Grant yr Eglwys yng Nghymru yn ysgogi adfywiad mewn gweinidogaeth ieuenctid
Mae prosiect eglwys arloesol, wedi’i ariannu gan yr Eglwys yng Nghymru, wedi ysgogi twf rhyfeddol mewn gweinidogaeth ieuenctid, gan ymgysylltu â mwy na 160 o blant mewn tri phlwyf arfordirol. Flwyddyn yn ôl, dim ond dau blentyn oedd yn cymryd rhan.
Mae’r prosiect Faith Alive o Ardal Weinidogaeth Bro Dwylan yn Esgobaeth Bangor yn cyfuno addoli rheolaidd sy’n ystyriol o deuluoedd â gweithgareddau ymarferol i blant a phobl ifanc. Mae Clwb Plant misol yn cyfarfod yn y ganolfan gymunedol leol, gan gynnig straeon o’r Beibl, celf a chrefft, gemau, a chinio picnic blasus wedi’i ddarparu gan wirfoddolwyr.
Ochr yn ochr â gweithgareddau rheolaidd, mae’r prosiect yn cynnal digwyddiadau tymhorol i gynnwys pobl a allai fod yn newydd i’r eglwys. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys sesiynau’r haf yn chwilota pyllau glan môr, gan archwilio creadigaeth Duw, dan arweiniad y Parchg Andy Broadbent, sydd hefyd yn fiolegydd morol, dathliadau Calan Gaeaf sy’n canolbwyntio ar draddodiadau Cristnogol, a gweithgareddau rhyngweithiol Nadoligaidd gan gynnwys arddangosfeydd stori’r geni a gweithdai crefft.
Mae cyllid hefyd wedi galluogi creu man sy’n groesawgar i deuluoedd yn Eglwys y Santes Fair a Christ yn Llanfairfechan, ynghyd â seddi cyfforddus, bwrdd Lego, teganau plant, llyfrgell ac ardal gelf.
Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol. Lle’r oedd ond dau blentyn yn mynychu yn flaenorol, mae Ardal y Weinidogaeth bellach yn ymgysylltu’n rheolaidd â dros 160 o blant drwy ei digwyddiadau, gan gyrraedd cannoedd ychwanegol drwy fentrau cymunedol ar y cyd. Mae nifer o deuluoedd newydd yn dod i wasanaethau addoli yn rheolaidd erbyn hyn.
Dywedodd y Parchg Andy, "Roedden ni eisiau creu dewisiadau i’r rhai sy’n newydd i’r eglwys neu sy’n gyfarwydd â hi, i ymuno cymaint, neu gyn lleied ag y maen nhw’n dymuno, wrth eu helpu nhw i ddatblygu eu ffydd. Diolch i’r Eglwys yng Nghymru, gall teuluoedd bellach ddod i wasanaethau sy’n cynnwys diwinyddiaeth hawdd ei deall, a gwasanaethau addoli sy’n addas i deuluoedd gyda cherddoriaeth a thechnoleg fodern.
"Mae wedi rhoi hwb gwirioneddol i’r gynulleidfa i weld bod newid yn bosibl ac nad dirywiad yw’r dyfodol o reidrwydd. Mae ein stori llwyddiant yn dangos sut y gall cyllid wedi’i dargedu ar gyfer gweinidogaeth leol arloesol adfywio eglwysi gwledig a chreu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddod i ffydd."
Meddai Archesgob Cymru, Andrew John, "Mae llwyddiant Faith Alive yn dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn ni’n ail-ddychmygu sut yr ydyn ni’n gwasanaethu ein cymunedau. Mae agwedd greadigol Bro Dwylan tuag at weinidogaeth yn dangos y gall eglwysi ffynnu drwy arloesi ac ymgysylltu gwirioneddol â theuluoedd. Dyma’n union yw nod cyflawni cyllid yr Eglwys yng Nghymru - mentrau wedi’u meithrin yn lleol a all ysbrydoli twf tebyg ledled Cymru."
Mae Esgob Ynys Enlli David Morris yn dweud, "Mae wedi bod yn wych clywed sut mae’r fenter Faith Alive, sydd wedi’i arloesi gan glerigwyr a phobl Bro Dwylan, wedi cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl ifanc mewn cymunedau lleol. Rydyn ni’n obeithiol y bydd y prosiect yn parhau i fagu nerth ac effaith, gan feithrin a dyfnhau ffydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf."
Mae ffrwd gyllido Haen Un yr Eglwys yng Nghymru yn rhoi grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau lleol arloesol y mae modd eu hailadrodd yn genedlaethol, gan gefnogi cenhadaeth ehangach yr eglwys i ymgysylltu â chymunedau modern.
Church in Wales grant sparks revival in youth ministry
An innovative church project, funded by the Church in Wales, has sparked extraordinary growth in youth ministry, engaging more than 160 children across three coastal parishes. Just a year ago, only two children were involved.
The Faith Alive project from Bro Dwylan Ministry Area in the Diocese of Bangor combines regular family-friendly worship with hands-on activities for children and young people. A monthly Kids Club meets at the local community centre, offering Bible stories, arts and crafts, games, and a delicious picnic lunch provided by volunteers.
Alongside regular activities, the project runs seasonal events to involve people who may be new to church. Activities include summer rock-pooling sessions exploring God's creation, led by Revd Andy Broadbent, who is also a marine biologist, Halloween celebrations focusing on Christian traditions, and interactive Christmas activities including nativity displays and craft workshops.
Funding has also enabled the creation of a welcoming family space at St Mary and Christ Church in Llanfairfechan, complete with comfortable seating, a Lego table, children's toys, library, and art area.
The impact has been significant. Where previously only two children attended, the Ministry Area now regularly engages with over 160 children through its events, with additional hundreds reached through joint community initiatives. Several new families have become regular worship attendees.
Revd Andy says, "We wanted to create options for those new or familiar with church to join in as much or as little as they want while helping them to develop their faith. Thanks to Church in Wales funding families can now attend services that include easy-to-understand theology, and family-friendly worship with modern music and technology.
"It has given the congregation a real boost seeing that change is possible and that decline need not be the future. Our success story shows how targeted funding for innovative local ministry can revitalise rural churches and create more opportunities for young people to come to faith.”
Archbishop of Wales Andrew John says, “The success of Faith Alive shows what's possible when we reimagine how we serve our communities. Bro Dwylan's creative approach to ministry shows that churches can thrive through innovation and genuine engagement with families. This is exactly what Church in Wales funding aims to achieve - locally-grown initiatives that can inspire similar growth across Wales."
Bishop of Bardsey David Morris says, “It has been wonderful to hear how the Faith Alive initiative, pioneered by the clergy and people of Bro Dwylan, has touched the lives of so many young people in local communities. We are hopeful the project will continue to grow in strength and impact, nurturing and deepening faith in the next generation.”
The Church in Wales's Tier One funding stream provides grants of up to £10,000 for innovative local projects that can be replicated nationally, supporting the wider church's mission to engage with modern communities.