minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Dathlu gwaith celf ar bererindod

Mae disgyblion o ddwy ysgol gynradd o fewn Esgobaeth Bangor wedi bod ar bererindod arbennig i eglwys leol fel rhan o waith addysg Pererin, o fewn prosiect Llan.

Cerddodd Ysgol Crud y Werin, Aberdaron ac Ysgol Foel Gron, Mynytho sy’n un o ysgolion eglwys yr Esgobaeth, i Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron er mwyn ymweld ar bererindod i ddathlu eu gwaith celf gyda Prosiect Stampiau Llwybr Cadfan ac i ddysgu am adeilad yr eglwys a’i hanes.

School children in high viz tabards in a church
Ysgol Crud y Werin

Dywedodd Nia Roberts, Swyddog Ymgysylltu Pererindodau Ysgolion, “Roedd hi’n wych gweld dwy ysgol yn ymweld â’r arddangosfa yn yr eglwys o fewn un diwrnod. 

"Roedd cwestiynau lu ganddynt am ddyluniadau’r holl ysgolion a fu yn gweithio gyda ni i greu stampiau unigryw Pasbort Llwybr Cadfan. Roeddent hefyd yn awyddus i ddysgu am y bedyddfaen, yr allor a sut a phryd y cafodd yr eglwys ei hadeiladu. 

"Roedd yn gyfle gwych iddynt ddysgu am eu treftadaeth Gristnogol leol, dysgu am enwau eglwysi a saint lleol sydd i’w gweld ar stampiau Llwybr Cadfan, a chael y cyfle i brofi harddwch a heddwch yr eglwys arbennig yma sydd wedi bod yn loches i bererinion dros y canrifoedd.”

Stamp pererindod
Stampiau Llwybr Cadfan

Llwybr Cadfan

Mae Llwybr Cadfan yn lwybr pererindod 128 milltir o hyd sydd wedi ei greu gan Esgobaeth Bangor fel rhan o brosiect Llan i ddatblygu adnoddau efengylaidd ac addysgiadol Cymraeg newydd, mentrau cymdeithasol a gweinidogaethau newydd sy'n canolbwyntio ar bererindod ar draws yr esgobaeth. Ariennir Llan gan Gronfa Efengylu'r Eglwys yng Nghymru.

Cymraeg

Celebrating art on Pilgrimage

Pupils from two schools within The Diocese of Bangor have been on a very special pilgrimage to a local church, as part of the Pererin education work within the llan project.

Ysgol Crud y Werin, Aberdaron and one of the Diocese’s Church schools, Ysgol Foel Gron, Mynytho walked to St.Hywyn’s Church in Aberdaron on a pilgrimage to celebrate their artwork featured within the Llwybr Cadfan Stamp Project’s exhibition and to learn about the church building and it’s history.

Nia Roberts, School Pilgrimage Engagement Officer, said, "It was great to see two schools visit the exhibition in the church within one day. 

"They had lots of questions about the designs from all the schools who have worked with us to create the unique Llwybr Cadfan Passport stamps. They were also keen to learn about the baptismal font, the altar and how and when the church was built. 

"It was a great opportunity for them to learn about their local Christian heritage, learn about the names of local churches and saints featured on the Llwybr Cadfan stamps, and have the opportunity to experience the beauty and peace of this special church which has been a refuge for pilgrims over the centuries.”

Stamp pererindod Aberdaron

Llwybr Cadfan

Llwybr Cadfan is a 128 mile pilgrimage trail, created by the Diocese of Bangor as part of the Llan project to develop new Welsh evangelical and educational resources, social enterprises and new ministries that focus on pilgrimage across the diocese. Llan is funded by the Church in Wales Evangelical Fund.