Mae'r Pasg yn ein hatgoffa bod ffydd a chariad yn dileu ofn
I lawer o bobl, gall ofn fod yn ffynhonnell gyson o her ac ansicrwydd. Gall ein hamgylchiadau personol a'r materion sy'n effeithio ar ein cymunedau lleol a byd-eang beri i ni deimlo ofn — ofn am y dyfodol, ofn am ein diogelwch a'n lles. Gall ofn fod yn gatalydd i amheuaeth ac anffyddlondeb, ac yn aml gwelwn hyn yn digwydd mewn materion rhyngwladol ac mewn perthnasau agosach at adref. Gall ofn ein llethu, ein caethiwo.
Ar hyn o bryd, mae’r Eglwys Yng Nghymru yn cynnal sesiynau gwrando mewn perthynas ag undebau or un rhyw; proses i’n helpu i benderfynu beth all yr eglwys ei gynnig yn y dyfodol o ran darpariaethau i gyplau o'r un rhyw, pan ddaw’r ddarpariaeth dros dro bresennol ar gyfer bendithio undebau sifil i ben yn 2026.
Mae’r cyfarfodydd yr ydym wedi’u cynnal yn Esgobaeth Bangor wedi bod yn hynod bwerus ac emosiynol iawn. Maent wedi bod yn fannau lle mae pobl o gred a phrofiadau gwahanol wedi rhannu eu profiadau personol dwys a’u credoau dyfnaf. Clywsom y gobeithion a fynegwyd gan y rhai sy’n gallu ar rhai na allant dderbyn darpariaethau’r eglwys yn y dyfodol, a’r ofnau — ofn y gallai cyplau o'r un rhyw gael eu gadael heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eu perthynas, ofnau y gallai'r eglwys fod yn symud i ffwrdd o’r hyn a fwriadodd Duw ar gyfer priodas — a phob peth rhyngddynt. Roedd yn brofiad hynod ostyngedig clywed cymaint o farnau’n cael eu mynegi gyda chymaint o onestrwydd.
Yn bersonol, mae'n ugain mlynedd eleni ers i mi gael y dewrder i wynebu ofn oedd gennyf fy hun — ofn a barodd i mi guddio rhywbeth amdanaf fy hun a oedd yn ffynhonnell o euogrwydd a chywilydd dwfn cyhyd ag y parhaodd yn gyfrinach. Yn ystod fy ngwyliau Nadolig o'r Brifysgol penderfynais ddweud wrth fy nheulu a’m ffrindiau fy mod yn hoyw, ac roedd yn frawychus. Doedd gennyf ddim syniad sut y byddai’r newyddion yn cael ei dderbyn, a pharatoais fy hun ar gyfer y posibilrwydd o gael fy ngwrthod, gan benderfynu aros tan y Flwyddyn Newydd i osgoi difetha’r Nadolig.
Yn ffodus, cafodd fy natganiad ei groesawu â chariad a derbyniad — profiad nad yw pawb yn ei gael. Fodd bynnag, mae wedi cymryd peth amser i dderbyn fy hun yn llwyr gan fod ofn a hunan-gasineb wedi bod yn gwasgu’r agwedd hon ar bwy ydw i am gyhyd, ac mae'n debyg fy mod dal yn dadorchuddio’r profiad hwnnw. Yn y pen draw, roedd wynebu fy ofn yn brofiad trawsnewidiol — roedd yn teimlo’n ryddhaol.
Daeth Iesu â sicrwydd,heddwch a gobaith newydd.
Un o brif negeseuon y Pasg yw nad yw ofn yn ein dal yn gaeth nac yn cael y gair olaf. Yn y straeon am atgyfodiad Iesu ac yn ystod ei ymddangosiadau wedi’r atgyfodiad, clywn ymadrodd sy'n cael ei ailadrodd: "Peidiwch ag ofni." Yn efengyl Mathew a Marc, mae'r angel yn annog y merched sy'n cyrraedd y bedd gwag i beidio ag ofni, ac wrth i Iesu ymddangos i'w ddisgyblion oedd yn cuddio yn yr oruwchystafell o dan glo, mae'n eu hannog hwythau i beidio ag ofni. Roedd ofn wedi gafael yng nghalonnau dilynwyr Iesu ar ôl ei farwolaeth, ond wrth iddo godi o fod yn farw i fod yn fyw a’i ymddangosiadau dilynol, daeth Iesu â sicrwydd,heddwch a gobaith newydd.
