Deon newydd wedi’i phenodi i Gadeirlan Bangor
Mae deon newydd wedi’i phenodi i Gadeirlan Bangor, gyda’r Canon Dr Manon Ceridwen James yn ymgymryd â’r rôl ym mis Medi.
Mae Manon, a fagwyd yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn, yn Ddeon Hyfforddiant Gweinidogaethol Cychwynnol yn Athrofa Padarn Sant ar hyn o bryd. Mae gan y Deon penodedig berthynas agos â Chadeirlan Bangor, ar ôl cael ei hordeinio’n Ddiacon yno yn 1994 ac yn offeiriad yn 1997.

Mae Manon yn dod â chyfoeth o brofiad mewn arweinyddiaeth a gweinidogaeth yn y cyd-destun Cymreig, ar ôl bod yn ymwneud â hyfforddiant gweinidogion yn yr Eglwys yng Nghymru ers 2005. Yn ogystal â phrofiad eang o weinidogaeth blwyfol, drwy gydol ei gweinidogaeth, mae wedi hefyd wedi cyflawni swyddi arweinyddiaeth uwch, gan gynnwys Cyfarwyddwraig Ymgeiswyr Esgobaethol a Chyfarwyddwraig Gweinidogaeth. Fel siaradwraig Cymraeg, mae ei gwaith ar y cyfryngau yn cynnwys cyfraniadau rheolaidd ar raglenni BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Mae’r penodiad yn dod ar adeg arwyddocaol i’r Gadeirlan wrth iddi ddechrau’r broses o ddiwygio ac adnewyddu yn dilyn ymweliad esgobaethol. Ym mis Hydref 2024, mewn ymateb i bryderon a ddaeth i’w sylw, comisiynodd yr Archesgob Cymru ar y pryd, Andrew John, ymweliad swyddogol â Chadeirlan Bangor ac adolygiad gan Thirtyone:eight, corff allanol sy’n arbenigo mewn cyngor diogelu mewn lleoliadau eglwysig. Roedd yr adroddiadau yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwelliant, ac un ohonynt oedd penodi Deon newydd cyn gynted â phosibl.
Dechreuodd y broses recriwtio ar gyfer Deon newydd y Gadeirlan gydag ymgynghoriad i gasglu barn gan aelodau’r gynulleidfa. Nododd yr ymgynghoriad hwn ofynion allweddol ar gyfer y rôl, gan gynnwys rhugledd yn Gymraeg, sgiliau bugeiliol profedig, aeddfedrwydd ysbrydol, a phrofiad mewn llywodraethu a rheolaeth. Ildiodd Esgob Bangor Andrew John ei rôl yn y broses a throsglwyddo’r gadeiryddiaeth i Esgob Cynorthwyol Bangor David Morris.
Fel rhan o’r broses dethol cynhaliod ymgeiswyr sgyrsiau gyda staff a gwirfoddolwyr o’r Gadeirlan a’r ardal weinidogaeth. Roedd y panel cyfweld yn cynnwys wyth person, aelodau lleyg ac ordeiniedig, a daethant i benderfyniad unfrydol ar y penodiad. Cymerodd cyfwelydd allanol, y Deon Shane Forster, Deon Cadeirlan Armagh, ran yn y broses i gynnig arbenigedd ychwanegol. Roedd swyddog proffesiynol AD yn bresennol drwy gydol y trafodaethau i sicrhau tegwch a thryloywder.
Wrth sylwebu ar ei phenodiad newydd, mae Manon Ceridwen James yn dweud:
"Rwyf yn edrych ymlaen yn eiddgar i gychwyn gweithio efo tîm y Gadeirlan i fynd i’r afael â’r heriau presennol a sicrhau dyfodol gobeithiol a llewyrchus iddi hi. Mae pobl Bangor (a’r Esgobaeth sydd yn edrych i’r Gadeirlan fel mam Eglwys), yn haeddu Cadeirlan sydd yn ymgorffori’r gorau sydd yn y ddinas â’r Esgobaeth. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau gall pawb unwaith eto ymddiried yng ngweinidogaeth, buchedd a gwasanaeth y Gadeirlan."
"Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd yn cael ei wneud yn barod yn ddistaw ym mhob agwedd ar fywyd a gweinidogaeth y Gadeirlan ac Eglwys y Groes Maesgeirchen, o’r addoliad gwefreiddiol i’r gwaith efo’r banc bwyd. Mae yna griw ymrwymedig iawn o bobl yn gweithio yn ddiwyd ac yn ymroddedig, eisoes yn arddangos yn eu bywydau gariad Duw at y ddinas, a bydd yn fraint i mi fedru eu gwasanaethu a’u harwain yn nerth Duw."
Wrth groesawu Manon yn ôl i Fangor, mae’r Esgob David Morris yn dweud:
"Mae’r penodiad hwn yn newyddion ardderchog i’r Gadeirlan ac Esgobaeth Bangor. Sicrhaodd Manon hyder y panel cyfweld ac eraill a oedd yn rhan o’r broses i fod yn Ddeon nesaf Bangor ac yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol, i arwain y Gadeirlan a’r Ardal Weinidogaeth i’r cyfnod nesaf o’i bywyd.
"Mae Manon yn dod adref, ac mae’n gwneud hynny gyda’i phrofiad helaeth a’i doniau. Edrychwn ymlaen at ei chroesawu’n ôl i’r esgobaeth ac at ei chyfraniad pwysig fel arweinydd uwch."
Mae Uwch Esgob Eglwys yng Nghymru ac Esgob Llanelwy Gregory Cameron yn dweud:
"Rwy’n falch iawn o groesawu Manon i swydd Deon Bangor. Mae Manon o Gymru ac o Fangor, ym mêr ei hesgyrn, ac mae’n dod â dawn a thalent sylweddol i’w swydd. Mae hyn yn nodi blaendal ar gyfer y dyfodol y mae’r esgobaeth am ei adeiladu, ac mae ei phenodiad yn cael fy nghefnogaeth lawn i."
Mae’r Athro Medwin Hughes, Cadeirydd y Corff Cynrychioliol a Chadeirydd Bwrdd Goruchwylio Cadeirlan Bangor yn dweud:
"Rwy’n llongyfarch Dr Manon Ceridwen James ar ei phenodiad fel Deon nesaf Bangor ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi wrth iddi arwain cymuned y Gadeirlan i dymor newydd o’i bywyd gyda’n gilydd."
Mae Archddiacon Bangor a Chadeirydd Cabidwl Cadeirlan Bangor, David Parry yn dweud:
"Rwy’n gwbl gyffrous gan benodiad Manon. Galwodd cymaint o gyfranwyr i’n hymgynghoriad am Ddeon o’i safon, profiad a rhinweddau personol hi. Bydd Manon yn cael croeso cynnes pan ddaw adref i Fangor.
"Rydym wedi bod yn ailadeiladu’n amyneddgar ar ôl cyfnod heriol ym mywyd y Gadeirlan. Bydd arweinyddiaeth Manon yn dod ag anogaeth a gobaith i’r gwaith hanfodol hwnnw."
Wrth siarad ar ran Coleg Deoniaid Cadeirlannau Eglwys yng Nghymru, mae’r Deon Nigel Williams yn dweud:
"Rydym yn falch bod Manon wedi’i phenodi’n Ddeon nesaf Bangor ac rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawu a’i chefnogi yn ei rôl newydd. Mae Manon yn dod â chyfoeth o brofiad a doniau gyda hi a fydd yn fendith i Gadeirlan Bangor yn ogystal â’r cadeirlannau eraill yng Nghymru."
Mae’r Canon Athro Jeremy Duff, Pennaeth Athrofa Padarn Sant, yn dweud:
"Mae Manon wedi cael effaith drawsnewidiol ar yr Athrofa dros y saith mlynedd y bu’n Ddeon Hyfforddiant Gweinidogaethol Cychwynnol, fel cydweithwraig ddoeth, tiwtor ysbrydoledig, a bugail diwyg, teimladwy.
"Rydym yn falch ei bod wedi’i phenodi’n Ddeon Bangor, a byddwn yn gweddïo drosti hi, y Gadeirlan a’r esgobaeth wrth iddi ddechrau’r weinidogaeth newydd hon."
