Plant ysgolion i noddi Dydd Deiniol Sant gyda phererindod i Ganol y Ddinas
Bydd canol dinas Bangor yn cael ei drawsnewid gan orymdaith o blant ysgol ddydd Mercher, 11 Medi, wrth i tua 200 o blant lleol arwain pererindod drwy ganol y ddinas i nodi Dydd Deiniol Sant a dathliadau pen-blwydd 1500 Bangor.
Bydd y daith gerdded, a fydd yn dechrau am 11:15yb yng Nghadeirlan Bangor, yn gweld disgyblion yn cael eu cefnogi gan egni rhythmig Gethin Thomas Cerdd Amdani wrth iddynt gerdded i lawr yr Heol Fawr, heibio’r cloc, trwy Ganolfan Siopa Deiniol ac i’r Ardd Feiblaidd. Anogir trigolion a ymwelwyr i sefyll ar hyd y llwybr a chefnogi’r plant wrth iddynt fyw stori hynafol Bangor.

Yn gynharach yn y bore, bydd y dathliadau yn dechrau am 10yb gyda gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a arweinir gan offeiriaid y Gadeirlan, gan gynnwys perfformiadau gan Ysgol Tryfan ac Ysgol Friars. Bydd wyth disgybl hefyd yn cael eu cydnabod am eu gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan y Gadeirlan, a grëwyd mewn gweithdai gyda Swyddog Ymgysylltu Pererindodau ysgolion, Nia Elain Roberts. Bydd arddangosfa lliwgar o faneri, a gynlluniwyd gan yr ysgolion cyfranogol yn lliwiau Bangor 1500, yn cael ei dangos y tu mewn i’r Gadeirlan.
Bydd y bore o ddathlu yn dod i ben gyda digwyddiad creadigol a arweinir gan Fran Wen, yn cyfuno cerddoriaeth a symudiad wedi’u hysbrydoli gan faneri’r disgyblion.
Mae Dathliad Dydd Deiniol Sant wedi’i drefnu gan Esgobaeth Bangor gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Bangor a Menter Iaith Bangor, ac mae’n rhan o ddathliadau Bangor 1500.
Mae’r trefnydd digwyddiad, Nia Elain Roberts, Swyddog Ymgysylltu Pererinion Ysgolion ar gyfer yr Esgobaeth, yn dweud, “Byddai Deiniol Sant yn falch o weld plant Bangor yn cerdded yn olion ei draed. Mae’r bererindod yn cysylltu ein gorffennol gyda’n dyfodol, gan ddangs bod stori Bangor yn parhau drwy bob genhedlaeth newydd.”
“Gobeithiwn y daw’r gymuned gyfan allan i gefnogi’r plant, wrth iddynt ddathlu treftadaeth rhyfeddol Bangor.”
Bangor school children to mark St Deiniol's Day with city centre pilgrimage
Bangor city centre will be transformed by a procession of schoolchildren on Wednesday, 11 September, as around 200 local schoolchildren lead a pilgrimage through the city centre to mark St. Deiniol’s Day and Bangor’s 1500th anniversary celebrations.
The procession, beginning at 11:15am at Bangor Cathedral, will see pupils accompanied by the rhythmic energy of Gethin Thomas Cerdd Amdani as they make their way down the High Street, past the clock, through the Deiniol Shopping Centre and into the Bible Gardens. Residents and visitors are encouraged to line the route and cheer on the children as they bring Bangor’s ancient story to life.

Earlier in the morning, celebrations will begin at 10am with a service in Bangor Cathedral led by the Cathedral clergy, including performances from Ysgol Tryfan and Ysgol Friars. Eight pupils will also be recognised for their cathedral-inspired artwork, created in workshops with Pilgrimage Engagement Officer Nia Roberts. A colourful exhibition of banners, designed by participating schools in the Bangor 1500 colours, will be unveiled inside the Cathedral.
The event will conclude with a creative finale led by Fran Wen, blending music and movement inspired by the pupils’ banners.
The Saint Deiniol’s Day Celebration has been organised by the Diocese of Bangor with support from Bangor City Council and Menter Iaith Bangor, and is part of the Bangor 1500 commemorations.
Event organiser, Nia Elain Robers, Schools Pilgrimage Engagement Officer for the Diocese, says, “Saint Deiniol would be proud to see the children of Bangor walking in his footsteps. This pilgrimage connects our past with our future, showing that Bangor's story continues through each new generation.
“We hope the whole community will come out to support these children as they celebrate Bangor's remarkable heritage."