minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ordeinio cyn-achubwr anifeiliaid a chyn-bennaeth ysgol yng Nghadeirlan Bangor.

Bydd cyn-achubwr anifeiliaid a chyn-bennaeth ysgol yn cael eu hordeinio gan Archesgob Cymru yn Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant, ddyd Sadwrn 28 Mehefin, 11am. 

Bydd Andy Broadbent, sydd wedi abseilio i lawr clogwyn a ffynnon i achub anifeiliaid wedi’u caethiwo yn cael ei ordeinio’n offeiriad, a bydd Karen Morris, cyn-bennaeth ysgol o Esgobaeth Manceinion, yn cael ei hordeinio’n ddiacon. Bydd y ddau’n gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Dwylan, sy’n cynnwys cymunedau arfordirol Penmaenmawr, Llanfairfechan, a Dwygyfylchi.

Andy Broadbent

Mae Andy yn adnabyddus yn yr ardal am ei angerdd am weinidogaeth teuluoedd ac ieuenctid. Mae wedi cael effaith sylweddol gyda’r prosiect Faith Alive, sy’n ailgysylltu plant a phobl ifanc â’r eglwys. 

Mae Faith Alive wedi tyfu o ddau gyfranogwr yn unig i dros 160 o bobl ifanc ar draws y tair eglwys ym Mro Dwylan. Mae’r prosiect yn cynnwys gwasanaethau eglwys sy’n ystyriol o deuluoedd, digwyddiadau trochi pyllau trai i drafod gofalu am greadigaeth Duw, a dathliadau’r Nadolig, Calan Gaeaf a’r Pasg sy’n gwneud ffydd yn hygyrch ac yn ddiddorol i deuluoedd a phobl ifanc.

Karen Morris

Mae Andy’n dweud, "Rwy’n gyffrous am y gwasanaeth ordeinio. Mae wedi bod yn daith hir - tua 6 blynedd o hyfforddiant a dirnadaeth - ond rwy’n teimlo fy mod yn barod a bod gennyf gefnogaeth dda ar gyfer y cam nesaf hwn.

"Rydw i mor ddiolchgar i Dduw am ymddiried ynof gyda rhan o’i genhadaeth, ac rwy’n gobeithio y gallaf gyflawni cyfwerth â’r ymddiriedaeth a’r cariad yr wyf i wedi’u cael. Rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth fy nghydweithwyr, yn enwedig y Parchedig Tom Saunders, fy swyddog hyfforddi, ac yn bennaf oll am gariad a charedigrwydd y cynulleidfaoedd sydd wedi fy helpu i dyfu a dysgu gyda digon o chwerthin ar hyd y ffordd.

"Byddwn i’n gwerthfawrogi gweddïau a dymuniadau da ar gyfer y diwrnod mawr, ac ar gyfer fy nheulu."

Mae Karen yn dweud, "Ar ôl cael gyrfa lwyddiannus a phrysur ym maes addysg, roeddwn i’n credu fy mod yn haeddu ymddeoliad a chyfle i orffwys. Yn amlwg, nid oedd Duw yn cytuno!


Ni allwn gredu y byddai Duw yn gofyn i rywun fel fi.

"Daeth galwad Duw i’r offeiriadaeth i mi’n ara bach. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi’i anwybyddu ar y dechrau er gwaethaf llawer o awgrymiadau a phromptio - ni allwn gredu y byddai Duw yn gofyn i rywun fel fi.

"Rwy’n angerddol am gefnogi pobl i ddwysau eu ffydd ac archwilio ffyrdd newydd o addoli. Rwy’n mwynhau cydnabod doniau unigryw pobl a helpu i ddatblygu eu gweinidogaethau a chroesawu pobl nad ydyn nhw eto yn adnabod Iesu."

Mae’r Canon Alex Mayes, Cyfarwyddwr y Weinyddiaeth yn dweud, "Rwy’n gyffrous iawn am yr ordeiniadau eleni. Wrth i Andy a Karen baratoi ar gyfer eu rolau newydd, gweddïwn y byddant yn arwain, cysuro a dyrchafu eraill yn eu teithiau ffydd gan fod yn anogwyr cariad Crist yn y cymunedau y maent yn gwasanaethu ynddynt."

Wrth baratoi ar gyfer cael eu hordeinio, bydd Andy a Karen yn mynychu encil dan arweiniad cyn-Archesgob Cymru, John Davies, yng Nghanolfan Ysbrydolrwydd Jeswit Beuno Sant yn Nhremeirchion.

Bydd Archesgob Cymru yn arwain y gwasanaeth ordeinio gydag Esgob Ynys Enlli ac Esgob Cynorthwyol Bangor David Morris. Yr Esgob John Davies fydd y pregethwr gwadd.

Cymraeg

Former animal rescuer and ex-headteacher to be ordained at Bangor Cathedral.

A former animal rescuer and an ex-headteacher are to be ordained by the Archbishop of Wales at Saint Deiniol’s Cathedral, Saturday 28 June, 11 am, at Bangor Cathedral.

Andy Broadbent, who has abseiled down a cliff and a well to rescue trapped animals, will be ordained a priest, and Karen Morris, a former headteacher from the Diocese of Manchester, is to be ordained a deacon. Both will serve in the Bro Dwylan Ministry Area, which includes the coastal communities of Penmaenmawr, Llanfairfechan, and Dwygyfylchi. 

Karen Morris

Andy is well known in the area for his passion for family and youth ministry. He has made a significant impact with the Faith Alive project, which is reconnecting children and young people with the church. 

Faith Alive has grown from just two participants to over 160 young people across the three churches in Bro Dwylan. The project includes family-friendly church services, rock-pooling events to discuss caring for God’s creation, and Christmas, Halloween and Easter celebrations that make faith accessible and engaging for families and young people.

Andy Broadbent

Andy says, "I'm excited about the ordination service. It's been a long road - about 6 years of training and discernment - but I feel well prepared and supported for this next step.

"I'm so grateful to God for trusting me with a portion of His mission, and I hope I can measure up to the trust and love shown to me. I'm incredibly grateful for the support of my colleagues, especially Revd Tom Saunders, my training incumbent, and most of all for the love and kindness of the congregations who have helped me grow and learn with plenty of laughter along the way.

"I'd appreciate prayers and good wishes for the big day, and for my family."


I couldn't quite believe that God would ask someone like me.

Karen says, “Having had a successful and busy career in education, I thought I was due a restful retirement. Clearly, God didn't agree!

"God's call to the priesthood crept up on me. I'll admit to ignoring it at first despite many hints and prompts - I couldn't quite believe that God would ask someone like me.

"I am passionate about supporting people to deepen their faith and explore new ways to worship. I enjoy recognising people's unique gifts and helping develop their ministries and welcoming people who don't yet know Jesus."

Canon Alex Mayes, Director of Ministry says, “I’m very excited for this year’s ordinations. As Andy and Karen prepare for their new roles, we pray that they would guide, comfort and uplift others in their journeys of faith and be encouragers of the love of Christ in the communities in which they serve.”

In preparation for their ordination, Andy and Karen will attend a retreat led by the former Archbishop of Wales, John Davies, at St Beuno's Jesuit Spirituality Centre in Tremeirchion.

The Archbishop of Wales will lead the ordination service with Bishop of Bardsey and Assistant Bishop of Bangor David Morris. Bishop John Davies will be the guest preacher.