minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gofalu am Dir, Iaith a Phererinion

Ar fyrddau emynau eglwysi Gwyrfai, mae'r llythrennau 'TIP' yn sefyll fel atgof o'r pwynt tyngedfennol amgylcheddol ac ymrwymiad yr Ardal Gweinidogaeth i Dir, Iaith, a Phererin. 

Mae Ardal Gweinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai yn gwireddu'r ymrwymiadau hyn drwy weithredu amgylcheddol, hybu'r Gymraeg a chydweithio cymunedol, gan gyd-fynd â phum nod cenhadaeth yr Eglwys Anglicanaidd. Mae eu cynllun lleoliadau 'Iaith a Gwaith' yn enghraifft o'r dull hwn, yn cyfuno dysgu Cymraeg gyda gwasanaeth ymarferol i'r gymuned.

Mae'r Canon Dr Rosie Dymon yn dweud mwy wrthym.


Tir. Iaith. Pererin

Tir. Iaith. Pererin

Wrth edrych ar un o'r byrddau emynau yn eglwysi Llanwnda, Llandwrog, Penygroes, Llanllyfni, Clynnog Fawr neu Llanaelhaearn, mae’n bosibl y byddwch yn chwilfrydig am arwyddocâd y llythrennau 'TIP'. Maent yn ein hatgoffa o'r pwynt ‘tipio’ amgylcheddol yr ydym wedi'i gyrraedd fel cymdeithas, ac o ymrwymiad Ardal Weinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai i ofalu am a rhannu doniau gwerthfawr Tir ac Iaith, ac i gynnig lletygarwch i'r Pererin yn ein plith. 

Mae'r fformiwla syml hon yn fynegiant lleol cofiadwy o'r pum marc cenhadaeth hanfodol a gadarnhawyd gan y Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd yng Nghaerdydd chwarter canrif yn ôl.


Tir

Gan ddechrau gyda'r pumed marc, mae'r AW yn dysgu gofalu am greadigaeth drwy amrywiaeth o fentrau a phartneriaethau amgylcheddol – gan gynnwys newid holl gyfrifon trydan yr eglwys i 100% ynni adnewyddadwy, plannu perllan ym mynwent Llanaelhaearn, a sefydlu gwarchodfa feicro ar gyfer ffyngau cap cwyr prin yng ngardd yr eglwys ym Mhenygroes.


Iaith

Cam bach yn y gwaith dros gyfiawnder a chymodi (pedwerydd marc cenhadaeth) oedd gwneud buddsoddiad difrifol o amser ac egni mewn perthynas â chynnig addoliad a gweinidogaeth trwy’r iaith Gymraeg tra hefyd yn croesawu siaradwyr Cymraeg newydd ac ymwelwyr. Ac wrth ddysgu pontio'r rhaniad Cymraeg/Saesneg, mae aelodau wedi dod yn fwy ymwybodol o anghenion iaith a chyfathrebu eraill - er enghraifft, gyda chefnogaeth Archddiacon Bangor a Chyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth, trefnwyd gweithdy ymwybyddiaeth byddar yn Nhŷ Deiniol ym Mangor yn yr Hydref.


Pererin

Gall y trydydd nod cenhadaeth – ymateb i angen dynol drwy wasanaeth cariadus – swnio fel rhywbeth arall ar restr 'i'w wneud' ar gyfer grŵp bach o aelodau eglwys sydd wedi blino'n lân yn ceisio ‘cario’r sioe! Ond wrth i ni adeiladu partneriaethau â sefydliadau lleol eraill, mae'r nod hwn o genhadaeth yn dod yn llai o faich ac yn fwy o lawenydd. Ac wrth i ni feithrin cyfeillgarwch â'r rhai yn y gymuned ehangach, gan barchu eu credoau a'u safbwyntiau nhw a dysgu sut i rannu ein straeon a'n profiadau bywyd ein hunain, mae cyntaf ac ail farc cenhadaeth yn dilyn yn naturiol ac nid fel rhwymedigaeth letchwith ac annifyr.

Iaith a Gwaith

Iaith a Gwaith

Un ffordd arloesol y mae pobl Beuno Sant Uwch Gwyrfai yn cyfuno eu hymrwymiad i Dir ac Iaith yw drwy gynnig lleoliadau 'Iaith a Gwaith' i unigolion sydd am ennill profiad gwaith a gwella eu sgiliau iaith ar yr un pryd. Mae'r cyfranogwyr diweddaraf, Angela Holmes a Victoria Burfield (a ddechreuodd eu lleoliad ym mis Ionawr eleni) eisoes wedi gwneud cyfraniad gwych i'r ardal leol, gan lansio grŵp gwirfoddoli cymunedol newydd ar ddydd Llun ym mynwent Eglwys Llanwnda. 

Victoria ac Angela efo Warden Eglwys Llanwnda, Olga Thomas, a rhaw fach arian a ddefnyddiwyd i ddechrau gloddio'r tir cyn adeiladu Eglwys Groeslon yn y 19eg ganrif.