Mae ffydd yn yr atgyfodiad yn rhoi’r dewrder i ni wynebu ein hofnau ac yn ein galluogi i fyw gyda’r hyder bod dim byd y gall bywyd ei daflu atom, nad yw gras Duw yn gallu ein helpu i’w wynebu, neu ein cryfhau i ymdopi, neu ein harwain i ddod o hyd i ateb. Mae’r Iesu atgyfodedig wedi’n rhyddhau o afael pechod a marwolaeth; felly, nid oes gennym ddim i ofni. Yn union fel yn ei ymddangosiad i'r disgyblion ofnus y tu ôl i ddrysau caeedig yr oruwchystafell, mae Iesu yn ymddangos yn y mannau caeedig yn ein bywydau lle rydym yn cuddio mewn ofn, ac mae’n dweud, "peidiwch ag ofni," ac yn ein gwahodd i rannu yn ei fywyd atgyfodedig!
Easter reminds us faith and love cast out fear
Fear, for many people, can be a constant source of challenge and anxiety. Our personal circumstances and matters affecting our local and global communities can cause us to be fearful, fearful about the future, fearful for our safety and wellbeing. Fear can be a catalyst for suspicion and mistrust, which we often see played out in international affairs and in relationships closer to home. Fear can be crippling, it can imprison us.
Currently, the Church in Wales is undertaking a listening exercise in relation to same sex unions; a process to help us discern what the church might offer going forward in terms of provisions for same sex couples, when the current temporary provision of blessing civil unions ends in 2026.
The meetings we have hosted in the Diocese of Bangor have been incredibly powerful and moving. They have been spaces where people of differing convictions have shared their very personal experiences and their deeply held convictions and beliefs. We heard expressed the hopes of those who can and cannot accept future provisions in the church, and the fears, fear that same sex couples might be left with no provisions for their relationships, fears that the church may be departing from what God intended for marriage and everything in between. To hear so many views expressed with such integrity was profoundly humbling.
Speaking personally, it is twenty years ago this year I found the courage to confront a fear of my own, causing me to hide something about myself which was the source of a profound sense of guilt and shame for as long as it remained secret. During my Christmas vacation from University I decided to tell my family and friends that I was gay, and it was terrifying. I had no idea how the news would be received, I prepared myself for the possibility of rejection, and I decided to wait until the New Year to avoid ruining Christmas.
Fortunately, my disclosure was met with love and acceptance, which is not everyone’s experience. However, it has taken some time to fully accept myself because fear and self-loathing had suppressed this aspect of who I am for so long, and I’m probably still unpacking it. Ultimately, facing my fear was a transformational experience, it felt liberating.
Jesus brought reassurance, breathed peace and renewed hope.
One of the central messages of Easter is that fear does not hold us captive, and it does not have the final word. In the resurrection narratives and in the post resurrection appearances of Jesus we hear a reoccurring phrase: ‘Do not be afraid’. In the gospel accounts of Matthew and Mark, the angel encourages the women who arrive at the empty tomb not to be afraid, and Jesus appearing to his disciples in hiding in the locked upper room encouraged them not to be afraid. Fear struck the hearts of the followers of Jesus after his death, but through his resurrection from the dead and his subsequent appearances, Jesus brought reassurance, breathed peace and renewed hope.
Resurrection faith gives us courage to face our fears and enables us to live trusting in the knowledge that there is nothing this life can throw at us that God’s grace cannot help us through, or strengthen us to cope with, or guide us to work out. The risen Jesus has liberated us from the grip of sin and death; therefore, we have nothing to fear. Much like his appearance to the fearful disciples behind the locked doors of the upper room, Jesus appears in the locked spaces of our lives where we often hide in fear and says, ‘do not be afraid’, and invites us to share in his risen life!