Neges Nadolig Esgob o Gymru yn talu teyrnged i’r gwasanaethau brys
Yn ei neges Nadolig gyntaf fel Esgob Enlli mae David Morris wedi talu teyrnged i griwiau ambiwlans Cymru, swyddogion yr heddlu, diffoddwyr tân a gwirfoddolwyr a fydd yn aberthu eu dathliadau Nadolig i gadw cymunedau’n ddiogel eleni. Mae’r neges wedi’i hysbrydoli gan ei bresenoldeb mewn gwasanaeth carolau blynyddol y gwasanaethau brys yn gynharach ym mis Rhagfyr.
Yn ei neges, dywedodd yr Esgob David fod y gwasanaethau brys "dan bwysau sylweddol i’n cadw ni’n ddiogel ac i ymateb i achosion brys".
Meddai’r Esgob David, "Ni fydd llawer o’n personél gwasanaethau brys yn treulio Dydd Nadolig gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau er mwyn sicrhau eu bod ar gael os bydd eu hangen arnom. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n gohirio eu trefniadau eu hunain er lles eraill."
Mae ei neges hefyd yn tynnu sylw at gefnogaeth yr Eglwys yng Nghymru i ymgyrch ‘Achub Bywyd Cymru’, gan nodi’r ystadegyn syfrdanol mai dim ond 5% o’r 6,000 o achosion blynyddol y tu allan i'r ysbyty o ataliad y galon yng Nghymru sy’n goroesi.
"Slogan Achub Bywyd Cymru yw ‘Cofiwch, mae help wrth law’, sy’n ein hatgoffa y gall camau syml gan bobl gyffredin achub bywydau. Gall hyn hefyd ein hatgoffa nad yw Duw byth yn bell oddi wrthym yng nghanol heriau bywyd," meddai.
Mae’r Esgob David yn pwysleisio sut mae pobl sydd dan bwysau yn gallu uniaethu â stori’r Nadolig, gan nodi bod "Y Nadolig yn ymwneud â symudiad y galon a gall ei neges ganolog fod yn achubiaeth i’r rhai sy’n wynebu pwysau sy’n rhy drwm i’w cario ac sydd heb fawr o obaith."
Darllenwch Neges Nadolig llawn yr Esgob isod.
Neges Nadolig yr Esgob David
Yn ddiweddar, roeddwn i’n bresennol mewn Gwasanaeth Carolau ar gyfer ein Gwasanaethau Brys. Roedd yn gyfle i’w groesawu i wasanaethau Ambiwlans, yr Heddlu, Tân a gwirfoddol fyfyrio gyda’i gilydd ar ystyr y Nadolig, yn enwedig ar adeg y flwyddyn pan fyddant dan bwysau sylweddol i’n cadw ni’n ddiogel ac ymateb i achosion brys. Ni fydd llawer o’n staff gwasanaethau brys yn treulio Dydd Nadolig gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, er mwyn sicrhau eu bod ar gael os bydd eu hangen arnom. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n gohirio eu trefniadau eu hunain er lles eraill.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn falch o fod yn cefnogi ymgyrch ‘Achub Bywyd Cymru’. Bob blwyddyn yng Nghymru bydd dros 6,000 o bobl yn wynebu ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty, ac mae’r gyfradd oroesi ar hyn o bryd yn 5%.
Mae pob munud yn cyfrif a heb ymyrraeth gyflym mae’r gobaith o oroesi yn lleihau’n sylweddol. Mae ‘Achub Bywyd Cymru’ yn ymgyrch genedlaethol sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r gadwyn oroesi, annog hyfforddiant mewn CPR a defnyddio diffibrilwyr, a sicrhau bod y dyfeisiau achub bywyd hyn ar gael yn ehangach. Y gobaith yw, trwy godi ymwybyddiaeth a chynyddu adnoddau, y bydd mwy o fywydau’n cael eu hachub.
Er bod ymgyrch ‘Achub Bywyd Cymru’ yn ymwneud â symudiad y galon yn gorfforol ac achub bywydau, mae’r Nadolig yn ymwneud â symudiad y galon yn drosiadol – mae’n ymwneud â chariad a gweithredu’n gariadus – wrth i ni ddathlu genedigaeth yr un a ddaeth er mwyn i ni gael bywyd yn ei gyflawnder llwyr.
Mae’r ysgrythurau yn dweud wrthym ‘Carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig anedig Fab fel na fydd pwy bynnag a gredo ynddo Ef yn marw ond yn cael bywyd tragwyddol’. Yn y bôn, mae hyn yn disgrifio sut y daeth Duw i’n hachub a’n gwaredu drwy weithred ddiamod o gariad a thrugaredd.
