minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Hwb i Fanc Bwyd y Gadeirlan gan gwmni storio mawr cyn rhuthr y Nadolig

Mae banc bwyd prysur ym Mangor sy’n paratoi ar gyfer rhuthr o bobl mewn angen dros y Nadolig wedi cael rhodd o gyflenwadau gan fusnes yn y dref.

Daeth Lock Stock Self Storage, sydd â thri safle ym Mangor, i Fanc Bwyd y Gadeirlan Bangor, yng Nghlos y Gadeirlan, i roi cyflenwadau o basta, tatws, sawsiau, pwdinau a mwy.

Mae’r banc bwyd ar agor dri diwrnod yr wythnos, dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, am awr bob dydd ac wedi’i staffio dros y 12 mlynedd ddiwethaf gan dîm ymroddedig o fwy na 30 o wirfoddolwyr.

Mae’n swatio oddi ar Glos y Gadeirlan yn y ddinas a dywedodd aelod o’r tîm, Lesley Evans: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lock Stock am y rhodd hael hon ar ein hadeg brysuraf o’r flwyddyn.

“Mae cynnydd mawr wedi bod i’r niferoedd ers y pandemig ac rydyn ni’n gweld llawer o ffoaduriaid yn dod atom ni, i ddechrau o Wcráin ond yn gynyddol o Asia ac Affrica.

“Rydyn ni fel rheol yn darparu tua 50 o barseli bwyd ond bydd hynny’n cynyddu adeg y Nadolig wrth i bobl geisio sbwylio eu hunain a’u teuluoedd ac efallai mynd heb fwyd.

“Rydyn ni’n canfod ein bod ni’n gweld mwy o bobl mewn gwaith nawr nad ydyn nhw’n gallu ymdopi ar eu cyflogau a hefyd pobl hŷn. Mae’n ofnadwy ond mae’n ffaith.

“Mae’r ffigurau sy’n dangos bod yr unigolyn cyffredin ddim ond dau siec cyflog i ffwrdd o fod angen defnyddio banc bwyd yn ein syfrdanu – dyna faint o amser mae’n cymryd i wario eich cynilion.

“Rydyn ni’n ffodus o gael rhoddion fel yr un yma gan Lock Stock ac mae’n braf cael pethau hyfryd y gallwn ni eu dosbarthu i bobl ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn.”

Meddai Rheolwr Ardal Lock Stock ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru, Lee Hanson: “Rydyn ni’n hoffi cymryd rhan yn y cymunedau rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw a dyma ein ffordd o ddweud diolch am eu cefnogaeth.

“Mae gennym ni dri safle yma ym Mangor ac mae hwn yn amlwg yn wasanaeth y mae wir ei angen a gobeithio y bydd Lock Stock wedi chwarae rhan i ddod ag ychydig o hwyl y Nadolig i aelwydydd lleol.

“Mae’r tîm o wirfoddolwyr yma yn amlwg yn gwneud gwaith ardderchog ar yr hyn sy’n gyfnod anodd iawn i gynifer o bobl ac rydym ni’n hoffi cefnogi’r gymuned yn y mannau lle’r ydym ni’n cyflawni busnes pa un a yw’r elusennau fel Bwyd Banc y Gadeirlan Bangor neu ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.”

Mae Gillian Slade, deietegydd sydd wedi ymddeol, yn defnyddio ei harbenigedd i sicrhau bod y parseli bwyd yn cynnwys detholiad maethlon o fwydydd a dywedodd: “Rydyn ni’n trefnu’r pecynnau i ddarparu bwyd am dri diwrnod a hanner.

“Mae’r pecynnau ar gyfer pobl sengl, parau, teuluoedd â dau o blant dan wyth oed ac ar gyfer y rhai â phlant hŷn ac rydyn ni hefyd yn darparu ar gyfer deietau llysieuol a dietau arbennig eraill gan fod yn rhaid i ni ddarparu ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig a chrefyddau.

