Gwersi o Gyfarfod Gweinidogaeth Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Cymru
Gan Debbie Peck, Gweithiwr Ieuenctid Arloesol Bro Arwystli
Un o'r pethau gorau am y cyfarfod Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yr wythnos hon fu'r cyfle i gyfarfod â chydweithwyr ar draws y dalaith sydd hefyd yn canolbwyntio ar weinidogaeth gyda Phlant, Pobl Ifanc a Theuluoedd. Cawsom gyfle i rannu blaenoriaethau, profiad, dysgu, rhwystredigaethau a heriau. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn gwrando ar y gwaith mae eraill yn ei wneud, a chael fy ysbrydoli a'm hannog gan eu profiadau.
Dyma beth ddysgais.
1. Gweithgareddau ffydd ar draws Cymru
Mae wedi bod yn wych clywed am yr ystod enfawr o weithgareddau sy'n digwydd ar draws Cymru. Yn amrywio o eglwys Lego, y prosiect Ffynnu i ‘ddisgos tawel’, prosiect Afon, grwpiau wythnosol i blant bach, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid, Eglwys Flêr, Eglwys Swigod, ysgolion Sul, prosiect gardd gymunedol, gwaith ysgolion yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion seciwlar, gan gyrraedd cannoedd o Blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Cymru.
Sut allwn ni greu ffordd i blant a phobl ifanc dyfu eu ffydd o fedydd i oedolyn ifanc? Mae wedi bod yn symbylol ac yn brofiad braf dysgu gan fy nghydweithwyr.

2. Ehangu ein gweledigaeth
Cawsom hefyd ein bendithio gan y siaradwr gwadd Becky May, sydd wedi gweithio ers blynyddoedd lawer o fewn yr eglwys gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae hi wedi creu ‘The Resources Cupboard’ sy'n anelu at roi adnoddau i'r eglwys leol i help creu disgyblion ifanc. Nid yn unig maent yn darparu adnoddau i'ch helpu yn eich gweinidogaeth ond maent hefyd yn cerdded ochr yn ochr â chi i'ch helpu wrth i chi baratoi i weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Roedd sgwrs Becky yn ddiddorol ac yn addysgiadol ac yn ein herio i feddwl am ein gweinidogaeth, ein cyd-destun a'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Fe'n hannogodd i fwrw ein rhwydi'n ehangach, i baratoi ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Sut i ddatblygu tîm gwirfoddol da, a bod yn barod i fwy o bobl ymuno â ni, ac ysbrydoli gweledigaeth fwy.
Rhoddodd Becky fframwaith i ni ar gyfer yr eglwys i ymgysylltu'n eang â chynifer o blant a phobl ifanc â phosibl, trwy gysylltu'r cyfleoedd iddynt archwilio ffydd yn eu cartrefi, eu hysgolion, eu cymunedau, ac yn yr eglwys. Mae angen i ni ddarparu llwybrau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, fel y gallant ymgysylltu â ffydd o'u genedigaeth i fod yn oedolyn, a thu hwnt.
3. Gwasanaethu ysgolion â chalonnau gwasanaethgar
Fe'n hatgoffodd hefyd mai braint yw cael ein caniatáu i weithio o fewn ysgolion ac ein bod yn agosáu at ein hysgolion gydag agwedd y gwas, i'w gwasanaethu a'u helpu. Mae angen i ni ofyn iddynt, "Sut allwn ni eich helpu chi?" Ac os yw hynny'n help trwy wrando ar blentyn yn darllen, neu helpu gyda goruchwyliaeth amser cinio, neu weithredu fel cysgodwr ar drip ysgol, yna gwnewch hynny a gwasanaethwch yr ysgol.
Gofynnodd i ni ystyried pwy yw'r bobl nad ydym yn eu cyrraedd, nad ydynt ar ein radar? Yna estyn allan atynt.
4. Disgyblaeth ar gyfer pob arddull dysgu
Gwahoddodd Becky ni i ystyried y gwahanol ffyrdd mae pobl yn cysylltu â Duw a defnyddio'r wybodaeth hon i'n hysbysu yn ein paratoad i ddarparu cyfleoedd i blant a theuluoedd archwilio ffydd. Mae angen i ni fod yn fwriadol yn ein cynllunio i ddarparu ar gyfer anghenion gwahanol unigolion sy'n ymgysylltu â'n gwaith, ac mae angen i ni fod yn gynhwysol i wahanol arddulliau dysgu.
Cyflwynodd hefyd y syniad o ‘Pen, Dwylo a Chalon’ wrth ddatblygu disgyblion. Pen yw gwybod, meddwl a deall, Dwylo yw cyfrannu, creu ac arwain. Calon, yw caru, gwerthfawrogi a pherthyn. Ym mhopeth a wnawn mae angen i ni gynllunio sut y gallwn gynnig y profiad hwn o archwilio ffydd.