Ar brynhawn dydd Llun, mae aelodau eglwys Laurina Hughes a Sw Williams wedi bod yn cynnal grŵp sgwrsio arloesol 'Geiriau Gwyrdd' ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd sydd â diddordeb yn yr amgylchedd. Wedyn, ar foreau Mawrth , mae Victoria ac Angela yn mynd i Ysgol Llanllyfni i helpu'r plant gyda'u darllen. Mae Victoria hefyd yn cefnogi prosiect garddio'r ysgol ac mae Angela yn gweithio ar gynnal gardd a gwarchodfa Eglwys Penygroes.

Mae'r Ardal Weinidogaeth yn ddiolchgar i Victoria ac Angela am eu gwaith rhagorol, a hefyd i bawb sy'n cefnogi'r prosiect gan gynnwys Yr Orsaf ym Mhenygroes am ddefnydd eu gofod cydweithio gwych!


Am fwy o wybodaeth cysylltwch Canon Dr Rosie Dymond: rosiedymond@cinw.org.uk

Cymraeg

Caring for Land, Language and Pilgrims

In the Ministry Area of Beuno Sant Uwch Gwyrfai, the letters 'TIP' on hymn boards stand as a reminder of both our environmental tipping point and the Ministry Area's commitment to Tir (Land), Iaith (Language) and Pererin (Pilgrim). 

The Ministry Area brings these commitments to life through environmental action, Welsh language promotion and community collaboration. Their 'Iaith a Gwaith' placement scheme exemplifies this approach, combining Welsh language learning with practical community service.

Canon Dr Rosie Dymond tells us more.


Tir. Iaith. Pererin

Tair (Land). Iaith (Language). Pererin (Pilgrim)

If you glance at one of the hymn boards in the churches of Llanwnda, Llandwrog, Penygroes, Llanllyfni, Clynnog Fawr or Llanaelhaearn, you may be curious about the significance of the letters ‘TIP’. They are a reminder of the environmental tipping point we have reached as a society, and of the Ministry Area’s commitment to care for and share the precious gifts of Tir (Land) and Iaith (Language), and to offer hospitality to the Pererin (Pilgrim) in our midst. 

This simple formula is a memorable local expression of the five essential marks of mission affirmed by the Anglican Consultative Council in Cardiff a quarter of a century ago.


Tir

Starting with the fifth mark, the MA is learning to care for creation through a variety of environmental initiatives and partnerships – ranging from switching all church electricity accounts to 100% renewable energy, to planting an orchard in the churchyard in Llanaelhaearn, to establishing a micro reserve for rare wax cap fungi in the church garden in Penygroes. 


Iaith

A baby step in work for justice and reconciliation (the fourth mark of mission) was to make a serious investment of time and energy in relation to offering Welsh language worship and ministry while also welcoming new Welsh speakers and visitors. And in learning to bridge the Welsh/English language divide, members have become more aware of other language and communication needs – so, for example, with the support of the Archdeacon of Bangor and Director of Ministry, it was possible to organise a deaf awareness workshop at Tŷ Deiniol in Bangor in the Autumn.


Pererin

The third mark of mission – responding to human need by loving service – can sound like just another thing on the ‘to do’ list for a tiny group of exhausted church members trying to keep the show on the road! But as we learn to partner with other local organisations, this mark of mission becomes less of a burden and more of a joy. And as we build friendships with those in the wider community, respecting their beliefs and perspectives and learning to share our own life stories and experience, the first and second marks of mission follow naturally and not as an awkward and embarrasing obligation.

Geiriau Gwyrdd

Iaith a Gwaith

One innovative way in which the people of Beuno Sant Uwch Gwyrfai are combining their commitment to ‘Tir’ and ‘Iaith’ is by offering ‘Iaith a Gwaith’ placements for individuals who want to gain work experience and improve their Welsh language skills at the same time. 

The latest participants, Angela Holmes and Victoria Burfield (who started their placement in January this year) have already made a fantastic contribution to the local area, launching a new community volunteering group on Mondays in Llanwnda Churchyard. 

Victoria and Angela with Llanwnda Church Warden, Olga Thomas, and a silver trowel that was used to start the work of building St Thomas’ Church, Groeslon in the 19th century.

On Monday afternoons, they take part in an innovative ‘Geiriau Gwyrdd’ conversation group led by church members Laurina Hughes and Sw Williams for new Welsh speakers with an interest in the environment.

On Tuesday mornings, they go to Llanllyfni School to help the children with their reading. Victoria also supports the school gardening project and Angela is working on the maintenance of the church garden in Penygroes.

The Ministry Area are grateful to Victoria and Angela for their outstanding work, and also to everyone who is supporting the project including Yr Orsaf in Penygroes for the use of their excellent coworking space.


For more information, contact Canon Dr Rosie Dymond: rosiedymond@cinw.org.uk