minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Mae diddordeb mewn pererindod yn cynyddu. A yw’ch eglwys chi’n colli allan?

Mae Canolfan Arthur Ranke wedi cyhoeddi adnodd newydd sy’n dangos sut y gall yr arfer Cristnogol hynafol o bererindod fanteisio ar y diddordeb cynyddol ymhlith y cyhoedd, a ysgogwyd gan raglenni poblogaidd fel rhai’r BBC.

Mae Pererindod – Canllaw Cenhadol i Eglwysi Gwledig yn cynnig atebion ymarferol i eglwysi sy’n ceisio ymgysylltu â’u cymunedau lleol. Mae’n cynnwys awgrymiadau cam wrth gam ar gyfer trefnu digwyddiadau pererindod, myfyrdodau parod, ac enghreifftiau o eglwysi gwledig sydd eisoes yn gweld canlyniadau.

Yn y canllaw ar dudalen 8, mae Eryl Parry, Offeiriad Arloesol yn Esgobaeth Bangor, yn rhannu ei phrofiad llwyddiannus o ddefnyddio pererindod ar gyfer cenhadaeth, gyda chyfweliadau ychwanegol ar YouTube hefyd ar gael. Mae Eryl yn myfyrio ar y digwyddiadau llwyddiannus Gweddïau Tir Gwyllt, “Dechreuon ni Gweddïau Tir Gwyllt fel ysgogiad i ni fel eglwys, gerdded yn fyfyriol a chanolbwyntio ar fod yn sylwgar i Dduw a’n gilydd yn y lle hardd hwn lle mae Duw yn gosod ein traed, dro ar ôl tro. Rydym wedi adeiladu tîm sy’n arwain y teithiau gyda thema. 

"Rydym yn annog pobl ar eu taith i wrando a sylwi, gan mai Duw yw’r trydydd person yn eu sgyrsiau tyner.

“Mae cerdded ochr yn ochr ag eraill gyda sylw pwrpasol i’n hamgylchedd ac i’n gilydd yn helpu pobl i deimlo eu bod wedi’u gwrando arnynt, eu caru a’u derbyn.”

Mae rhyddhau’r canllaw yn cyd-fynd â gwefan TryPilgrimage, partneriaeth rhwng hope TOGETHER a Yr Eglwys Fethodistaidd, sy’n cynnig cymorth i eglwysi sydd am archwilio pererindod fel modd o genhadaeth ac adeiladu cymuned.

Cymraeg

Interest in pilgrimage is soaring. Is your church missing out?

A new resource from The Arthur Ranke Centre shows how the ancient Christian practice of pilgrimage can capitalise on the growing public interest sparked by programs like the BBC's Pilgrimage series.

Pilgrimage – A Missional Guide for Rural Churches offers practical solutions for churches seeking to engage with their local communities. It includes step-by-step suggestions for organising pilgrimage events, ready-to-use reflections and examples from rural churches already seeing results.

Eryl Parry, Pioneer Priest in the Diocese of Bangor, shares her successful experience using pilgrimage for mission, with additional YouTube interviews available. In the guide, Eryl reflects on the successful Worship in the Wild events, “We started Worship in the Wild as a contemplative walking church which focuses on being attentive to God and one another in the beautiful place where he sets our feet, time and time again. We have built a team who lead the walks with a theme. 

"We encourage folk on their journey to listen and notice, as God is the third person in their gentle conversations.

“Walking alongside others with deep attentiveness to our surroundings and each other, helps people feel listened to, loved, and accepted.”

The guide's release coincides with the TryPilgrimage website, a partnership between "hope TOGETHER" and "The Methodist Church," which offers support for churches wanting to explore pilgrimage as mission and community building.