Wrth siarad fel cyfwelydd allanol, dywedodd Deon Shane Forster,
Braint oedd bod yn rhan o’r broses ddirnadaeth i benodi Deon ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd i Fro Deiniol. Cynhaliwyd y trafodaethau mewn modd tryloyw, urddasol a hawddgar ac yn dilyn sgwrs onest, fyfyriol a gweddigar, penderfyniad unfrydol y panel oedd argymell penodi Manon i’r rôl. Mae hi yn glerig profiadol, yn academydd, yn awdur ac yn fardd ond hefyd yn wraig, mam a chefnogwraig pêl-droed! Rhywun ag ymlyniad emosiynol gwirioneddol i Fangor.
"Nid yw Manon yn ofni her a bydd yn achub ar y cyfle i ddod ag iachâd, cymod a gobaith i'r Gadeirlan a'r Ardal Weinidogaeth. Anfonaf ddymuniadau gorau gweddigar at Manon wrth iddi ymgymryd â’r rôl hynod bwysig hon ar yr adeg dyngedfennol hon ym mywyd yr eglwys ym Mangor”.
Ynghylch Manon Ceridwen James
Ganwyd Manon yn Nglanaman, sir Gaerfyrddin, a'i magu yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn. Astudiodd am radd yn y Dyniaethau (yn canolbwyntio ar Astudiaethau Crefyddol, Cymdeithaseg ac Astudiaethau Merched) ym Mhrifysgol De Cymru, Pontypridd, lle archwiliodd ei galwedigaeth i’r weinidogaeth wrth weithio yng Ngholeg Trefeca, canolfan gynhadledd Bresbyteraidd.
Derbyniwyd hi i hyfforddi yn Ridley Hall, Caergrawnt, lle astudiodd ddiwinyddiaeth yn y Brifysgol drwy Goleg Selwyn. Ordeinwyd Manon yn ddiacon yng Nghadeirlan Bangor yn 1994 ac yn 1997 roedd yn un o'r merched cyntaf i gael ei hordeinio’n offeiriad mewn gwasanaeth arbennig yn y Gadeirlan.
Mae Manon wedi bod yn ymwneud â hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru ers 2005, gan ddysgu diwinyddiaeth ymarferol, arwain addoliad, pregethu ac addysg oedolion. Cwblhaodd dystysgrif ôl-radd mewn Addysg Oedolion a Myfyrdod Diwinyddol gyda Phrifysgol Caer yn 2008 ac enillodd PhD o Brifysgol Birmingham yn 2015.
Mae Manon wedi ysgrifennu dau lyfr, Women, Identity and Religion in Wales: theology, poetry, story a chasgliad barddoniaeth Notes from a Eucharistic Life. Mae wedi cyfrannu penodau i sawl llyfr academaidd ar bynciau gan gynnwys ffydd menywod, hunaniaeth Gymreig, trais domestig, a diwinyddiaeth. Mae'n cyd-olygu llyfr ar hyn o bryd o'r enw Welsh Theology: Historical, Contextual and Practical Perspectives i'w gyhoeddi yn 2026.
Mae Manon yn cyfrannu i wefan SPCK assemblies.org.uk ac mae wedi cyhoeddi gwasanaethau ysgol mewn dau gyhoeddiad SPCK. Mae ei barddoniaeth wedi ymddangos mewn amrywiol o gylchgronau gan gynnwys Poetry Wales, Poetry Scotland a Practical Theology.
Mae Manon yn cyfrannu yn rheolaidd i raglenni BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, gan gynnwys Bwrw Golwg, Munud i Feddwl, Yr Oedfa ac All Things Considered. Ar deledu, mae wedi ymddangos ar Dechrau Canu Dechrau Canmol S4C nifer o weithiau. Yn achlysurol, mae wedi rhannu ei barn fel aelod o’r wal goch (cefnogwyr tîm pel droed Cymru) ar raglenni radio Cymreig yn Gymraeg a Saesneg, megis Ar y Marc. Gwasanaethodd Manon fel ymgynghorydd ar gyfer y ddrama deledu S4C "Parch" a ysgrifennwyd gan Fflur Dafydd.
