod o hyd i gyfoeth o syniadau diwinyddol ac athronyddol sy’n aros i gael eu harchwilio."

Yn cynnwys ffilmiau Hammer Horror ac A Nightmare on Elm Street ymhlith ei ffefrynnau, mae George wedi gweld drosto’i hun sut y gall ffilmiau arswyd ysbrydoli taith ffydd rhywun. Mae aelodau grŵp arswyd a diwinyddiaeth Spooky HaT wedi dechrau mynd i’r eglwys. "Mae wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae wedi dod â rhai o’r bobl sy’n dod i’r clwb i’r eglwys bob dydd Sul gydag un person bellach yn helpu ar ddydd Sul.

Nid oedd yr un o’r aelodau yn mynd i’r eglwys o’r blaen a bydden nhw wedi dweud nad oedd ganddyn nhw fawr ddim barn ar ffydd, os o gwbl. Ond rwy’n credu’n gryf, os ydyn nhw’n cael eu trin yn dda ac yn sensitif, mae modd defnyddio trafodaethau am ffilmiau arswyd i agor calonnau pobl i ffydd a’u harwain at wir berthynas â Duw.

George and Alex

Mae gwraig George, y Canon Alex Mayes, hefyd yn gwasanaethu fel offeiriad ac yn ddiweddar, cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaeth Bangor. Wrth i’r Parchedig George baratoi ar gyfer ei rôl newydd yng Nghaergybi, mae’n dod â chwa o awyr iach, blas ar yr anghonfensiynol, a chyffro mawr ar gyfer yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig.

P’un ai ydych chi’n aelod o’r eglwys ers tro neu’n rhywun nad yw erioed wedi bod dros y trothwy, mae George yn barod i gwrdd â chi lle’r ydych chi, gyda neges ffydd sydd mor fywiog a deinamig â’r dyn ei hun.

Cymraeg

The tattooed priest bringing rock ‘n God to Holyhead

The Revd George Bearwood is anything but your typical priest. 

To start with, he's  more Judas Priest than Judas Iscariot. And from his rock ‘n roll beginnings in the music industry – counting Judas Priest singer Rob Halford as a personal friend - George’s is set to take North Wales by storm as Pioneer Priest in Holyhead Ministry Area.

George started as a musician playing in bands in the mid 70’s. His passion for rock music has continued and, alongside his priest role, he hosts a Christian Rock show on Total Rock Radio. As a music producer and remixer, George worked with British pop acts Big Fun and Ant and Dec, German singer Nina Hagen, and techno-punk act Bent USA before composing music for Discovery Channel and Discovery Science.

Rev George Bearwood

Having spent decades living and working globally, with stints in London, Berlin, Osaka, and Los Angeles, George retired at 40 and opened a tattoo shop in London. Later he became a full time auctioneer with his own auction house in Ross on Wye and a collectibles dealer with a shop in Gloucestershire. But beneath the ink and the rockstar persona lies a profound commitment to his faith and a desire to connect with people in unexpected and meaningful ways.

With a passion for horror films and theology, George is on a mission to connect with the community, using his life experiences to bring faith to those who might not find it through traditional paths.

“I think it is very difficult to pinpoint what inspires anyone to pursue a calling to ministry,” says George. “But I suppose for me it was that despite my successes in my previous careers, I always felt something was missing, a potential that I wasn’t fulfilling, and that drew me initially into the church, which of course led me to where I am now.”

Ordained in 2020, George sees his new role as pioneer priest as an opportunity to reach out to those who might not usually find themselves in church, using his unique life experiences to bridge the gap between contemporary culture and Christian faith.

“My background and my faith journey are quite unusual. I’m often told that I’m not your usual vicar. Bringing other people to know how God can truly change their lives allows me to meet them where they are, at whatever stage in their faith journey that might be.

Looking ahead to his move to Holyhead, George says, “Many people in the towns and villages in the Bro Cybi Ministry Area may have a strong faith, some faith or no faith and I believe that engaging with those people to share our faith is important, and we do that best when we allow God to utilise our life experiences.

“There are people today who have very little knowledge of the Christian faith. Some have never entered a church but I do know that people often think about faith whether they know it or not; through movies, literature and music. They already connect with God, they just don’t know it yet.

“My role hopefully means I can be that link between contemporary life and a living faith and I do feel very blessed to be able to do that.”

Whether it’s through his Spooky HaT Club—a horror and theology film group —or simply by being a non-judgmental, open-hearted presence in the community, George is determined to bring the message of Christ’s love to everyone, no matter where they are on their spiritual journey.

“Horror movies by their very nature are all about theology. At their most basic level it’s about good overcoming evil but quite often the faith messages in these films are deeper and more elaborate than that.

“What may appear to be on the surface ‘a tacky bloodbath’ can also have quite a lot to say about the nature of salvation or the possibility of redemption. These films work on many levels. They can be cheap, sensational entertainment aimed at a certain demographic but you only have to scratch the surface to find a wealth of theological and philosophical ideas just waiting to be explored.”

Counting Hammer Horror films and A Nightmare on Elm Street franchise among his favorites, George has seen firsthand how horror films can inspire someone’s faith journey. Members of the Spooky HaT horror and theology group have started attending church. “It has been a great success and has brought a few of the club attendees into church every Sunday with one person now helping out on Sundays.

“None of the members were churchgoers before and would have said that they had little or no views on faith. But firmly believe, if handled well and with sensitivity, horror film discussions can be used to open people’s hearts to faith and lead them to a true relationship with God.”

George and Alex

George’s wife, Canon Alex Mayes, also serves as a priest and was recently appointed as Director of Ministry for the Diocese of Bangor. As Revd George prepares for his new role in Holyhead, he brings with him a breath of fresh air, a touch of the unconventional, and a whole lot of excitement for what the future holds.

Whether you’re a longtime member of the church or someone who’s never set foot inside, George is ready to meet you where you are, with a message of faith that’s as vibrant and dynamic as the man himself.