Cyhoeddi pwy fydd yn cymryd rhan yn 11eg Gŵyl Barddoniaeth a Chelf RS Thomas
Mehefin 12 -15
Bydd yr Ŵyl Barddoniaeth a Chelf flynyddol sy’n dathlu bywyd a gwaith RS Thomas yn dychwelyd i bentref arfordirol Cymreig Aberdaron ym mis Mehefin 12-15.
Bellach yn ei hunfed flwyddyn ar ddeg, bydd yr ŵyl yn archwilio “Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth a Chreadigaeth” drwy raglen o ddigwyddiadau amrywiol a gaiff eu cynnal dros dri diwrnod yn Eglwys San Hywyn, Aberdaron, yr oedd y bardd Cymreig RS Thomas yn ficer arni ar un adeg.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhestr nodedig o siaradwyr, gan gynnwys:
- Yr Athro W. Richard Bowen, un o Gymrodorion yr Academi Beirianneg Frenhinol, fydd yn trafod themâu gwyddoniaeth a ffydd ym marddoniaeth R.S. Thomas.
- Mandir Dighe, o Mumbai, sy’n fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caeredin, fydd yn archwilio ‘Navigating Faith through Science: the connection between science and spirituality’.
- Yr Athro Wilson Poon, Athro mewn Athroniaeth Naturiol ym Mhrifysgol Caeredin, fydd yn archwilio’r berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd a barddoniaeth, drwy lens barddoniaeth.
- Dr Grahame Davies, bardd a nofelydd llwyddiannus, golygydd a beirniad llenyddol, a Chyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth cyntaf yr Eglwys yng Nghymru, fydd yn siarad am wrthwynebiad R.S. Thomas i dechnoleg a modernedd.
- Yr Athro Helen Wilcox, Athro Emerita Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, Cymru, fydd yn traddodi Darlith Goffa Jim Cotter, ‘Slow Chemistry of the Soil: Devotional Poets Consider the Creation’.
Bydd yr ŵyl barddoniaeth a chelf hirsefydlog yn cynnwys dwy arddangosfa gelf luosog, gan gynnwys gwaith gan Therese Urbanska yn Oriel Plas Glyn y Weddw. Bydd Urbanska, y mae ei phaentiadau yn cael eu hysbrydoli gan ME Eldridge, gwraig RS Thomas, yn arwain gweithdy celf undydd yn hen gartref Thomas ac Eldridge. Bydd yr arlunydd rhyngwladol Terry Duffy yn arddangos ei waith RS Thomas Triptych (2001) yn Eglwys Sant Hywyn hefyd – gwaith sydd wedi cael ei arddangos yn flaenorol mewn Eglwysi Cadeiriol ledled y byd.
Nos Sadwrn, bydd y perfformiad cyntaf o “Das Helle Feld” (Y Maes Teg), cyfansoddiad Almaenig ar gyfer y ffliwt. Bydd y darn yn cael ei berfformio gan y ffliwtydd rhyngwladol Sarah Newbold a’r baswnydd Meyrick Edwards, sy’n diwtoriaid yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Bydd Esgob Enlli, David Morris, yn llywyddu ac yn pregethu yng ngwasanaeth Ewcarist yr ŵyl ar fore dydd Sul.

Meddai Susan Fogarty, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, “Mae’r thema eleni, “Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth a Chreadigaeth” yn archwilio themâu sy’n gyson â llawer o’r cwestiynau yr oedd Thomas yn eu hystyried yn ei farddoniaeth. Bydd ein siaradwyr nodedig yn dod â phersbectifau newydd wrth drafod y groesffordd rhwng gwyddoniaeth a ffydd ac yn caniatáu i ni brofi gwaith Thomas mewn ffyrdd newydd a goleuol.”
“Mae apêl barhaol barddoniaeth RS Thomas, 25 mlynedd ers ei farwolaeth, yn parhau i ddenu ymwelwyr o bedwar ban byd i brofi’r tirweddau a lywiodd ac a ysbrydolodd ei weledigaeth a’i farddoniaeth. Mae prydferthwch Penrhyn Llŷn, ac Aberdaron yn arbennig, yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr gysylltu’n uniongyrchol â’r lle a’r amgylchedd a ysbrydolodd ac a lywiodd barddoniaeth Thomas a chelf Eldridge.”
