minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Dinas hynaf Cymru yn nodi 1500 mlynedd gydag arddangosfa o lawysgrifau prin

Bydd arddangosfa Prifysgol Bangor yn nodi 1500 mlynedd o Gadeirlan Bangor gyda llawysgrifau prin a thrysorau o’r archif.

Wedi'i churadu gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, mae'r arddangosfa fawr hon yn nodi 1500 mlynedd ers i Deiniol Sant sefydlu ei fynachdy ym Mangor yn 525 OC. Daw enw'r ddinas o 'bangor,' enw’r ffens a adeiladodd Deiniol i amgáu ei gymuned weddi. 1500 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r gadeirlan yn parhau i wasanaethu'r ddinas a dyfodd o amgylch yr anheddiad gwreiddiol hwn.

Yn yr arddangosfa ceir eitemau prin ac arwyddocaol o gasgliad archifol y Brifysgol ochr yn ochr â deunyddiau gwerthfawr o Lyfrgell y Gadeirlan. Mae'r casgliad rhyfeddol hwn wedi bod yng ngofal Prifysgol Bangor ers sawl degawd. Bydd ymwelwyr yn gweld llawysgrifau goliwiedig, llyfrau prin wedi eu hargraffu, a dogfennau archifol sy'n adrodd hanes y ganolfan eglwysig hynafol hon yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa bellach ar agor a bydd yn cael ei chynnal tan 19 Rhagfyr 2025 ar-lein ac ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.

Daw'r mewn-osodiad yma o Fangor o fap addurniadol iawn o Sir Gaernarfon o’r 17eg ganrif (sydd bellach yn rhan o Wynedd)

"Mae'r arddangosfa hon yn cynnig cyfle unigryw i archwilio 1500 mlynedd parhaus o dreftadaeth grefyddol a diwylliannol," meddai Elen Wyn Simpson, Rheolwr Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. "Mae'r deunyddiau yr ydyn ni'n eu harddangos yn amlygu rhan bwysig Cadeirlan Bangor yn hanes Cymru a stori ehangach Cristnogaeth ym Mhrydain.

"Mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o ddathliadau Cadeirlan a Dinas Bangor ac mae’n gyfle gwych i arddangos yr eitemau prin ac arwyddocaol yn Llyfrgell y Gadeirlan."

Mae Cadeirlan Bangor yn dyst i etifeddiaeth gweledigaeth Deiniol. O'i dechreuadau fel mynachdy diarffordd, mae wedi bod yn dyst i ganrifoedd o hanes Cymru, gan oroesi cyrchoedd y Llychlynwyr, y goncwest Normanaidd, a helyntion newidiol aflonyddwch crefyddol a gwleidyddol.

Mae’r weithred gynharaf sy’n ymwneud â Bangor yn dyddio o’r flwyddyn 1306.

Wrth fyfyrio ar flwyddyn dathlu 1500 mlynedd, dywed David Morris, Esgob Ynys Enlli ac Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor, "Ers pymtheg canrif, mae Cadeirlan Bangor wedi bod yn symbol o ffydd a chymuned yng Nghymru. Mae'r arddangosfa hon yn cyfleu hanes diddorol ein cadeirlan a'i rôl hanfodol ym mywyd ysbrydol Cymru ar hyd yr oesoedd."

Mae’r Esgob David yn ychwanegu, "Mae gweledigaeth Deiniol Sant o greu man addoli a dysgu yn parhau i'n hysbrydoli ni heddiw. Bob wythnos, rydym yn gwasanaethu cymuned addoli ar gynnydd gyda gwasanaethau dyddiol, cerddoriaeth gorawl ragorol, a digwyddiadau dinesig a chenedlaethol. Mae'r Gadeirlan yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac wrth i ni barhau i ddathlu’r 1500 mlynedd, bydd yr arddangosfa hon yn sicr yn denu llawer mwy."


