Y Pab Ffransis wedi marw yn 88 oed
“Gyda thristwch dwysaf y clywais am farwolaeth y Pab Ffransis. Gyda'i farwolaeth, mae'r byd wedi colli arweinydd yr oedd ei gariad, ei dosturi a'i ofal dros y tlawd a'r rhai ar yr ymylon yn deilwng o'r Sant y dewisodd cymryd ei enw. Mae gennyf atgofion hapus iawn o’n cyfarfod yn y Fatican fis Rhagfyr 2023 pan siaradom am Gymru a phan gyflwynais anrheg symbolaidd iddo."Yn yr Eglwys yng Nghymru, ymunwn mewn gweddi gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig wrth iddynt deimlo colled eu Tad Sanctaidd, a diolchwn gyda hwy am fywyd o ffydd sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i filiynau dirifedi.
Bydded i’r Pab Ffransis orffwys mewn tangnefedd, a llewyrched goleuni tragwyddol arno.
"Yng Nghymru, cawn atgof parhaol o’i haelioni gyda’r rhodd o ddarn o’r Wir Groes, sydd wedi’i ymgorffori yng Nghroes ddefodol Cymru a arweiniodd orymdaith y Coroni ac sydd bellach yn cael ei rhannu rhwng yr Eglwysi Anglicanaidd a Chatholig yng Nghymru.
"Wrth i’w fywyd o ymroddiad i’n Hiachawdwr Iesu Grist ddod i ben, bydded i’r Pab Ffransis orffwys mewn tangnefedd, a llewyrched goleuni tragwyddol arno.”
Pope Francis dies aged 88
“It was with the most profound sadness that I hear of the death of Pope Francis. With his passing, the world has lost a leader whose love, compassion and care for the poor and marginalised were worthy of the Saint from whom he took his name.
"I recall with great fondness our meeting in the Vatican in December 2023 when we spoke about Wales and I was able to present him with a symbolic gift. In the Church in Wales, we join in prayer with our brothers and sisters in the Roman Catholic Church as they mourn the loss of the Holy Father, and we give thanks with them for a life of faith which has been an inspiration to countless millions.
May Pope Francis rest in peace, and may light perpetual shine upon him.
"In Wales, we shall have a lasting reminder of his generosity with the gift of a piece of the True Cross, which is incorporated in the ceremonial Cross of Wales which led the Coronation procession and which is now shared between the Anglican and Roman Catholic Churches in Wales.
"After his life of devotion to our Saviour Jesus Christ, may Pope Francis rest in peace, and may light perpetual shine upon him.”