minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Nadolig yn Kyiv

Cafodd warden eglwys o Wcráin a'i merch seibiant byr o'r ymosodiadau awyr gyda nos yn ystod ymweliad wythnos â gogledd Cymru, a drefnwyd drwy Esgobaeth Bangor. Ymwelodd Christina a'i merch Marharyta, o Eglwys Crist Kyiv, â'r esgobaeth ym mis Awst ar ôl sicrhau fisâu drwy ymyrraeth Esgob David Morris. Roedd yn nodi egwyl brin o'u bodolaeth ryfel yn nhrefi'r Wcráin lle maent, fel llawer o drigolion, yn byw yn rhy bell o lochesi awyr er mwyn gyrraedd diogelwch yn ystod y bomio.

Rŵan, wrth i'r Nadolig agosáu, mae eu cynulleidfa yn Eglwys Crist Kyiv yn paratoi ar gyfer y Gwasanaeth Carolau blynyddol, sydd i'w gynnal ddydd Sul yng nghysgod cerbydau arfog a milwyr arfog sy'n leinio’r strydoedd y tu allan i'w man addoli. Bydd y gwasanaeth, dan arweiniad caplan sy'n ymweld o Warsaw, yn dod at ei gilydd addolwyr rheolaidd a gweithwyr rhyngwladol sydd wedi'u lleoli yn y ddinas sy'n rhwygo gan ryfel.

Mae'r Parchg Rosie Dymond yn dweud wrthym fwy


Bum mlynedd yn ôl, fe dreuliais i’r Adfent a’r Nadolig fel Caplan Locwm Eglwys Crist, Kyiv – cymuned Anglicanaidd anhygoel sy’n cyfarfod i addoli yn Eglwys Lwtheraidd Almaenig St Katharina yng nghanol y ddinas ac yn uniongyrchol gyferbyn â swyddfa’r Llywydd. 

Hyd yn oed bryd hynny, roedd yna wrthdaro yn Crimea, Donetsk a Luhansk, ac roeddwn i’n ymwybodol bod yna lawer o ffoaduriaid o rannau eraill o’r wlad yn Kyiv. Roedd hi’n deimlad rhyfedd, ac rwy’n credu iddo roi mewnwelediad dyfnach ac annifyr i mi o stori’r Nadolig, gorfod pasio llinell hir o gerbydau a milwyr arfog i gyrraedd adeilad yr eglwys ar gyfer y Gwasanaeth Carolau blynyddol.

Yn ystod y cyfnod byr a dreuliais yn y ddinas, fe wnaeth y bobl greadigol a dyfeisgar argraff fawr arnaf. Roedden nhw’n llawn optimistiaeth am y dyfodol fel gwlad Ewropeaidd ifanc a ffyniannus. Cefais fy nharo hefyd gan y cysylltiad arbennig â phobl Cymru. Yn aml, pan rwy’n teithio ac yn sôn wrth bobl fy mod i’n dod o Gymru, maen nhw’n edrych yn syn arnaf neu’n dweud rhywbeth fel ‘O, Lloegr rydych chi’n meddwl?’ 

Nid felly yn Kyiv! 

Wrth gwrs, John Hughes o Ferthyr sefydlodd dinas Donetsk (Hughesovka yn gynt) ym 1869. A Gareth Jones, y newyddiadurwr ifanc, dewr o’r Barri, a dynnodd sylw’r byd at erchyllterau newyn holodomor y cyfnod Sofietaidd yn y 1930au. Mae cenedlaethau o Wcreiniaid hefyd wedi gorfod wynebu cymhlethdodau yn ymwneud â’r iaith ac maen nhw’n gwerthfawrogi beth yw brwydro i sicrhau goroesiad iaith hynafol werthfawr.