Cadeirlan Bangor 1500

Mae rhaglen pen-blwydd y Gadeirlan yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel drwy gydol 2025, gan gynnwys:

  • Darllediad byw o raglen Sunday Worship Radio 4 y BBC.
  • Cynhyrchiad cerddorol newydd sbon gan enillwyr Côr y Byd, Côr Glanaethwy, o'r enw Dinas Noddfa / City of Refuge
  • Lansio CD Cerddoriaeth Eglwysig Newydd a recordiwyd gan Gôr Cadeirlan Deiniol Sant.
  • Gosod eicon newydd o Deiniol Sant.

Mae Arddangosfa Cadeirlan Bangor 2025 yn adlewyrchu ymrwymiad yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig i sicrhau bod eu hadnoddau ar gael am ddim i bob ymchwilydd a'r gymuned ehangach.

Dewch i weld yr arddangosfa yng Nghoridor Siambr y Cyngor, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor neu ar-lein.

Cymraeg

Wales' oldest city marks 1500 years with rare manuscript exhibition

An exhibition at Bangor University will mark 1500 years of Bangor Cathedral with rare manuscripts and archival treasures.

Curated by the Archives and Special Collections at Bangor University, this major exhibition marks 1500 years since St. Deiniol founded his monastery in Bangor in 525 AD. The city's name comes from the fence, called a 'bangor,' that Deiniol built to enclose his community of prayer. 1500 years later, the cathedral continues to serve the city that grew up around this original settlement.

The exhibition showcases rare and significant items from the University's archival collection alongside precious materials from the Cathedral Library. This remarkable collection has been in the care of Bangor University for several decades. Visitors will discover illuminated manuscripts, rare printed books, and archival documents that tell the story of this ancient Welsh ecclesiastical centre.

The exhibition is now open and will run until 19 December 2025 online and at the Main Arts Building at Bangor University.

The earliest deed which relates to Bangor dates from the year 1306.

"This exhibition offers a unique opportunity to explore 1500 years of continuous religious and cultural heritage," says, Elen Wyn Simpson, Archives and Special Collections Manager at Bangor University. "The materials we're displaying reveal the important role Bangor Cathedral has played in Welsh history and the broader story of Christianity in Britain.

“It’s an honour to be part of the celebrations of the Cathedral and City of Bangor and a great opportunity to showcase the rare and significant items within the Cathedral Library.”

Bangor Cathedral stands as a testament to the legacy of Deiniol’s vision. From its beginnings as a secluded monastery, it has witnessed centuries of Welsh history, surviving Viking raids, Norman conquest, and the changing tides of religious and political upheaval.

Visitation Returns of the Dean and Chapter of Bangor Cathedral. Late 16th - Early 17th century

Reflecting on the 1500 anniversary year, David Morris, Bishop of Bardsey and Assistant Bishop of the Diocese of Bangor, says, “For fifteen centuries, Bangor Cathedral has been a beacon of faith and community in Wales. This exhibition captures the fascinating history of our cathedral and its vital role in Welsh spiritual life throughout the ages.”

Bishop David adds, “St Deiniol's vision of creating a place of worship and learning continues to inspire us today. Each week, we serve a growing worshipping community with daily services, outstanding choral music, and civic and national events. The Cathedral attracts thousands of visitors each year, and as we continue our 1500 year celebrations, this exhibition will surely attract many more.”


Bangor Cathedral 1500

The Cathedral's anniversary programme includes a series of high-profile events throughout 2025, including:

  • A live broadcast of BBC Radio 4's Sunday Worship.
  • A brand new musical production by Choir of the World winners Côr Glanaethwy called Dinas Noddfa / City of Refuge
  • The launch of New Welsh Church Music CD recorded by Saint Deiniol’s Cathedral Choir.
  • The installation of a new icon of Saint Deiniol.

The Bangor Cathedral 2025 Exhibition reflects the Archives and Special Collections' commitment to making their resources available to all researchers and the wider community at no charge.

Visit the exhibition at Council Chamber Corridor, Main Arts Building, Bangor University or online.