Galwad i weddi a thystiolaethu dros heddwch

Annwyl eglwysi Cymru,
Rydym yn dyst i’r trais dinistriol sy’n gwaethygu yn Gaza a’r Llain Orllewinol, a phenderfyniad diweddaraf Israel i lansio ymosodiad newydd ar Ddinas Gaza sydd yn bygwth dadleoli cannoedd ar filoedd o bobl yn orfodol. Mae lleisiau arweinwyr eglwysig Palestinaidd dros undod a terfyn ar y gwrthdaro yn atseinio ar draws yr eglwysi yn fyd-eang, gan ein hannog i ymateb yn glir a chadarn a gyda thosturi.
Credwn fod tystiolaeth Gristnogol weladwy ac unedig yn y foment hynod ddifrifol hon yn angenrheidiol —tystiolaeth sydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad cytûn dros heddwch, cymod, ac urddas i holl bobl Duw.
Mae annogaeth i eglwysi ar draws Prydain i weddïo dros heddwch ar ddydd Sul 21ain Medi, sydd yn cyd-fynd â Diwrnod Heddwch y Byd Y Cenhedloedd Undedig, a’r alwad fyd-eang i weddio gan Gyngor Eglwysi’r Byd. Datblygwyd y cynlluniau hyn mewn cydweithrediad agos rhwng asiantaethau Cristnogol Prydeinig gan gynnwys Cymorth Cristnogol, CAFOD, Tearfund, Embrace the Middle East, Amos Trust, Sabeel-Kairos, Y Crynwyr ym Mhrydain, All We Can, Reconciling Leaders Network, Difference, Friends of the Holy Land, USPG, a’r Centre for Missionaries from the Majority World.
Ar ddydd Sul 21 Medi, gall eich enyd o weddi gynnwys cyfnod o dawelwch; neu weddi gan Archesgob Hosam o Jerwsalem (isod); neu ymuno â’r weithred #YmprydioDrosGaza. Gall eich gweddïau ganolbwyntio ar un neu fwy o’r materion isod:
- Cadoediad llawn uniongyrchol yn Gaza
- Mynediad llawn i gymorth dyngarol
- Diwedd ar drais yn Israel a Phalestina
- Rhyddhu gwystlon Israel a’r Palestiniaid sydd wedi’u cadw yn annheg
- Proses heddwch ystyrlon.
Gwyddom fod ymdrechion asiantaethau dyngarol ond yn mynd rhan o’r ffordd. Mae arweinyddiaeth eglwysi yn hanfodol. Mae angen eich cefnogaeth i ysgogi’r ymateb ar y raddfa y mae’r argyfwng hwn yn ei fynnu. Felly rydym yn eich gwahodd i:
- Rannu’r alwad hon i weddio yn eang gyda cydweithwyr ac eglwysi
- Annog eich eglwysi i ystyried beth arall y gellir ei wneud i sefyll dros heddwch
Ymuno ag arweinwyr ffydd eraill mewn tystiolaeth gyhoeddus, gan atseinio’r alwad am gyfiawnder a chymod. Yma yng Nghymru, hoffwn estyn gwahoddiad i chi ymuno mewn moment o dystiolaeth a gweddi gyhoeddus o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd ar ddydd Mercher 24 Medi am 12.30 o’r gloch. Byddwn yn cydsefyll mewn undod heddychlon mewn gweithred #LlinellGochDrosGaza #RedLineCymru: Red Line for Gaza
Fel yr ymatebodd arweinwyr eglwysi Cymru 100 mlynedd yn ôl trwy Apêl Heddwch yr Eglwysi yn 1925, gadewch i ni eto, canmlynedd yn ddiweddarach, sefyll dros heddwch, yn enw Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd.
Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru
Dr. Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
Gweddi dros y Tir Sanctaidd ar gyfer Medi 21

