minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Eglwysi'n camu i'r adwy wrth i argyfwng dŵr daro Conwy

Mae eglwysi ar draws Conwy wedi sefydlu canolfannau dŵr brys i gefnogi cymunedau lleol ar ôl i bibell yn Nolgarrog dorri a tharfu ar rwydwaith dŵr yr ardal.

Mae cynulleidfaoedd lleol yn gweithio gyda chynghorwyr, ASau ac Aelodau'r Senedd i gydlynu dosbarthiadau dŵr potel i filoedd o drigolion yr effeithir arnynt. Mae Archesgob Cymru Andrew John wedi bod yn cydweithio gydag AS Gorllewin Clwyd Darren Millar i gydlynu'r ymdrechion dosbarthu.

Y Parchg Vince Morris a gwirfoddolwyr

Derbyniodd Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandudno baledau o ddŵr potel ddydd Gwener, gyda gwirfoddolwyr yn dosbarthu cyflenwadau i'r rhai mewn angen. Dywedodd y Parchg Vince Morris: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda chynghorwyr lleol, ASau ac Aelodau'r Senedd i sicrhau bod pobl sy'n fregus yn cael mynediad at ddŵr. Rydym yn ddiolchgar i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu a'r rhai sydd wedi cadw llygad ar eu cymdogion."

Dywedodd Archesgob Andrew John: "Rwy'n falch iawn bod yr eglwysi yn Nyffryn Conwy wedi gallu helpu mewn amgylchiadau heriol. Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd dŵr glân yn cael ei adfer yn fuan i'n cartrefi, busnesau a chymunedau i gyd."

Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandudno

Mae Dŵr Cymru wedi trwsio'r bibell ddrwg ond ni ddisgwylir i gyflenwadau ddychwelyd am hyd at 48 awr. Er bod y tarfu wedi gorfodi ysgolion i gau ac effeithio busnesau lleol, mae rhwydweithiau cymorth cymunedol yn parhau i sicrhau bod trigolion yn cael mynediad at ddŵr.

Cymraeg

Churches step up as water crisis hits Conwy

Churches across Conwy have set up emergency water hubs to support local communities after a burst pipe in Dolgarrog disrupted the region's water network.

Local congregations are working with councillors, MPs and Members of the Senedd to coordinate bottled water deliveries to thousands of affected residents. Archbishop of Wales Andrew John has been liaising with Clwyd West MS Darren Millar to coordinate distribution efforts.

Holy Trinity Church, Llandudno

Holy Trinity Church in Llandudno received pallets of bottled water on Friday, with volunteers distributing supplies to those in need. The Revd Vince Morris said: "We have been working with local councillors, MPs and Members of the Senedd to ensure vulnerable people have access to water. We're grateful for all the volunteers who have helped out and those who have checked in with neighbours."

Archbishop Andrew John said: "I'm so pleased the churches in the Conwy valley have been able to help in what are challenging circumstances. We very much hope all our homes, businesses and communities will have clean water restored soon."

Holy Trinity Church, Llandudno

Welsh Water has repaired the damaged pipe but supplies are not expected to return for up to 48 hours. While the disruption has forced schools to close and affected local businesses, community support networks continue to ensure residents have access to water.