“Maen nhw’n cynnwys tri brecwast, tri chinio a thri chinio’r hwyr yn ogystal â byrbrydau a diodydd ac rydyn ni’n ceisio cynnig rhywfaint o lysiau a ffrwythau ffres.”

Lock Stock, a sefydlwyd yn Ninbych ym 1999, yw cwmni storio mewn cynwysyddion mwyaf y DU â bron i 4,500 o unedau yn darparu dros bedair miliwn troedfedd giwbig o le mewn 29 o barciau storio ar draws gogledd a chanolbarth Cymru, Swydd Amwythig a Glannau Mersi.

Os hoffech ragor o wybodaeth am waith Banc Bwyd y Gadeirlan Bangor, ewch i https://www.bangorfoodbank.org/


Lluniau: Rheolwr Rhanbarthol Lock Stock Self Storage Lee Hanson yn danfon rhodd fwyd i wirfoddolwyr Banc Bwyd y Gadeirlan Bangor Gillian Slade, chwith, a June Cadogan.

Llun gan Mandy Jones Photography.

Cymraeg

Cathedral Foodbank boost from storage giant ahead of the Christmas rush

A busy foodbank in Bangor gearing up for a Christmas rush of people in need has received a welcome boost to their supplies from a business in the town.

Lock Stock Self Storage, who have three sites in Bangor, called in at the Bangor Cathedral Foodbank, in Cathedral Close, with a delivery of pasta, potatoes, sauces, puds and more.

The food bank is open three days a week, Monday, Wednesday and Friday, for an hour each day and staffed for the past 12 years by a dedicated team of over 30 volunteers.

It is tucked away off Cathedral Close in the city and team member Lesley Evans said: “We’re really grateful to Lock Stock for this generous donation at what is our busiest time of the year.

“There has been a big increase in numbers since the pandemic and we do see many refugees coming to us, initially from the Ukraine but increasingly from Asia and Africa.

“We usually provide about 50 food parcels but that will go up at Christmas as people try to treat themselves and their families and perhaps go without food.

“We do find we are seeing more people in work now who simply can’t manage on their wages and also older people as well. It’s awful but it’s a fact of life.

“We are astounded by the figures that show the average person is only two pay cheques away from needing to use a foodbank – that’s how long it takes to exhaust your savings.

“We’re very blessed with donations like this one from Lock Stock and it’s nice to have treats that we can give out to people at this special time of year.”

Lock Stock Area Manager for North West Wales Lee Hanson said: “We do like to get involved with the communities where we operate and it’s our way of saying thank you for their support.

“We have three sites here in Bangor and this is clearly a much-needed service and hopefully Lock Stock will have played a part in bringing some Christmas cheer to local households.

“The team of volunteers here clearly do a fantastic job at what is a very difficult time for so many people and we like to support the community in the places where we are in business whether that’s charities like the Bangor Cathedral Foodbank or local schools and community groups.”

Gillian Slade, a retired dietician, uses her expertise to ensure the food parcels have a nutritious selection of foods and she said: “We organise the packs to provide food for three and a half days.

“The packs are for single people, couples, families with two children under eight and for those with older children and we also cater for vegetarian and other special diets because we have to cater for different ethnicities and religions.

“They include three breakfasts, three lunches and three dinners as well as snacks and drinks and we do try to offer some fresh vegetables and fruit.”

Lock Stock, founded in Denbigh in 1999, is the UK’s largest containerised storage company with almost 4,500 units providing over four million cubic feet of space at 29 storage parks across North and Mid Wales, Shropshire and Merseyside.

For more information about the work of Bangor Cathedral Foodbank go to https://www.bangorfoodbank.org/


Picture: Lock Stock Self Storage Regional Manager Lee Hanson delivering a food donation food to Bangor Cathedral Foodbank volunteers Gillian Slade, left, and June Cadogan.

Picture by Mandy Jones Photography.