Estyn yn canmol ysgol yr Eglwys yng Nghymru am greu "cymuned ddysgu hapus"
Mae un o ysgolion cynradd yr Eglwys yng Nghymru ar Ynys Môn yn dathlu adroddiad arolygiad cadarnhaol gan Estyn sy'n nodi ei bod yn llwyddo i wireddu ei harwyddair 'Plant hapus sy'n dysgu'.
Cafodd Ysgol Santes Dwynwen yn Niwbwrch, Llanfairpwll, ganmoliaeth gref yn ei harolygiad Estyn cyntaf wrth i’r adroddiad amlygu llwyddiant yr ysgol wrth feithrin perthnasoedd cynnes a hybu diwylliant Cymru a’r Gymraeg.
Canmolwyd y pennaeth am greu amgylchedd cynhwysol sy'n rhoi lles disgyblion wrth galon bywyd yr ysgol. O dan ei harweinyddiaeth, mae'r ysgol wedi datblygu'r hyn a alwodd arolygwyr yn "gymuned ddysgu hapus sy'n hybu cyfleoedd cadarnhaol i ddisgyblion."
Mae bron pob disgybl yn yr ysgol, sydd â 113 o ddisgyblion, yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac roedd yr adroddiad yn canmol "ethos teuluol a gofalgar" yr ysgol. Mae'r ysgol yn rhagori yn arbennig o ran cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, sy'n gwneud "cynnydd pwrpasol" diolch i systemau cymorth trylwyr ac effeithiol.
Nododd yr adroddiad hefyd fod cymeriad Cristnogol yr ysgol yn disgleirio trwy fywyd bob dydd, gydag addoliad ar y cyd ystyrlon yn cefnogi datblygiad ysbrydol a moesol disgyblion. Mae disgyblion hefyd yn dysgu am wahanol grefyddau, diwylliannau a gwyliau, gan gynnwys Ramadan, Eid a Diwali.
Mae diwylliant a threftadaeth Cymru yn rhan ganolog o fywyd yr Ysgol wrth i’r disgyblion ddysgu am hanes lleol a ffigyrau dylanwadol o Gymru fel Mari Jones a'r Esgob William Morgan. Gan fod 69% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, nododd yr adroddiad fod y disgyblion yn dangos balchder yn eu cymuned leol, eu hysgol, y Gymraeg a threftadaeth Cymru.
Canmolwyd Llywodraethwyr yr ysgol am y cyfraniad cadarnhaol ac am weithio'n agos gyda staff i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i wella. Maent yn rheoli cyllideb yr ysgol yn ofalus i gefnogi datblygiad disgyblion a hyfforddiant staff.
Nododd y tîm arolygu sawl maes ar gyfer datblygiad parhaus, gan gynnwys gwella profiadau dysgu awyr agored a datblygu sgiliau ysgrifennu disgyblion ymhellach. Mae arweinwyr yr ysgol wedi croesawu'r argymhellion hyn fel rhan o'u hymrwymiad i welliant parhaus.
Meddai Manon Williams, Pennaeth Ysgol Santes Dwynwen, "Mewn trafodaeth ar ddiwedd yr arolygiad, nododd un o'r tîm arolygu eu bod wedi cynnal nifer o arolygiadau ond ei argraff barhaol o Ysgol Santes Dwynwen fyddai wynebau hapus y disgyblion a'r staff".
"Rwy'n ffodus iawn i weithio gyda'r tîm gwych yn Ysgol Santes Dwynwen."
Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Parchedig Ganon Emlyn Williams, sy'n cefnogi'r ysgol i ddatblygu eu hethos Cristnogol, "Daeth arolygwyr Estyn i ymweld ag Ysgol Santes Dwynwen a chanfod ei bod yn amgylchedd bendigedig, cariadus, sy'n berffaith wrth annog plentyn i fod â meddylfryd twf, gan fod pob plentyn yn cael ei werthfawrogi am bwy ydyn nhw, lle maen nhw, heb unrhyw rhagdybiaethau na rhagfarn am eu galluoedd.
"Rydym wrth ein bodd bod casgliad yr adroddiad yn dangos bod Ysgol Santes Dwynwen ymhlith un o'r ysgolion gorau ym Môn, sy'n gweithredu o fewn 'arferion gorau' addysgu, yn ddyddiol.
"Yn ystod trafodaeth yn gwerthuso adroddiad Estyn, galwyd Ysgol Santes Dwynwen yn borth ysbrydoledig i blentyn ddeall y byd ehangach ar sawl lefel, sy'n gosod sylfaen i bob plentyn, i greu dyfodol disglair."
ESTYN praises school for creating "happy learning community"
A Church in Wales primary school on Anglesey is ending the academic year on a high note after receiving a positive Estyn inspection report, which highlights its success in living up to its motto ‘Plant hapus sy’n dysgu’ - ’Happy Children Learn.’
Ysgol Santes Dwynwen in Newborough, Llanfairpwll, received strong commendations in its first Estyn inspection, with the report highlighting the school's success in fostering warm relationships and promoting Welsh culture and language.
The headteacher was praised for creating an inclusive environment that puts pupils' wellbeing at the heart of school life. Under her leadership, the school has developed what inspectors called "a happy learning community that promotes positive opportunities for pupils."
Nearly all pupils at the 113-pupil school feel safe and valued, with the report praising the schools "familial and caring ethos." The school particularly excels in supporting pupils with additional learning needs, who make "purposeful progress" thanks to thorough and effective support systems.
The report also noted that the school's Christian character shines through daily life, with meaningful collective worship supporting pupils' spiritual and moral development. Pupils also learn about various faiths, cultures and festivals, including Ramadan, Eid and Diwali.
Welsh culture and heritage play a central role in school life, with pupils learning about local history and influential Welsh figures such as Mari Jones and Bishop William Morgan. With 69% of pupils speaking Welsh at home, the report noted that pupils demonstrate pride in their local community, their school, and in the Welsh language and Welsh heritage.
School Governors were praised for the positive input and for working closely with staff to ensure the school continues to improve. They carefully manage the school's budget to support pupil development and staff training.
The inspection team noted several areas for ongoing development, including enhancing outdoor learning experiences and further developing pupils' writing skills. The school's leaders have welcomed these recommendations as part of their commitment to continuous improvement.
Manon Williams, Headteacher at Ysgol Santes Dwynwen, says, “In a discussion at the close of the inspection, one of the inspection team noted that they had conducted numerous inspections but his lasting impression of Ysgol Santes Dwynwen would be of the happy smiling faces of the pupils and of the staff”
“I am very fortunate to work with the wonderful team at Ysgol Santes Dwynwen.”
Chair of Governors Rev Canon Emlyn Williams, who supports the school to develop their Christian ethos, says, “Estyn inpectors came to visit Ysgol Santes Dwynwen and found it to be a wonderful, loving environment, which is perfect in encouraging a child to have a growth mindset, as each child is valued for who they are, where they are, with no preconceptions or prejudice of their abilities.
“We are delighted that the report's conclusion shows Ysgol Santes Dwynwen to be among one of the best schools on Anglesey, which operates within the ‘best practices’ of teaching, on a daily basis.
“During a discussion evaluating the Estyn report, Ysgol Santes Dwynwen was called, a child’s inspirational gateway into understanding the wider world on many levels, which lays the foundation for every child, on which to build a glowing future.”