Yn ei hamser hamdden, mae Manon yn mwynhau mynychu gemau pêl-droed a digwyddiadau comedi gyda'i gŵr Dylan (Rheolydd Cyllidol Grŵp ym Mhrifysgol Bangor) ac mae hyd yn oed wedi perfformio comedi stand-up yn y gorffennol. Maent hefyd yn mwynhau cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth, a theithio.
New Dean appointed to Bangor Cathedral
A new dean has been appointed to Bangor Cathedral, with Canon Dr Manon Ceridwen James taking up the role from September.
Manon, who grew up in Nefyn on the Llŷn Peninsula, is currently Dean for Initial Ministerial Training at the St Padarn’s Institute. The Dean Designate has a close relationship with Bangor Cathedral, having been ordained Deacon there in 1994 and priest in 1997.

Manon brings with her a wealth of experience in leadership and ministry in a Welsh context, having been involved with training for ministry in the Church in Wales since 2005. As well as her extensive parish experience, throughout her ministry she has held various senior leadership roles, including Diocesan Director of Ordinands and Director of Ministry. As a Welsh speaker, her media work includes regular contributions to BBC Radio Cymru as well as BBC Radio Wales programmes.
The appointment comes at a significant time for the Cathedral as it begins the process of reform and renewal following an episcopal visitation. In October 2024, in response to concerns brought to his attention, the then Archbishop of Wales Andrew John, commissioned a visitation of Bangor Cathedral and a review by Thirtyone:eight, an external body specialising in safeguarding advice in church settings. The reports included recommendations for improvement, one of which was to appoint a new Dean as soon as possible.
The recruitment process for the new cathedral Dean began with a consultation to gather views from congregation members. This consultation identified key requirements for the role, including fluency in Welsh, proven pastoral skills, spiritual maturity, and experience in governance and management. Bishop of Bangor Andrew John removed himself from the process and handed the chair to Assistant Bishop of Bangor David Morris.
As part of the selection procedure, candidates held conversations with staff and volunteers from the cathedral and ministry area. The interview panel consisted of eight people, both lay and ordained members, who reached a unanimous decision on the appointment. An external interviewer, Dean Shane Forster, Dean of Armagh Cathedral, participated in the process to provide additional expertise. An HR professional was present throughout to maintain fairness and transparency in the proceedings.
Commenting on her new appointment, Manon Ceridwen James says,
“I am very much looking forward to working with the team at the Cathedral to address the current challenges and to ensure a hopeful and sustainable future. The people of Bangor, and indeed the people of the diocese who look to the Cathedral as a mother church, deserve a Cathedral which embodies all that is good about the city and the diocese. I will be working hard to rebuild trust in the mission and ministry of the Cathedral.
“I am excited to be building on the good work already going on quietly in every aspect of the life and ministry of the Cathedral and Eglwys y Groes Maesgeirchen from the inspiring worship to the food bank. There is a group of hard working and committed people already demonstrating God’s love for the city in Bangor and it will be a privilege for me to serve them and lead them, in God’s strength.”
Welcoming Manon back to Bangor, Bishop David Morris says,
“This appointment is excellent news for the Cathedral and the Diocese of Bangor. Manon secured the confidence of the interview panel and others involved in the process to be the next Dean of Bangor and Ministry Area Leader of Bro Deiniol, to lead the Cathedral and Ministry Area into the next phase of its life.
“Manon is coming home, and she does so with her vast experience and gifts. We look forward to welcoming her back to the diocese and to her important contribution as a senior leader.”
Senior Bishop of the Church in Wales and Bishop of St Asaph Gregory Cameron says,
"I am very pleased to welcome Manon to the post of Dean of Bangor. Manon is of Wales and of Bangor, root and branch, and she brings considerable flair and talent to her post. This marks a downpayment for the future which the diocese wishes to build, and her appointment has my full support."
Professor Medwin Hughes, Chair of the Representative Body and Chair of the Bangor Cathedral Oversight Board says,
“I congratulate Dr Manon Ceridwen James on her appointment as the next Dean of Bangor and look forward to working with her as she leads the Cathedral community into the next season of its life together.”
