Cyhoeddiadau Chwefror 2025
Apwyntiadau
Rydym yn falch iawn ein bod wedi penodi tri gweinyddwr Archddiacon newydd:
- Meirionnydd: Tanwen Roberts
- Ynys Môn: Mari Edwards
- Bangor: Debbie Williams
Dymunwn groeso cynnes iawn iddynt i'n teulu esgobaethol.
Esgobaethol
- Mrs Karen Morris - Bydd yn cael ei hordeinio i'r diaconiaeth yn adeg Gwyl San Pedr a bydd yn gwasanaethu fel Curad Cynorthwyol di-dâl ym Mro Dwylan.
- Y Parchedig Andy Broadbent - Bydd yn cael ei ordeinio i'r offeiriadaeth yn adeg Gwyl San Pedr a bydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth ym Mro Dwylan tan Ŵyl Crist y Brenin. Bydd penodiad nesaf Andy yn cael ei gadarnhau maes o law.
- Mae'r Parchedig Helen Franklin - Curad Cynorthwyol di-dâl ym Mro Madryn ar hyn o bryd, wedi'i benodi'n Ficer Cyswllt di-dâl ym Mro Madryn. Bydd Helen yn cael ei thrwyddedu ar 16 Mawrth.
Gweddïwch drostynt wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gweinidogaethau newydd.
Cadeirlan
Rydym wedi gwneud y penodiadau canlynol mewn perthynas â Chadeirlan Deiniol Sant:
- Mae'r Parchedig Ganon Kim Williams - Ganon Tertius ar hyn o bryd, wedi ei dyrchafu yn y Cabidwl i Ganon Drysorydd Cadeirlan Deiniol Sant.
- Y Parchedig Roland Barnes - wedi ei benodi'n Ganon Primus Cadeirlan Deiniol Sant.
- Y Parchedig Richard Wood - wedi ei benodi'n Ganon Tertius Cadeirlan Deiniol Sant.
- Y Parchedig Miriam Beecroft - wedi ei phenodi'n Ganon Anrhydeddus Cadeirlan Deiniol Sant.
- Mae'r Parchedig Stuart Elliott - wedi ei benodi'n Ganon Anrhydeddus Cadeirlan Deiniol Sant.
Llongyfarchiadau mawr. Bydd dyddiad ar gyfer eu trwyddedu a'u gosod yn cael ei gadarnhau maes o law.
Dyddiadau Trwyddedu
Y Parchedig Kathryn Evans - Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cybi | Dydd Mawrth 4 Chwefror, 7pm | St Ffraid's, Bae Trearddur
Y Parchedig Ganon Huw Butler - Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol | Dydd Mercher 5 Chwefror, 7pm | Ein Harglwyddes a Sant Nicholas, Biwmares
Y Parchedig Dr Kevin Ellis - Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin | Dydd Sul 23 Chwefror | Santes Fair, Conwy
Y Parchedig Helen Franklin - Ficer Cyswllt NS ym Mro Madryn
Ymadawiadau
Penodwyd y Parchedig James Tout (Caplan i'r Archesgob) yn Ficer ac Arweinydd Canolfan Cenhadaeth San Silyn, Wrecsam, yn esgobaeth Llanelwy. Dywedodd yr Archesgob Andy "Rwyf wrth fy modd dros James ac yn ei longyfarch er bod y golled i mi, yn bersonol ac yn weinidogol, yn sylweddol". Mae James hefyd wedi bod yn gefnogaeth amhrisiadwy i'r Esgob David, sy'n ychwanegu, "Mae hyn yn newyddion gwych i James, does gen i ddim amheuaeth y bydd yn rhagori yn y weinidogaeth newydd hon. Bu James yn llawer mwy na chaplan i'r Archesgob yn y ffordd y bu'n gweithredu ym mywyd yr esgobaeth, byddwn i gyd yn colli ei roddion bugeiliol, ei fedrusrwydd mewn gweinyddiaeth a llywodraethu, a'i frwdfrydedd heintus".
Bydd James yn dechrau ei benodiad ym mis Mai a byddwn yn dechrau'r broses o sicrhau caplan cyn gynted â phosib. Gweddïwch dros James wrth iddo symud i'r weinidogaeth newydd hon. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion maes o law am ddyddiad ar gyfer ei drwyddedu.
Cydymdeimlad
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf a’n gweddïau i'n chwaer, Ruth, a'i phlant Brendan a Krysty Hansford, yn dilyn marwolaeth ddiweddar ei gŵr Paul. Bydd angladd Paul yn cael ei gynnal ddydd Gwener 14 Chwefror am 1pm yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn. Bydd yn cael ei osod i orffwys yng Nghometreg Tywyn. Yna bydd lluniaeth yn Neuadd Pendre. Gofynnir i'r rhai sy'n mynychu'r
angladd wisgo lliwiau llachar, er mwyn anrhydeddu cariad Paul at fywyd. Ar gais Brendan a Krysty, gofynnir i glerigwyr ddod mewn 'civvies'. Parhewch hefyd i weddïo dros Ruth wrth iddi wella o lawdriniaeth a pharatoi ar gyfer triniaeth bellach.