Dad Grasol, daeth dy Fab bendigedig, Iesu Grist o’r nefoedd i fod yn fara’r gwirionedd sy’n rhoi bywyd i’r byd:
Yn dy drugaredd, dyro fwyd i bawb yn Gaza a thu hwnt sy’n dioddef o newyn er mwyn iddynt dderbyn bara materol i fwydo eu cyrff a bara nefol i gynnal eu heneidiau.
Trwy rym dy Ysbryd, tyrd â’r rhyfel creulon hwn i ben ar frys gyda rhyddhad i’r holl garcharorion, gofal meddygol i’r clwyfedig, cysur i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac agor lwybr i greu heddwch cyfiawn a pharhaol yma yn y wlad lle bu dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist ei hun yn gweini yn ystod ei fywyd daearol.
Yr hwn sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Sanctaidd, un Duw, yn awr a hyd byth.
Amen
Y Parchedicaf Ddr. Hosam E. Naoum, Archesgob Anglicanaidd yn Jerwsalem, Awst 2025
Call to prayer and witness for peace

Dear Wales churches,
We are witnessing the devastating escalation of violence in Gaza and the West Bank with Israel’s latest decision to mount a new offensive in Gaza City threatening hundreds of thousands of people with further forced displacement. The cries of Palestinian church leaders for solidarity and an end to the conflict have echoed across the global Church, urging us to respond with clarity, compassion, and conviction.
We believe the gravity of this moment demands a visible, united Christian witness—one that speaks to our shared commitment to peace, reconciliation, and the dignity of all God’s people.
There is a call for churches across Britain to pray for peace on Sunday 21st September, coinciding with UN World Peace Day and the global call to prayer from the World Council of Churches.
These plans have been developed in close collaboration with a wide group of UK Christian agencies that includes Christian Aid, CAFOD, Tearfund, Embrace the Middle East, Amos Trust, Sabeel-Kairos, Quakers in Britain, All We Can, Reconciling Leaders Network, Difference, Friends of the Holy Land, USPG, and the Centre for Missionaries from the Majority World.
Prayer could include holding a minute’s silence; or the prayer from Archbishop Hosam of Jerusalem (below); or joining the #FastforGaza action. Your prayers might focus on one or more of the issues below:
- An immediate ceasefire in Gaza
- Unfettered access to humanitarian relief.
- An end to violence in Israel and Palestine.
- The release of Israeli hostages and those Palestinians who are unjustly detained.
- A meaningful peace process.
We recognise that the efforts of humanitarian agencies can only go so far. The leadership of churches is essential. We need you to help mobilise the scale of response this crisis demands. We are therefore asking you to:
- Share this call to prayer with your colleagues and churches
- Encourage your churches to consider what more they can do to stand for peace
Join with other faith leaders in public witness, amplifying the call for justice and reconciliation. Here in Wales, we would like to invite you to join a moment of public prayer and witness outside the Senedd in Cardiff Bay on Wednesday 24 September at 12.30. We will peacefully stand in solidarity for a #RedLineCymru #LlinellGochDrosGaza action: Red Line for Gaza
100 years ago, church leaders in Wales united under the Churches Peace Appeal of 1925, a firm statement against conflict and a commitment to stand together as peacemakers. One hundred years on, we're called to stand together once again – to overcome divisions, speak with courage, and act in hope - in the name of Jesus Christ, Prince of Peace.
In faith and hope,
Mari McNeill, Head of Christian Aid Wales
Dr Cynan Llwyd, General Secretary, Cytûn: Churches Together in Wales
A Prayer for the Holy Land for 21 September

Gracious Father, whose blessed Son Jesus Christ came down from heaven to be the true bread which gives life to the world:
In your mercy, provide for all those in Gaza and beyond who suffer from hunger and starvation, that they may be given both physical bread to nourish their bodies and heavenly bread to sustain their souls.
By the power of your Spirit, bring a speedy end to this cruel war, the release of all captives, care for the sick and wounded, comfort for those who have lost loved-ones, and the opening of a pathway for a just and lasting peace here in the very homeland where your Son, our Lord Jesus Christ, ministered during his earthly life;
who lives and reigns with you and the Holy Spirit, one God, now and forever.
Amen
The Most Reverend Dr. Hosam E. Naoum, Anglican Archbishop in Jerusalem, August 2025