Mae gan Eglwys Crist Kyiv weinyddiaeth unigryw. Mae’n gymuned addoli fywiog sy’n cael ei harwain gan bobl leyg yn bennaf, ac mae’n lle sy’n rhoi cysur ysbrydol ac ysbrydoliaeth i drigolion lleol yn ogystal â’r gymuned ryngwladol amrywiol sy’n gweithio ym meysydd diplomyddiaeth, heddwch a chyfiawnder, yn ogystal â llawer o feysydd heriol eraill sy’n gysylltiedig â’r cyd-destun presennol. Ar hyn o bryd, mae’r gynulleidfa leol graidd nid yn unig yn cyfarfod bob pythefnos i addoli, ond maen nhw hefyd yn byw eu ffydd yn y gwaith hanfodol maen nhw’n eu gwneud yn ystod yr wythnos – gyda rhai yn ymgymryd â sawl swydd fel eu cyfraniad nhw at yr ymdrechion yn ystod y rhyfel, at amddiffyn eu dinas ac at ddatblygu seilwaith a fydd yn sicrhau ffyniant eu gwlad yn y dyfodol.

Nôl ym mis Awst, diolch i lawer o weddïo a llythyr gwahoddiad gan yr Esgob David, roedd hi’n bosibl cael fisa i Christina, Warden Eglwys Crist, a’i merch Marharyta, i dreulio wythnos o wyliau yn Esgobaeth Bangor – amser arbennig i ymlacio ac adfer cyn dychwelyd i’r ofn a’r ansicrwydd o fyw drwy ryfel, gan gynnwys realiti bombardiadau bob nos o’r awyr. Fel llawer o bobl eraill, maen nhw’n byw yn rhy bell o’r lloches agosaf iddo fod yn opsiwn realistig i adael eu fflat a dod o hyd i le diogel mewn pryd.

Mae’r gynulleidfa yn Eglwys Crist yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr achlysuron prin hynny yn ystod y flwyddyn pan fydd offeiriad Anglicanaidd yn teithio i Kyiv (Caplan yn y fyddin efallai neu offeiriad sy’n ymweld â chonfoi cymorth) a gallan nhw ddathlu’r Ewcharist gyda’i gilydd. 

Dyma fydd yn digwydd y dydd Sul hwn. Mae’r Caplan o Warsaw wedi llwyddo i gael fisa a bydd yno gyda nhw ar gyfer y Gwasanaeth Carolau blynyddol. Maen nhw’n disgwyl gwahodd eu cynulleidfa arferol a gwesteion o lawer o wledydd sy’n gweithio yn y ddinas ar hyn o bryd.


Gweddi dros Eglwys Crist, Kyiv

Rhyfeddol Gynghorwr, Tywysog Heddwch,
Rydyn ni’n gweddïo dros bobl Wcráin a thros bawb sy’n gwasanaethu eu gwlad yn y lluoedd arfog ac mewn rolau sifilaidd amrywiol ar yr adeg hon.

Rydyn ni’n gweddïo dros lywodraeth Wcráin a thros arweinwyr y gwledydd sy’n ceisio darparu cymorth, gweinyddu cyfiawnder a sicrhau heddwch parhaol.

Rydyn ni’n diolch am dystiolaeth ffyddlon Eglwys Crist, Kyiv, ac yn gweddïo dros Wardeiniaid yr Eglwys, Christina a Thamurai, a holl aelodau’r eglwys, yn eu bywyd eglwysig ac yn eu gweithleoedd beunyddiol.

Ac rydyn ni’n gweddïo dros bawb fydd yn ymgasglu ar gyfer y Gwasanaeth Carolau ddydd Sul.

Boed i’r rhai sy’n cerdded yn nhywyllwch y gwrthdaro presennol hwn brofi cariad a goleuni ein Hiachawdwr Iesu Grist,
yr ydym yn gweddïo yn ei enw.

Amen.