Slogan Achub Bywyd Cymru yw ‘Cofiwch, mae help wrth law’, gan ein hatgoffa ni y gall camau syml gan bobl gyffredin achub bywydau. Gall y slogan hwn hefyd ein hatgoffa nad yw Duw byth yn bell i ffwrdd oddi wrthym yng nghanol heriau bywyd a stori’r Nadolig sy’n adrodd am Duw yn dod i’n plith ym maban Bethlehem, gan sôn am Dduw a ddaeth ochr yn ochr â ni ac a roddodd i ni’r gallu i ddewis bywyd ac i garu fel y mae ef yn caru.
Mae’r Nadolig yn ymwneud â symudiad y galon a gall ei neges ganolog fod yn achubiaeth i bobl sydd dan bwysau sy’n rhy drwm i’w cario ac sydd heb fawr o obaith. Pwy bynnag yr ydych chi a ble bynnag yr ydych chi, bydded i heddwch, llawenydd a chariad Crist fod yn eiddo i chi y Nadolig hwn.
Welsh Bishop's Christmas message pays tribute to emergency services
In his first Christmas message as Bishop, David Morris, Bishop of Bardsey in the Diocese of Bangor, has paid tribute to Welsh ambulance crews, police officers, firefighters and volunteers who will sacrifice their Christmas celebrations to keep communities safe this year. His attendance at an emergency services annual carol service earlier in December inspired the message.
In his message, Bishop David says that emergency services “are under considerable pressure to keep us safe and respond to critical emergencies.”
Bishop David says, "Many of our emergency services personnel will not be spending Christmas Day with their families and friends to ensure they are available should need them. We extend our heartfelt gratitude to all who put their own lives on hold for the sake of others."
His message also draws attention to the Church in Wales' support of the 'Save a Life Cymru' campaign, noting the sobering statistic that only 5% of the 6,000 annual out of hospital cardiac arrest cases in Wales survive.
"‘Help is closer than you think’ is a slogan for Save a Life Cymru, reminding us that simple steps by ordinary people can save a life. This can also remind us that God is never far away from us in the midst of life’s challenges,” he says
Bishop David emphasises how the Christmas story speaks to those under pressure, noting that "Christmas is about the movement of the heart and its core message can be a life saver for those who are experiencing pressures too heavy to carry and who have little hope."
Read Bishop full Christmas message below.
Bishop David’s Christmas message
I recently attended a Carol Service for our Emergency Services. This was a welcome opportunity for the Ambulance, Police, Fire and voluntary services to reflect together on the meaning of Christmas, especially at a time of year where they are under considerable pressure to keep us safe and respond to critical emergencies. Many of our emergency services personnel will not be spending Christmas Day with their families and friends to ensure they are available if we should need them. We extend our heartfelt gratitude to all who put their own lives on hold for the sake of others.
The Church in Wales is proud to be a supporting the ‘Save a Life Cymru’ campaign. Every year in Wales over 6,000 people will experience an out of hospital cardiac arrest, and the survival rate is currently 5%.
Every minute counts and without swift intervention the chances of survival reduce significantly. ‘Save a Life Cymru’ is a national campaign aimed at raising awareness of the chain of survival, encouraging training in CPR and in the use of defibrillators, and making these life saving devices more widely available. It is hoped that through increased awareness and resource, more lives will be saved.
While the ‘Save a Life Cymru’ campaign is concerned with the movement of the heart physically and the preservation of life, Christmas is concerned with the movement of the heart metaphorically – it’s about love and loving action – as we celebrate the birth of the one who came that we might life in all its fullness.
The scriptures tell us, ‘God so loved the world that he gave his only Son, that whoever believes in him should not perish but have everlasting life’. Essentially, this describes how God came to our rescue and saved us in an unconditional act of love and mercy.
‘Help is closer than you think’ is a slogan for ‘Save a Life Cymru’, reminding us that simple steps by ordinary people can save a life. This slogan can also remind us that God is never far away from us in the midst of life’s challenges and the Christmas story which tells of God’s coming among us in the babe of Bethlehem, speaks of a God who came alongside us and gifted us the ability to choose life and to love as he loves.
Christmas is about the movement of the heart and its core message can be a life saver for those who are experiencing pressures too heavy to carry and who have little hope. Whoever you are and wherever you are, may the peace, joy and love of the Christ-child be yours this Christmas.