Arddangosfa newydd ar Eglwys Sant Cybi yn agor yn Llyfrgell Caergybi
Bydd arddangosfa am ddim sy'n arddangos hanes a gwaith adfer un o dirnodau mwyaf hanesyddol Caergybi yn agor y mis nesaf.
Bydd yr arddangosfa am ddim ar agor rhwng 1 a 14 Mai yn Neuadd y Farchnad a Llyfrgell Caergybi, a bydd yn manylu ar hanes Eglwys Sant Cybi sy’n adeilad rhestredig Gradd I ac Eglwys y Bedd gerllaw - adeilad rhestredig Gradd II, y ddau ohonynt yn sefyll o fewn muriau Caer Rufeinig Caer Gybi. Bydd trigolion lleol yn cael cyfle i ganfod mwy am waith adfer a chynlluniau ar gyfer dyfodol yr eglwys fel man addoli a chymunedol. Disgwylir ymwelwyr ychwanegol o'r chwe llong fordaith sy'n docio yng Nghaergybi a'r marchnadoedd crefftwyr sy'n digwydd yn Sgwâr Swift.
Mae Eglwys Sant Cybi yn cael ei hadnewyddu fel rhan o gynlluniau canol tref Cyngor Sir Ynys Môn, ac gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae'r prosiect adfer yn cynnwys gwelliannau sylweddol a fydd yn diogelu treftadaeth yr eglwys ac yn gwella hygyrchedd. Mae ramp newydd nawr yn caniatáu mynediad llawn i'r eglwys am y tro cyntaf ers canrifoedd, a bydd y teils Fictoraidd gwreiddiol yn cael eu hailosod yn ofalus dros system wresogi danlawr newydd sbon. Mae'r teils llosgliw cain o ardaloedd y gangell a'r allor uchel i gyd wedi'u glanhau'n broffesiynol a byddant yn cael eu hailosod yn eu safleoedd gwreiddiol.
Mae camau olaf y prosiect yn cynnwys uwchraddio dodrefn er mwyn creu man addoli mwy amlbwrpas, gan gynnwys meinciau pren newydd ar gyfer addoli a chadeiriau y gellir eu stacio ar gyfer digwyddiadau cymunedol mwy o faint.

Dywed Esgob Enlli, David Morris, y bydd yr arddangosfa yn galluogi pobl i ddysgu am "drawsnewidiad un o dirnodau pwysig Caergybi."
Mae'r prosiect adfer hwn yn anrhydeddu treftadaeth gyfoethog Sant Cybi wrth greu man addoli a fydd yn gwasanaethu'r gymuned am genedlaethau i ddod. Ers canrifoedd, mae'r eglwys hon wedi bod yn ganolbwynt ysbrydol i Gaergybi, ac mae'r adnewyddiadau gofalus hyn yn sicrhau y bydd addoli Cristnogol yn parhau i ffynnu yma am flynyddoedd lawer.
Meddai'r offeiriad lleol, y Parchg Kathryn Evans, "Cyn ailagor Sant Cybi ym mis Gorffennaf, rydym yn falch iawn o allu creu arddangosfa yn y Llyfrgell sy'n dangos y gwaith a wnaed ar safle ein heglwys hardd - dewch i weld drosoch eich hunain a rhannwch ein cyffro."
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gonglfaen i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn mannau a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, gan gefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Eglwys Cybi Sant

Ganed Sant Cybi yng Nghernyw yn 480. Ar ôl sefydlu eglwysi yng Nghernyw a rhannau eraill o Gymru daeth i Gaergybi yn 540. Caniataodd Maelgwyn Gwynedd, Tywysog Gwynedd, i Sant Cybi ddefnyddio’r Gaer Rufeinig, ac ers hynny mae wedi bod yn fan gweddi. Rhan gynharaf yr eglwys bresennol yw'r Gangell, gyda rhannau yn dyddio o'r 13eg ganrif.
Fel gydag Eglwys Sant Cybi, ychydig iawn sy'n hysbys am hanes cynnar Eglwys y Bedd. Tua 450 gwyddom y claddwyd Seirgi, y Pennaeth Gwyddelig, o fewn muriau'r Gaer Rufeinig, a phan fu farw Sant Cybi yn 554 fe’i claddwyd hefyd o fewn muriau'r gaer. Mae'n debygol bod cysegr i Seirgi, ond nid oes cyfeiriad mewn dogfen at un. Gwyddom fod cysegr wedi'i godi er cof am Sant Cybi a daeth ei fedd yn gyrchfan pererindodau .
Disgwylir i Eglwys Sant Cybi ailagor ym mis Gorffennaf 2025 ar ôl i'r gwaith adfer gael ei gwblhau.

St Cybi's church exhibition to open at Holyhead Library
A free exhibition showcasing the history and restoration of one of Holyhead's most historic landmarks will open next month.
Taking place from 1st to 14th May at Holyhead Market Hall and Library, the exhibition will detail the history of the Grade I listed St Cybi’s Church and the adjacent Eglwys y Bedd – a Grade II listed building, both of which stand within the walls of Caer Gybi Roman Fort. Local residents will have an opportunity to learn more about the restoration work and future plans as a worship and community space. Additional visitors are expected from the six cruise ships docking in Holyhead and the artisan markets in Swift Square.
St Cybi's Church is being renovated as part of Isle of Anglesey County Council's town centre plans, funded by the UK Governments through the UK Shared Prosperity Fund secured in January 2023.

The restoration project features significant improvements which will preserve the church's heritage and improve accessibility. A new ramp structure now allows full access to the church for the first time in centuries, while the original Victorian tiles will be carefully re-laid over a brand new underfloor heating system. The delicate encaustic tiles from the chancel and high altar areas have all been professionally cleaned and will be expertly reinstalled in their original positions.
The final stages of the project include furniture upgrades designed to create a more versatile worship space, including new wooden benches for worship and stackable chairs for larger community events.

Bishop of Bardsey David Morris says the exhibition will allow people to learn about "the transformation of one of Holyhead's important landmarks."
"This restoration project honours the rich heritage of St. Cybi's while creating a worship space that will serve the community for generations to come. For centuries, this church has been a spiritual focus for Holyhead, and these careful renovations ensure Christian worship will continue to flourish here for many more years," says Bishop David.
Local priest Revd Kathryn Evans says, "Ahead of St Cybi's re-opening in July, we are delighted to be able stage an exhibition in the Library showing the work carried out on our beautiful church site - do come and see for yourselves and share our excitement."
The UK Shared Prosperity Fund is a central pillar of the UK government’s Levelling Up agenda and provides £2.6 billion of funding for local investment by March 2025. The Fund aims to improve pride in place and increase life chances across the UK investing in communities and place, supporting local business, and people and skills.
For more information, visit https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
St Cybi's Church

St Cybi was born in Cornwall in 480. After founding churches in Cornwall and other parts of Wales he came to Holyhead in 540. Maelgwyn Gwynedd, the Prince of Gwynedd, granted Cybi the use of the Roman Fort, and it has been a place of prayer ever since. The earliest part of the present church is the Chancel, with parts dating from the 13th century.
As with St Cybi’s Church, very little is known about the early history of Eglwys y Bedd. We know that in about 450 Seirgi, the Irish Chieftain, was buried within the walls of the Roman Fort, and on his death in 554 Saint Cybi was also buried within the walls of the fort. There was likely a shrine to Seirgi, but there is no documented reference to one. We know a shrine was erected in memory of St Cybi and his grave became a place of pilgrimage.
St Cybi’s Church is set to reopen in July 2025 following completion of the restoration work.