Ychwanega Susan, “Mae’r ŵyl yn parhau i ddenu mwy a mwy o ymwelwyr bob blwyddyn wrth i bobl chwilio am gysylltiadau dyfnach â barddoniaeth a lle.”
Mae Susan, sy’n weinidog arloesol lleyg yn Esgobaeth Bangor, yn adnabyddus am y ffordd ddiddorol mae hi’n ymdrin â barddoniaeth Thomas drwy brofiadau, gan helpu cynulleidfaoedd i gysylltu â’i waith drwy eglwysi, mannau cysegredig a lleoliadau naturiol ledled Cymru. Drwy gydol yr ŵyl, bydd Susan yn arwain teithiau tywys gan ddefnyddio cerddi Thomas fel myfyrdodau.
Mae rhaglen lawn y penwythnos, dros dri diwrnod, a’r tocynnau ar gael yn www.rsthomas.co.uk.
Line-up Announced for the 11th RS Thomas Poetry & Arts Festival
The annual Poetry & Arts Festival celebrating the life and work of RS Thomas returns to the Welsh coastal village of Aberdaron 12-15 June.
Now in its eleventh year, the festival will explore “Science, Theology, and Creation” through with a diverse programme of events spanning three days at St Hywyn's Church, Aberdaron, where Welsh poet RS Thomas once served as vicar.
The event features an impressive lineup of speakers, including:
- Professor W. Richard Bowen, a Fellow of the Royal Academy of Engineering, will discuss the themes of science and faith in the poetry of R.S. Thomas.
- Mandir Dighe, from Mumbai, a postgraduate student at the University of Edinburgh, will explores Navigating Faith through Science. the connection between science and spirituality.
- Professor Wilson Poon, Professor of Natural Philosophy at Edinburgh University, will examine the relationship between science and religion and poetry. through the lens of poetry.
- Dr Grahame Davies, award-winning poet and novelist, editor and literary critic, and the Church in Wales’ first Director of Mission and Strategy, will speak about R.S. Thomas’s resistance to technology. and modernity.
- Professor Helen Wilcox, Professor Emerita of English Literature at Bangor University, Wales, will deliver the Jim Cotter Memorial Lecture, titled ‘Slow Chemistry of the Soil’: Devotional Poets Consider Creation.
The long-running poetry and arts festival will feature two multiple art exhibitions, including works by Therese Urbanska at Oriel Plas Glyn y Weddw Gallery. Urbanska, 's paintings are inspired by ME Eldridge, the wife of RS Thomas, will be leading a one-day art workshop in the former home of Thomas and Eldridge. Additionally, International artist Terry Duffy will exhibit the his RS Thomas Triptych (2001), at in St Hywyn's Church - previously exhibited in Cathedrals around the world.
Saturday evening will feature the premiere of "Das Helle Feld” (The Bright Field), a German composition for flute. The performance will showcase international flautist Sarah Newbold and bassoonist Meyrick Edwards, who serve as tutors at the Welsh Academy of Music and Drama.
Bishop of Bardsey David Morris will preside and preach at the festival’s Sunday morning Eucharist service.

Festival Director Susan Fogarty, , says, "This year's theme of “Science Theology and Creation” explores themes that resonate with many of the questions Thomas contemplated in his poetry. Our exceptional lineup of speakers will bring fresh perspectives to the intersection of science and faith and will allow us to experience Thomas's work in new and illuminating ways."
“The enduring appeal of RS Thomas's poetry, 25 years after his death, continues to draw visitors from across the globe to experience the landscapes that shaped inspired his vision poetry. The beauty of the Llŷn Peninsula and in particular Aberdaron, provides visitors with a unique opportunity to connect directly with the place environment that inspired informed both Thomas's poetry and Eldridge's art.”
Susan adds, “The festival continues to attract more and more visitors every year as people seek deeper connections with both poetry and place."
Susan, who is also a lay pioneer minister in Diocese of Bangor is known for her engaging experiential approach to Thomas's poetry, helping audiences connect with his work through churches sacred places and natural settings. throughout Wales. Throughout the festival, Susan will be leading guided walks using Thomas’ poetry as meditations.
The full weekend programme spanning three days and tickets are available at www.rsthomaspoetry.co.uk