Archdeacon of Bangor and Chair of Bangor Cathedral Chapter, David Parry, says,
“I am absolutely thrilled by Manon’s appointment. So many contributors to our consultation called for a Dean of her calibre, experience and personal qualities. Manon will be warmly welcomed as she ‘comes home’ to Bangor.
“We have been rebuilding patiently after a challenging time in the Cathedral’s life. Manon’s leadership will bring encouragement and hope to that vital work.”
Speaking on behalf of the Church in Wales College of Cathedral Deans, Dean Nigel Williams says,
“We are delighted that Manon has been appointed the next Dean of Bangor and we look forward to welcoming and supporting her in her new role. Manon brings a wealth of experience and gifts with her which will a blessing to Bangor cathedral as well as the other cathedrals in Wales.”
Canon Professor Jeremy Duff, Principal of St Padarn’s Institute says,
“Manon has had a transformative impact on St Padarn’s over the seven years that she has been Dean for Initial Ministerial Training, as a wise colleague, an inspiring teacher, and a diligent, compassionate pastor.
“We are delighted that she has been appointed as Dean of Bangor, and will be praying for her, the cathedral and the diocese as she takes up this new ministry.”
Commenting as an external interviewer involved in the process, Dean Shane Forster says,
“It was a privilege to be involved in the discernment process to appoint a new Dean and Ministry Area Leader for Bro Deiniol. The proceedings were conducted in a transparent, dignified and straightforward manner and following candid conversation, reflection and prayer, it was the unanimous decision of the panel to recommend Manon for appointment to the role. She is an experienced cleric, an academic, writer and poet but also a wife, mother and football fan! Someone with a real emotional attachment to Bangor.
"Manon is not afraid of a challenge and will grasp the opportunity to bring healing, reconciliation and hope to the Cathedral and Ministry Area. I send Manon prayerful best wishes as she takes on this very important role at this critical juncture in the life of the church in Bangor”.
About Manon Ceridwen James
Manon was born in Glanaman, Carmarthenshire, and grew up in Nefyn on the Llŷn Peninsula. She studied for a Humanities degree (including Religious Studies, Sociology and Women's Studies) at the University of South Wales, Pontypridd, where she explored her vocation to ordained ministry while working at Coleg Trefeca, a Presbyterian conference centre.
She was accepted for training at Ridley Hall, Cambridge, where she studied theology at the University through Selwyn College. Manon was ordained deacon at Bangor Cathedral in 1994 and in 1997 was one of the first women to be ordained priest at a special service in the Cathedral.
Manon has been involved with training for ministry in the Church in Wales since 2005, teaching practical theology, leading worship, preaching and adult education.
She completed a postgraduate certificate in Adult Education and Theological Reflection with Chester University in 2008 and earned a PhD from Birmingham University in 2015.
Manon has written two books, Women, Identity and Religion in Wales: theology, poetry, story and a poetry collection Notes from a Eucharistic Life. She has contributed chapters to several academic books on topics including women's faith, Welsh identity, domestic violence, and theology. She is currently co-editing a book titled Welsh Theology: Historical, Contextual and Practical Perspectives for publication in 2026.
Manon is a contributor to the SPCK assemblies.org.uk website and has published school assemblies in two SPCK publications. Her poetry has appeared in various magazines and journals including Poetry Wales, Poetry Scotland and Practical Theology.
Manon is a regular contributor to BBC Radio Cymru and BBC Radio Wales programmes, including Bwrw Golwg, Munud i Feddwl, Yr Oedfa and All Things Considered. On television, she has contributed to S4C's Dechrau Canu Dechrau Canmol. She has occasionally shared her views as a member of the Red Wall (Wales’ football fans) on Welsh radio programmes in both Welsh and English, such as Ar y Marc. Manon served as consultant for the S4C television drama "Parch" written by Fflur Dafydd.
In her spare time, Manon enjoys attending football matches and comedy events with her husband Dylan, (Group Financial Controller at Bangor University) and has even performed standup comedy in the past. They also enjoy music concerts, festivals and travelling.