Cawsom ein tristáu hefyd o gael gwybod am farwolaeth cyn-offeiriad o'r esgobaeth hon, y Parchedig Ganon Eirwyn Wheldon Thomas, ficer Nefyn ar un adeg. Bu'r Canon Thomas yn byw yn Abergele ers iddo ymddeol. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w wraig, Anne, ei blant, Fiona a Stephen, a'u cynnwys yn ein gweddïau. Cynhaliwyd angladd Eirwyn ddydd Sadwrn 25 Ionawr, yn Eglwys Mihangel Sant, Abergele.
Dyro iddynt, O Arglwydd, orffwys tragwyddol, a llewyrched goleuni gwastadol arnynt.
Announcements February 2025
Archdeaconry
We are delighted to have appointed three new Archdeaconry administrators:
- Meirionnydd: Tanwen Roberts
- Anglesey: Mari Edwards
- Bangor: Debbie Williams
We wish them a very warm welcome to our diocesan family.
Diocesan
- Mrs Karen Morris will be ordained to the diaconate at Petertide and will serve as NS Assistant Curate in Bro Dwylan.
- The Reverend Andy Broadbent will be ordained to the priesthood at Petertide and continue serving his curacy in Bro Dwylan until the Feast of Christ the King. Andy's next appointment will be confirmed in due course.
- The Reverend Helen Franklin, Currently Non-Stipendiary Assistant Curate in Bro Madryn, has been appointed NS Associate Vicar in Bro Madryn. Helen will be licensed on 16 March.
Please pray for them as they prepare for their new ministries.
Cathedral
- The Reverend Canon Kim Williams currently Canon Tertius has been elevated to Canon Treasurer of St Deiniol's Cathedral.
- The Reverend Roland Barnes has been appointed Canon Primus of St Deiniol's Cathedral.
- The Reverend Richard Wood has been appointed Canon Tertius of St Deiniol's Cathedral.
- The Reverend Miriam Beecroft has been appointed an Honorary Canon of St Deiniol's Cathedral.
- The Reverend Stuart Elliott has been appointed an Honorary Canon of St Deiniol's Cathedral.
Please keep everyone in your prayers.
Licensing Dates
- The Reverend Kathryn Evans - Ministry Area Leader of Bro Cybi | Tuesday 4 February, 7pm | St Ffraid's, Trearddur Bay
- The Reverend Canon Huw Butler - Ministry Area Leader of Bro Seiriol | Wednesday 5 February, 7pm | Our Lady and St Nicholas, Beaumaris
- The Reverend Dr Kevin Ellis - Ministry Area Leader of Bro Celynnin | Sunday 23 February | St Mary's, Conwy
- The Reverend Helen Franklin - NS Associate Vicar in Bro Madryn | Sunday 16 March,
Departures
Rev James Tout (Chaplain to the Archbishop) has been appointed as Vicar and Mission Hub Leader of St Giles, Wrexham, in the diocese of St Asaph. Archbishop Andy said, “I am delighted for James and congratulate him although the loss to me, personally and ministerially, is significant”. James has also been an invaluable support to Bishop David, who adds, “This is excellent news for James, I have no doubt he will excel in this new ministry. James has been far more than a chaplain to the archbishop in the way he has operated in the life of the diocese, we will all miss his great pastoral gifts, his skilfulness in administration and governance, and his infectious enthusiasm”.
James will take up his appointment in May and we will begin the process of securing a chaplain as soon as possible. We will provide further details in due course about a date for his licensing.
Please do pray for James as he moves to this new and significant ministry.
Condolences
We extend our heartfelt condolences and the assurance of our prayers to our sister, Ruth, and her children Brendan and Krysty Hansford, following the recent death of her husband Paul. Paul's funeral will take place on Friday 14 February at 1pm in St Cadfan’s Church, Tywyn. He will be laid to rest in Tywyn Cemetry. There will then be refreshments at Neuadd Pendre. Those attending the funeral are asked to wear bright colours, to honour Paul’s love of life. At the request of Brendan and Krysty, clergy are asked to come in ‘civvies’. Please also continue to pray for Ruth as she recovers from surgery and prepares for further treatment.
We were also saddened to be notified of the death of a former priest of this diocese, the Rev'd Canon Eirwyn Wheldon Thomas, one time vicar of Nefyn. Canon Thomas resided in Abergele since his retirement. We extend our condolences to his wife, Anne, his children, Fiona and Stephen, and hold them in our prayers. Eirwyn's funeral took place on Saturday 25th January, at St Michael's Church, Abergele.
Rest eternal grant to them, O Lord, and let light perpetual shine upon them.