minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gwahodd Dysgwyr Cymraeg i wasanaeth Nadolig arbennig yng Nghadeirlan Bangor

Mae Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn cynnal gwasanaeth Nadolig arbennig a grëwyd yn benodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Mae'r gwasanaeth, o'r enw Duw a Dysgwyr 'Dolig, yn cael ei addasu o wasanaeth Cymun traddodiadol ac yn cael ei gynnal yn arafach. Darperir geirfa ac ynganiad ffonetic ar gyfer geiriau allweddol hefyd. Bydd y gwasanaeth byr yn Gymraeg yn cynnwys carolau Nadolig, darlleniadau a phregeth fer. Nod y fenter yw helpu dysgwyr Cymraeg i gymryd rhan llawnach mewn addoliad ar draws yr esgobaeth. Er bod y gwasanaeth wedi'i addasu'n arbennig ar gyfer dysgwyr, mae croesomawr hefyd i siaradwyr Cymraeg rhugl.

Mae Duw a Dysgwyr yn wasanaeth Cymun misol dan arweiniad Esgobaeth Bangor fel rhan o'u hymrwymiad i hybu'r Gymraeg yn eu heglwysi. Lansiwyd Duw a Dywgwyr ym mis Mehefin 2024 ac mae wedi bod yn boblogaidd gyda dysgwyr Cymraeg ar draws yr esgobaeth.

Dywedodd y trefnydd Elin Owen, Galluogydd y Gymraeg yn Esgobaeth Bangor, "Rydym yn gyffrous i fod yn cynnal ein gwasanaeth Cymun Nadolig cyntaf erioed i ddysgwyr. Bydd yn ychwanegiad gwych at ddathliadau'r ŵyl i ddysgwyr o bob lefel! "Mae gwneud addoliad Cymraeg yn hygyrch i ddysgwyr ar bob lefel yn hanfodol er mwyn cadw ein hiaith a'n traddodiadau yn fyw. Os ydi rhywun newydd ddechrau ar eu taith Gymraeg neu angen adeiladu eu hyder, fe gawn nhw groeso cynnes Nadoligaidd yn Duw a Dysgwyr 'Dolig."

Yn dilyn y gwasanaeth, gwahoddir mynychwyr i gael bwffe Nadolig lle gallant ymarfer eu Cymraeg gyda chyd-ddysgwyr mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol sydd yn cael ei gefnodi gan Menter Iaith Bangor.

Mae gwasanaeth 'Dolig Duw a Dysgwyr yn cael ei gynnal amser cinio dydd Llun 16 Rhagfyr am 12:30pm. Am fwy o wybodaeth am Duw a Dysgwyr 'Dolig ewch i dudalen digwyddiad Facebook.

Cymraeg

Welsh Learners invited to special Christmas service at Bangor Cathedral

Saint Deiniol's Cathedral in Bangor is hosting a special Christmas service created specifically for Welsh learners.

The service, called Duw a Dysgwyr ‘Dolig, is adapted from a traditional Eucharist and is conducted at a slower pace. Vocabulary and pronunciation guides for key words are also provided. The short service will include Christmas carols in Welsh with readings and a brief sermon. The initiative aims to help Welsh learners participate more fully in worship across the diocese. While the service is specially adapted for learners, fluent Welsh speakers are also welcome to attend.

Duw a Dysgwyr is a monthly Eucharist service led by the Diocese of Bangor as part of their commitment to promote the Welsh language in its churches. Duw a Dywgwyr launched in June 2024 and has been popular with Welsh learners across the diocese.

Organiser Elin Owen, Welsh Language Enabler at the Diocese of Bangor, says "We’re excited to be hosting our first ever Christmas Eucharist service for learners. This will be a great addition the festive celebrations for learners of all levels!

“Making Welsh-language worship accessible to learners at all levels is vital for keeping our language and traditions alive. Whether someone is just beginning their Welsh language journey or building their confidence, they'll find a warm Christmas welcome at Duw a Dysgwyr ‘Dolig."

Following the service, attendees are invited to a Christmas buffet where they can practice their Welsh with fellow learners in a relaxed and supportive atmosphere, supported by Menter Iaith Bangor.

The Duw a Dysgwyr 'Dolig service takes place on Monday 16 December at 12:30pm.

For more information about Duw a Dysgwyr 'Dolig vist the Facebook event page.