Artistiaid i arddangos gweithiau wedi’u hysbrydoli gan bererindod mewn oriel yng Ngwynedd
Daw taith o ffydd, hanes a chreadigrwydd yn fyw yn Nyffryn Ardudwy yr wythnos hon, wrth i Oriel Tŷ Meirion agor arddangosfa wedi’i hysbrydoli gan hen lwybr pererindod Llwybr Cadfan.
Yn agor ar 16 Awst, mae’r arddangosfa’n dod ag weithiau celf at ei gilydd sy’n cael eu siapio gan y llwybr 128 milltir sy’n dilyn ôl troed y cenhadwr Celtaidd o’r chweched ganrif, Sant Cadfan. Mae’r llwybr yn ymestyn o Eglwys Cadfan San yn Nhywyn i Ynys Enlli, oddi ar Benrhyn Llŷn.

Lansiwyd Llwybr Cadfan gan Esgobaeth Bangor ym mis Medi 2023, ac ers hynny mae wedi cael ei gydnabod fel un o deithiau cerdded gorau’r DU a’r Ewrop nad ydych wedi’u rhoi ar brawf. Gan droelli drwy hen eglwysi, traethau, coedwigoedd, bryniau a phentrefi, mae’r daith 12 diwrnod yn cynnig cysylltiad dwfn i bererinion a cherddwyr gyda threftadaeth a thirwedd Cymru.
Dewisodd y curadur Mima yr artistiaid sy’n cymryd rhan yn yr arddangosfa yn dilyn galwad agored ym mis Mai 2024. Mae llawer o’r gweithiau’n tynnu ar dirnodau a safleoedd hanesyddol allweddol ar hyd y llwybr, gyda rhai artistiaid wedi cymryd preswyliadau ar Ynys Enlli wrth baratoi ar gyfer y sioe.
Ynghyd â’r prif weithiau celf, gall ymwelwyr archwilio prosiect Sêl Pererin Llwybr Cadfan, dan arweiniad Swyddog Pererindod Ysgolion yr Esgobaeth, Nia Roberts. Cymerodd dros 600 o blant o ysgolion ar hyd y llwybr ran mewn gweithdai yn archwilio ystyr pererindod, wedi’i gysylltu â chysyniad y Cwricwlwm Cymreig o cynefin – ymdeimlad o gymuned, diwylliant a lle. Bydd dyluniadau’r plant buddugol ar gyfer y sêl ar gael i’w gweld, a bydd Pasbort Pererin Llwybr Cadfan ar gael i’w brynu yn yr oriel.
Gall celf agor drws i ysbryd pererindod.
Dywedodd Sarah Peron, Swyddog Prosiect Llwybr Cadfan: “Mae’r arddangosfa’n cynnig cipolwg ar sut y gall celf agor drws i ysbryd pererindod. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i fyfyrio ar yr hyn y gallai pererindod ei olygu iddynt, sut y gallai gyfoethogi eu bywyd bob dydd a’u bywyd ysbrydol, yn ogystal â dyfnhau eu cysylltiad â thirweddau a straeon Gogledd Cymru.”
Mae Oriel Tŷ Meirion wedi’i lleoli’n agos at y llwybr pererindod, sy’n pasio drwy Ddyffryn Ardudwy ar ddiwrnod pedwar y daith. Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o 16 Awst tan 20 Rhagfyr ac ar agor i’r cyhoedd bob dydd Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10.30am a 4.00pm. Gall ymwelwyr hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau, digwyddiadau a gweithdai drwy gydol y cyfnod.
Am ragor o wybodaeth, ewch i tymeirion.co.uk/llwybrcadfan.
Artists to showcase pilgrimage-inspired works at Gwynedd gallery
A journey of faith, history, and creativity will come to life in Dyffryn Ardudwy this week, as Oriel Tŷ Meirion opens an exhibition inspired by the ancient Llwybr Cadfan pilgrimage route.
Opening on 16 August, the exhibition brings together artworks shaped by the 128-mile path that follows in the footsteps of sixth-century Celtic missionary St Cadfan. The route stretches from St Cadfan’s Church in Tywyn to Bardsey Island (Ynys Enlli), just off the Llŷn Peninsula.

Launched by the Diocese of Bangor in September 2024, Llwybr Cadfan has since been recognised as one of the UK and Europe’s best hikes you haven’t tried. Winding through ancient churches, beaches, forests, hills, and villages, the 12-day journey offers pilgrims and walkers a deep connection to Welsh heritage and landscape.
Gallery owner and exhibition curator Mima selected the exhibition’s participating artists following an open call in May 2024. Many works draw on key landmarks and historic sites along the route, with some artists taking up residencies on Bardsey Island in preparation for the show.
Alongside the main artworks, visitors can explore the Llwybr Cadfan Pilgrim Stamps project, led by the Diocese of Bangor’s Schools Pilgrimage Officer Nia Roberts. Over 600 children from schools along the route took part in workshops exploring the meaning of pilgrimage, linked to the Welsh Curriculum’s concept of cynefin – a sense of community, culture, and place. The children’s winning stamp designs will be on display, and the Llwybr Cadfan Pilgrim Passport will be available to buy at the gallery.
Art can open a doorway into the spirit of pilgrimage.
Sarah Peron, Llwybr Cadfan Project Officer, said, “This exhibition shows how art can open a doorway into the spirit of pilgrimage. Through creativity, we hope the exhibition will inspire people to reflect on what pilgrimage might mean to them, how it can enrich their everyday life and deepen their connection to the landscapes and stories of North Wales.”
Oriel Tŷ Meirion is located close to the pilgrimage path, which passes through Dyffryn Ardudwy on day four of the journey. The exhibition runs from 16 August to 20 December and is open to the public Thursdays, Fridays, and Saturdays from 10.30am to 4.00pm. Visitors can also take part in activities, events, and workshops throughout the run.
For more information, visit tymeirion.co.uk/llwybrcadfan.