minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Diwrnod VE 80

Archesgob Andrew John

Cynhaliwyd gwasanaeth hyfryd a theimladwy neithiwr yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE. Cefais y fraint o fynychu'r achlysur ingol hwn o goffau a diolchgarwch, ynghyd â'r prif weinidog Eluned Morgan a'r Esgob Mary.
Roedd yn bwerus iawn ac yn ein hatgoffa o ddewrder ac aberth cymaint o filwyr ifanc - y rhai a roddodd eu bywydau, a'r rhai a ddychwelodd adref yn cario baich eu gwasanaeth.

Nid addurniadau yn unig yw'r medalau a wisgant. Maent yn arwydd o anrhydedd, o boen, ac o wir ddewrder bythol. Maen nhw'n adrodd straeon na ddylem byth eu hanghofio.

Mae'r llawenydd a'r rhyddhad a oedd unwaith yn adleisio trwy strydoedd ein cenedl ar ddiwedd y rhyfel yn parhau i fod wedi ei naddu yn ein cof. Mae'r dathliad hwnnw o heddwch a rhyddid yn rhodd y mae'n rhaid i ni barhau i'w werthfawrogi - ac un yr ydym yn gweddïo'n daer amdano ledled ein byd heddiw. Rydym yn gweddïo ar Dduw heddwch, sy'n gwybod pob dioddefaint dynol, ac sy'n deall cost aberth eithaf.
Yng Nghrist, gwelwn nad oes unrhyw aberth yn cael ei anghofio, ac nad oes unrhyw weithred o gariad byth yn cael ei cholli.

Gyda’r diolchgarwch mwyaf, rydym yn diolch i bawb sydd wedi gwasanaethu, a phawb sy'n parhau i wasanaethu a cheisio heddwch.

Archesgbob Cymru, Dirwnod VE

VE 80 Gweddi

Duw cyfiawnder a gwirionedd,

fe gofiwn gyda thristwch a diolchgarwch

y dynion a'r merched hynny a wasanaethodd, ymladdodd ac a fu farw i roi
terfyn ar weithredoedd drwg a sefydlu heddwch yn Ewrop ar y diwrnod hwn 80 mlynedd yn ôl.

Wrth i ni nodi'r garreg filltir hon ac anrhydeddu eu dewrder a'u haberth, rho ras i ni fod yn heddychwyr a cheidwaid heddwch yn ein cymunedau a'n nerthu i herio anghyfiawnder a thyranniaeth yn ein byd heddiw.

Gofynnwn hyn trwy Iesu Grist ein Harglwydd, Tywysog Heddwch,

Amen.

Gan Esgob David Morris

VE Day, Cadeirlan Llandaf
Cymraeg

VE Day 80

Archbishop Andrew John

A beautiful and moving service was held last night at Llandaff Cathedral to mark the 80th anniversary of VE Day. I was honored to attend this poignant occasion of remembrance and thanksgiving, along with the First Minister of Wales Eluned Morgan and Bishop Mary Stallard, Diocese of Llandaff.

It was a powerful reminder of the bravery and sacrifice of so many young soldiers—those who laid down their lives, and those who returned home bearing the weight of their service. The medals they wear are not mere decorations. They are marks of honour, of pain, and of deep, enduring courage. They speak of stories we must never forget.
The joy and relief that once echoed through the streets of our nation at the end of war remain etched in our collective memory.
That celebration of peace and freedom is a gift we must continue to cherish—and one we fervently pray for across our world today.

We pray to the God of peace, who knows all human suffering, and who understands the cost of ultimate sacrifice.

In Christ, we see that no sacrifice is forgotten, and no act of love is ever lost.
With deep gratitude, we give thanks for all who have served, and all who continue to serve in the cause of peace.
Archbishop of Wales, VE Day Llandaff Cathedral

A prayer for VE Day

God of justice and truth,

we remember with sorrow and gratitude
those men and women who served, fought and died to end evil and establish peace in Europe on this day 80 years ago.

As we mark this anniversary and honour their courage and sacrifice, give us grace to be peacemakers and peacekeepers in our communities and strengthen us to challenge injustice and tyranny in our world today.

We ask this through Jesus Christ our Lord, the Prince of Peace,

Amen.

By Bishop David Morris

VE Day, Llandaff Cathedral