Cymraeg

Christmas in Kyiv

A Ukrainian church warden and her daughter found brief respite from nightly air raids during a week-long stay in North Wales, arranged through the Diocese of Bangor. Christina and her daughter Marharyta, from Christ Church Kyiv, visited the diocese in August after securing visas through the intervention of Bishop David, marking a rare break from their wartime existence in Ukraine's capital.

Now, as Christmas approaches, their congregation at Christ Church Kyiv is preparing for its annual Carol Service, to be held this Sunday in the shadow of armoured vehicles and armed soldiers that line the streets outside their place of worship. The service, led by a visiting chaplain from Warsaw, will bring together both regular worshippers and international workers currently stationed in the war-torn city.

Revd Rosie Dymond tells us more about the visit and Christmas in Kyiv.


Five years ago, I spent Advent and Christmas as Locum Chaplain of Christ Church, Kyiv – a remarkable Anglican community who meet for worship in the German Lutheran Church of St Katharina, right at the heart of the city and directly opposite the President’s office. 

Even back then, conflict was rumbling on in Crimea, Donetsk and Luhansk, and I was aware of many refugees in Kyiv from other parts of the country. It was a strange feeling, and I think one which gave me a deeper and disturbing insight into the Christmas story, to have to pass a long line of armoured vehicles and soldiers bearing arms to reach the church building for the annual Carol Service.

During my short stay in the city, I was impressed by a creative and resourceul people, full of optimism about the future as a young and thriving European nation. The special affinity with the people Wales also struck me. Often when I travel and tell people I am from Wales, I am met with blank stares or comments like ‘Oh, you mean England?’ 

Not so in Kyiv! 

It was of course John Hughes from Merthyr who founded the city of Donetsk (formerly known as Hughesovka) in 1869. And it was Gareth Jones, the young and fiercely courageous journalist from Barry, who brought the world’s attention to the atrocities of the Soviet-era holodomor famine in the 1930s. For many generations, Ukrainians have also had to navigate complexities around language and appreciate what it is to fight for the survival of a treasured ancient tongue.

Christ Church Kyiv has a unique ministry. It is a mainly lay-led, vibrant worshipping community and place of spiritual comfort and inspiration for local residents as well as a diverse international community working in diplomacy, peace and justice, as well as many other demanding arenas related to the present context. At present, the core local congregation not only maintains a fortnightly act of worship but are themselves living out their faith through the vital work they are doing during the week – with some doing several jobs as their own contribution to the war effort, the defence of their city and developing infrastructure for the future flourishing of their land.

Back in August, thanks to much prayer and a letter of invitation from Bishop David, it was possible to get a visa for Christina, the Church Warden of Christ Church and her daughter Marharyta to have a week’s holiday in the Diocese of Bangor – a special time of rest and recouperation for them before returning the fear and uncertainty of their wartime existence, including the nightly reality of arial bombardment. Like many others, they live too far from the nearest air-raid shelter to make it a realistic option to leave their apartment and get to a shelter in time.

The congregation at Christ Church look forward eagerly to those few occasions in the year when an Anglican priest travels to Kyiv (perhaps an army Chaplain or a member of the clergy visiting with an aid convey) and they can celebrate the Eucharist together. 

This coming Sunday will be such an occasion. The Chaplain from Warsaw has been able to get a visa and will be with them for the annual Carol Service, to which they expect to welcome both their regular congregation and guests from many nations currently working in the city.


A Prayer for Christ Church, Kyiv

Wonderful Counsellor, Prince of Peace,
We pray for the people of Ukraine and for all serving their country in the armed forces and numerous civilian roles at this time.

We pray for the government of Ukraine and for the leaders of the nations seeking to provide aid, administer justice and establish a lasting peace.

We give thanks for the faithful witness of Christ Church Kyiv and pray for the Church Wardens Christina and Thamurai and all church members, both in their congregational life and in their daily places of work.

And we pray for all who will gather for this Sunday’s Carol Service.

May those walking in the darkness of this present conflict encounter the love and light of our Saviour Jesus Christ,
in whose name we pray.

Amen.