minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cadeirlan Bangor yn cynllunio dathliadau pen-blwydd hanesyddol

Bydd 2025 yn nodi carreg filltir aruthrol yn hanes Bangor, wrth i'r ddinas ddathlu ei phen-blwydd yn 1500 oed. Wedi'i sefydlu gan Deiniol Sant yn 525OC, Bangor yw'r Bangor hynaf mewn hanes cofnodedig, ac mae'r ddinas yn paratoi ar gyfer dathliad blwyddyn gyfan heb ei debyg. 

Bydd Cadeirlan Deiniol Sant a Dinas Bangor yn coffáu'r achlysur arwyddocaol hwn gyda chyfres o ddathliadau cyffrous a deinamig drwy gydol 2025, wedi'u cynllunio i arddangos hanes cyfoethog y ddinas a'r Gadeirlan, ac edrych ymlaen at ddyfodol disglair.

Ymunwch â thudalen Facebook swyddogol Bangor 1500 i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddigwyddiadau.


Bangor 1500 yn y Gadeirlan

Mae rhaglen penblwydd y Gadeirlan yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel drwy gydol 2025, yn cynnwys:

  • Darllediad byw o Sunday Worship BBC Radio 4.
  • Cyngerdd aduniad hanesyddol gan y band roc Cristnogol Cymraeg Yr Atgyfodiad.
  • Cynhyrchiad cerddorol newydd o'r enw Dinas Noddfa / City of Refuge
  • Lansio CD Cerddoriaeth Eglwysig Gymraeg Newydd wedi'i recordio gan Gôr Cadeirlan Deiniol Sant.
  • Gosod eicon newydd o Deiniol Sant.

Calendr digwyddiadau 

  • 14 Chwefror Cyngerdd Atgyfodiad 
  • 1 Mawrth CD Côr y Gadeirlan o Gerddoriaeth Eglwysig Gymraeg Newydd 
  • Haf Noson Trafodaeth Ddiwinyddol: Robin Grove White a'r Athro John Milbank 
  • Haf Dyddiau Ymadawyr Ysgol Eglwys (x2) 
  • 29/30 Awst Dinas Noddfa ☩ City of Refuge - Cynhyrchiad Theatr 
  • 11 Medi Gŵyl Ddeiniol 
  • 14 Medi Addoliad byw ar BBC Radio 4 
  • 4 Hydref Dathliad ac Cynhadledd Esgobaethol 
  • 21 Tachwedd Darlith gan y Canon Jarel Robinson 
  • 22 Tachwedd Gwasanaeth gosod yr eicon newydd o Sant Deiniol
Cymraeg

Bangor Cathedral plans historic anniversary celebrations

2025 will mark a monumental milestone in the history of Bangor, as the city celebrates its 1500th anniversary.

Founded by Saint Deiniol in 525AD, Bangor is the oldest Bangor in recorded history, and the city is preparing for a yearlong celebration like no other. Saint Deiniol’s Cathedral and the City of Bangor will commemorate this significant event with a series of exciting and dynamic celebrations throughout 2025, designed to showcase the rich history of the city and the Cathedral and look ahead to a bright future.

Join the official Bangor 1500 Facebook page to stay up to date with all events. 


Bangor 1500 at the Cathedral

The Cathedral's anniversary programme includes a series of high-profile events throughout 2025, including:

  • A live broadcast of BBC Radio 4's Sunday Worship.
  • An historic reunion concert by Welsh language Christian rock band Yr Atgyfodiad.
  • A brand new musical production called Dinas Noddfa / City of Refuge
  • The launch of New Welsh Church Music CD recorded by Saint Deiniol’s Cathedral Choir.
  • The installation of a new icon of Saint Deiniol.

Calendar of events

14 Feb Atgyfodiad Concert

  • 1 March Cathedral Choir CD of New Welsh Church Music
  • Summer Theological Discussion Evening : Robin Grove White and Prof John Milbank
  • Summer Church School Leavers’ Days (x2)
  • 29/30 August Dinas Noddfa ☩ City of Refuge - Theatre Production
  • 11 Sept Gŵyl Ddeiniol ☩ St Deiniol’s Day
  • 14 Sept Live worship on Radio 4
  • 4 Oct Diocesan Celebration and Conference
  • 21 Nov Lecture by Canon Jarel Robinson
  • 22 Nov Installation service of the new Saint Deiniol icon
Bangor 1500 logo