Yr ydym oll yn Ioan Fedyddiwr
Cafodd cwrs Adfent yr Eglwys yng Nghymru ddechrau gwych ym Mro Eryri, gyda'n arweinydd ardal Gweinidogaeth - a Jill y Caplan Awyr Agored - yn ymddangos yn y fideo cyflwyniadol! Rydym wedi mwynhau’n fawr fewnwelediadau o esgobaethau eraill, gyda'r cyfuniad o ddysgeidiaeth Feiblaidd a phrofiad bywyd go iawn yn helpu i sefydlu gwirioneddau ysbrydol mewn realiti dyddiol.
Wedi dechrau ein cwrs ychydig cyn Sul yr Adfent, rydym eisoes wedi cyrraedd cyfraniad Esgobaeth Mynwy ar Ioan Fedyddiwr. Cawsom drafodaeth ysgogol am beth allai olygu i ni fel eglwysi - a chymunedau - i 'edifarhau'. Roedd y cyflwyniad fideo am agweddau tuag at y rhai 'ar yr ymylon' yn ein hatgoffa sut y gall rhagfarn dyfu trwy ragdybiaethau diofal neu ofn - a sut mae angen i Gristnogion fodelu ffyrdd gwell o ymwneud ag eraill.
Er bod rhai o broblemau'r byd ehangach yn gallu teimlo'n bell o ardaloedd gwledig, cydnabuwyd bod materion fel digartrefedd mewn gwirionedd yn berthnasol iawn. Buom yn myfyrio ar bwysigrwydd adnabod materion eraill gydag effaith leol bosibl fel- unigrwydd, a phroblemau iechyd meddwl - sy'n effeithio ar yr hen ar ifanc fel ei gilydd- ac a ddylai effeithio ar ein cynlluniau fel Ardal Gweinidogaeth.
Mae'r dasg o rannu'r newyddion da yn her i bob un ohonom.
Cytunom ein bod ni i gyd, mewn rhyw ffordd, yn 'Ioan Fedyddwyr'. Mae'r dasg o rannu'r newyddion da yn her i bob un ohonom ac rydym yn rhannu'r baich o geisio dod o hyd i ffyrdd o wneud hynny. Rhaid i'r ffyrdd hyn gysylltu â'n cymunedau fel y maent heddiw, nid fel yr oeddent pan oedd mynd i'r eglwys a'r capel yn weithgareddau dydd Sul yn unig!
Gan Canon Naomi Starkey, Arweinydd Ardaloedd Gweinidogaeth Bro Eryri
Wrth i ni barhau â'n taith Adfent, mae'r alwad i fod yn 'Ioan Fedyddwyr' heddiw yn ein herio i edrych o'r newydd ar ein cymunedau a'n rôl ynddynt. Ac eto mae ein cenhadaeth yn aros yr un fath - paratoi'r ffordd a rhannu newyddion da mewn modd sy'n siarad â'r byd sydd ohoni.
Beth fyddai’n ei olygu i ni, yn bersonol ac fel Ardal Weinidogaeth, i wir 'baratoi'r ffordd' heddiw?
We are all John the Baptist
The Church in Wales Advent course had an exciting start for Bro Eryri, with our Ministry Area – and Jill Ireland, Outdoor Chaplain – featuring in the introductory video! We have enjoyed the insights from other dioceses, with the combination of Bible teaching and real-life experience helping to ground spiritual truths in daily realities.
Having started our course just before Advent Sunday, we’ve already reached Monmouth Diocese’s contribution on John the Baptist. We had a stimulating discussion about what it might mean for us as churches – and communities – to ‘repent’. The video presentation about attitudes toward those ‘on the margins’ reminded us how prejudice can grow through careless assumptions or fear – and how Christians need to model better ways of relating to others.
While some problems of the wider world can feel remote from rural areas, we acknowledged that issues such as homelessness are actually near at hand. We reflected on the importance of identifying other issues with a potential local impact – loneliness, for example, and problems of mental health – which affect young and old alike and should affect our plans as a Ministry Area.
The task of sharing the good news belongs to each one of us.
We agreed that, in some ways, we are all ‘John the Baptists’. The task of sharing the good news belongs to each one of us and we share the challenge of finding ways to do that. These ways must connect with our communities as they are today, not as they used to be when church and chapel-going were the only Sunday activities!
By Canon Naomi Starkey, Ministry Area Leader, Bro Eryri
As we continue our Advent journey, the call to be modern-day 'John the Baptists' challenges us to look afresh at our communities and our role within them. Yet our mission remains the same - to prepare the way and share good news in ways that speak to today's world.
What would it mean for us, personally and as a Ministry Area, to truly 'prepare the way' today?