5. Cenhedlaeth Alpha yng Nghymru
Trafododd Mark Griffiths, Darlithydd yng Ngholeg Padarn Sant, ei ymchwil ar Genhedlaeth Alpha yng nghyd-destun Cymru. Esboniodd fod dwy filiwn yn fwy o bobl yn dod i'r eglwys o gymharu â chwe blynedd yn ôl. Mae eglwysi gyda chysyniad clir o'r hyn maent yn sefyll drosto yn tyfu megis eglwysi Catholig Rufeinig ac eglwysi carismatig. Esboniodd hefyd fod pobl ifanc yn hiraethu am brofiad dilys – rhywbeth sy'n teimlo'n ddilys ac yn ystyrlon. Sut rydym yn sicrhau bod hyn yn digwydd yn yr eglwys?
6. Cerdded ochr yn ochr â phobl ifanc
Mae llawer o bwyntiau allweddol y byddaf yn myfyrio arnynt o'r wythnos hon, megis wrth weithio gyda fy mhobl ifanc ar y syniad bod ffydd yn daith: ac maent yn dweud "Ie" ar hyd y ffordd yn ôl eu dealltwriaeth ar yr adeg honno. Mae hyn yn atseinio'n fawr gyda mi, wrth i mi geisio cerdded ochr yn ochr â fy mhobl ifanc ar eu taith ffydd i'w helpu i fynd yn ddyfnach mewn ffydd o ddydd i ddydd.
Cefais fy annog hefyd gan ganfyddiadau ymchwil Mark Griffiths. Helpodd hyn o ddifrif i lunio ffocws ar gyfer y weinidogaeth rydym yn ei gwneud.
I gwblhau'r cyfarfod, arweiniodd Rachel Bunting ni i gnoi cil dros ein dyfodol a lle gall y rhai ohonom sy'n gweithio gyda Phlant, pobl ifanc a theuluoedd anelu ato yn y dyfodol.
Mae gennym bob rheswm i fod yn obeithiol am ddyfodol ffydd ymhlith pobl ifanc. Nid y cwestiwn yw a fydd Cenhedlaeth Alpha yn ymgysylltu â ffydd, ond yn hytrach a fyddwn ni'n barod i'w cyfarfod lle maent ac i gerdded ochr yn ochr â nhw ar y daith honno.
Mae grŵp Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Esgobaeth Bangor yn bodoli i gefnogi, annog, a dysgu oddi wrth ein gilydd wrth i ni dyfu ein gweinidogaeth ieuenctid a theuluoedd. Byddwch yn rhan o'r sgwrs hanfodol hon, e-bostiwch Canon Alex Mayes.
Lessons from Wales' Children, Youth and Family Ministry Gathering
By Debbie Peck, Pioneer Youth Worker Bro Arwystli
One of the best things about the CYF gathering this week has been the opportunity to meet up with colleagues across the province who are also focused on ministry with Children, Youth and Families. We share priorities, experience, learning, frustrations and challenges. It has been really helpful to listen to the work others are doing, and to be inspired and encouraged by their experiences.
Here's what I learned.
1. Faith activities across Wales
It has been great to hear about the huge range of activities that are happening across Wales. Ranging from Lego church, the Flourish project to silent discos, a River project, weekly Toddler groups, afterschool clubs & youth clubs, Messy Church, Bubble church, Sunday schools, A community garden project, Schools work both in Church in Wales schools and secular, reaching hundreds of Children, youth and families across Wales.
How can we create a pathway for children and young people to grow their faith from baptism to young adulthood? It has been thought provoking and heartening to learn from my colleagues.

2. Expanding our vision
We were also blessed to have guest speaker Becky May, who has worked for many years within the church with children, youth and families. She has created The Resources Cupboard which aims to resource the local church to make young disciples. Not only do they provide resources to help you in your ministry but they also walk alongside you to help you as you prepare to work with children, youth and families.
Becky’s talk was was engaging and informative and challenged us to think about our ministry, our context and the people we serve. She encouraged us to cast our nets wider, to prepare for partnership working. How to develop a good volunteer team, and to be prepared for more to join us, and inspire a bigger vision.
Becky gave us a framework for the church to widely engage with as many children and young people as possible, by linking up the opportunities for them to explore faith in their homes, their schools, their communities, and in the gathered church. We need to provide pathways for children, young people and families, so that they can engage with faith from the birth to adulthood, and beyond.
3. Serving schools with servant hearts
She also reminded us that it’s a privilege to be allowed to work within schools and that we approach our schools with the attitude of the servant, to serve them and help them. We need to ask them, “How can we help you?” And if that is help by listening to a child reading, or helping with lunchtime supervision, or acting as a chaperone on a school trip, then do that and serve the school.
She asked us to consider who are the people we are not reaching, who are not on our radar? Then to reach out to them.
4. Discipleship for every learning style
Becky invited us to consider the different ways that people connect with God and use this knowledge to inform us in our preparation to provide opportunities for children and families to explore faith. We need to be intentional in our planning to provide for the different needs of individuals engaging with our work, and that we need to be inclusive to different learning styles.
She also introduced the idea of Head, Hands & Heart in developing disciples. Head is to know, think & understand, Hands is to contribute, create and lead. Heart, is to love, appreciate and belong. In everything we do we need to plan how we can offer this experience of faith exploration.

5. Generation Alpha in Wales
Mark Griffiths, Lecturer at St Padarns Institute, discussed his research on Generation Alpha in the Welsh context. He explained that two million more people are coming to church compared to six years ago. Churches with a clear concept of what they stand for are growing such as Roman Catholic and charismatic churches. He also explained that young people are longing for an authentic experience – something that feel genuine and meaningful. How do we make sure this happens in church?
6. Walking alongside young people
The key learning outcomes that I will take away from this week are, that when working with my young people faith is a journey, and they say “Yes” along the way according to their understanding at that time. This really resonates with me, as I try and walk alongside my young people in their faith journey to help them go deeper in faith day by day.
I also was encouraged by the findings of Mark Griffiths’ research. It really helped to shape focus for the ministry that we are doing.
To complete the gathering, Rachel Bunting led us to ruminate over our future and where the collective of those of us working with Children, young people and families can aspire to in the future.
We have every reason to be hopeful about the future of faith among young . The question isn't whether Generation Alpha will engage with faith but whether we'll be ready to meet them where they are and walk alongside them on that journey.
The Diocese of Bangor's Children, Young People and Families group exists to support, encourage, and learn from one another as we grow our youth and families ministry. Be part of this vital conversation email Canon Alex Mayes