Gofod cynnes Dolgellau i fynd i'r afael ag unigrwydd a thlodi bwyd
Mae caffi gofod cynnes newydd yn Nolgellau yn helpu trigolion y gaeaf hwn i fynd i'r afael â her costau cynyddol tanwydd, tlodi bwyd, ac ynysu cymdeithasol. Mae Clwb Cawl, a lansiwyd gan eglwysi yn Ardal Gweinidogaeth Bro Cymer, yn darparu gofod cynnes a phrydau bwyd poeth yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn.
Yn weithredol drwy gydol Tachwedd, Rhagfyr, ac Ionawr, mae'r fenter yn cynnig noddfa gynnes lle gall pobl fwynhau cawl ffres wedi'i ddarparu am ddim gan fusnes lleol. Ers lansio'r gofod cynnes ar y 18fed o Dachwedd mae dros 60 powlen o gawl wedi'u gweini. Gall y bobl sy'n mynychu fod yn dioddef o dlodi bwyd, yn unig ac eisiau mwynhau cwmni a sgwrs, neu'n dod i fwynhau cwrdd â phobl eraill a chynnig clust i wrando.
Meddai y Parch Dr Carol Roberts, un o drefnwyr Clwb Cawl, "Mae'n bwysig ein bod ni fel eglwysi yn Ardal Gweinidogaeth Bro Cymer yn estyn llaw i'n cymunedau lleol a dod o hyd i ffyrdd i'w gwasanaethu a'u cefnogi. Nod Clwb Cawl yw dod â phobl at ei gilydd mewn amgylchedd cynnes, lle maen nhw'n bwyta gyda'i gilydd, efallai'n gwneud ffrindiau newydd, a lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u gwerthfawrogi fel rhan o Gymuned Clwb Cawl.”
"Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Parch Danni Worley sy'n gweithio ochr yn ochr â mi yn gweini'r cawl, te a choffi, ac yn sgwrsio gyda phobl."
Meddai Esgob Enlli David Morris, "Mae Clwb Cawl yn fenter ardderchog yn ystod y misoedd oer hyn yn sicrhau bod aelodau o'r gymuned leol yn ac o gwmpas ardal Dolgellau yn cael cyfle rheolaidd i fwynhau pryd bwyd cynnes, cwmni a chefnogaeth. Mae'n enghraifft ysbrydoledig o'r eglwys yn estyn allan ac yn gwasanaethu rhai o'r mwyaf bregus mewn cymdeithas a'r gymuned ehangach yn gyffredinol."
Mae Clwb Cawl yn cael ei gynnal yn wythnosol yn Y Llyfrgell Rydd. Gall trigolion lleol sydd â diddordeb mewn mynychu gysylltu â'r Parch Carol Roberts ar rif ffôn 07375115526, neu alw heibio ar ddydd Llun rhwng 11.00yb ac 1.30yp.
Dolgellau warm space to tackle loneliness and food poverty
A new warm space café in Dolgellau is helping residents combat the triple challenge of winter fuel costs, food poverty, and social isolation. Clwb Cawl, launched by churches in the Bro Cymer Ministry Area, provides both a warm space and hot meals during the coldest months of the year.
Operating throughout November, December, and January, the initiative offers a warm sanctuary where people can enjoy freshly-made soup provided free of charge and supplied by a local business. Since the warm space launched on the 18th of November over 60 bowls of soup have been served. People who attended may be experiencing food poverty, may be lonely and want to enjoy the company and have a chat, or just come to enjoy meeting other people and to offer them a listening ear.
Revd Dr Carol Roberts, one of the Clwb Cawl organisers, says, “It is important that as churches in the Bro Cymer Ministry Area we reach out to our local communities and find ways to serve them and support them. The aim of Clwb Cawl is to draw people together in a warm environment, where they eat together, perhaps make new friends, and where they feel welcomed and valued as part of the Clwb Cawl Community.
“I am grateful for the support of the Revd Danni Worley who works alongside me serving the soup, teas and coffees, and chatting with people.”
Bishop of Bardsey David Morris says, “Clwb Cawl is an excellent initiative during these colder months ensuring members of the local community in and around Dolgellau have a regular opportunity to enjoy a warm meal, company and support. It's an inspiring example of the church reaching out and serving some the most vulnerable in society’ Is it possible to add ‘and the and the wider community in general.”
Clwb Cawl takes place weekly at ‘The Free Library’. Local residents interested in attending can contact the Revd Carol Roberts on telephone number 07375115526, or just come along on a Monday between 11.00am and 1.30pm.