minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Neges gan yr Archesgob

Annwyl Gyfeillion yng Nghrist,

Yr wyf yn ysgrifennu atoch fel teulu esgobaeth­ol yn ystod y dyddiau cyntaf hyn o'ch bywyd gyda'ch gilydd heb esgob cadeiriol i gynnig anogaeth a gobaith ichi. Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, o Fedi 1af, rwyf wedi cymryd cyfrifoldeb fel 'Gwarcheidwad yr Ysbrydolrwydd' dros esgobaeth Bangor hyd nes y bydd eich esgob newydd yn cyrraedd. Er na allaf fod yn esgob i chi yn ystyr lawnaf y rôl honno, byddaf yn gwneud yr hyn a allaf i'ch cefnogi, eich annog a'ch arwain wrth i chi ddechrau'r tymor newydd hwn.

Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i chi dros y misoedd diwethaf, gyda straeon newyddion drwg yn dod allan yn y wasg ac mewn cyfryngau cymdeithasol eraill. Bydd hyn, heb os, wedi cael effaith arnoch chi mewn pob math o ffyrdd ac i raddau amrywiol. Mae gwaith yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r materion sydd wedi'u codi ac er ei bod yn mynd i gymryd amser i'r esgobaeth sefydlogi, mae'r gwaith angenrheidiol wedi dechrau. Fy ngweddi yw y byddwn ni i gyd yn cyd-dynnu, yn cael ein cryfhau a'n harwain gan Ysbryd Glân Duw ac yn hyderus bod Duw yn ein harwain i ddyfodol gobeithiol.

Mae'n siŵr y byddwch chi'n gwybod mai un o brif ffocws fy ngweinidogaeth fel Archesgob dros y tair blynedd nesaf fydd iachâd, cymod ac ailadeiladu ymddiriedaeth ar bob lefel o fywyd yr eglwys a gobeithio y gallaf ddechrau rhywfaint o'r gwaith hwnnw gyda chi dros y misoedd nesaf.

Rwyf eisoes wedi treulio diwrnod gyda'r tri Archddiacon a galwad Zoom gydag aelodau o Staff Swyddfa'r Esgobaeth. Mae hyn wedi fy helpu i gael gwell ymdeimiad o sefyllfa pethau a beth sydd angen ei roi ar waith. Mae fy Ysgrifennydd Esgobaeth­ol, Isabel Thompson, yn treulio amser gyda staff Swyddfa'r Esgobaeth dros yr ychydig fisoedd nesaf i helpu i roi polisîau a gweithdrefnau ar waith a sicrhau llywodraethu da ar lefel esgobaeth­ol.

Gwn fod staff Corff y Cynrychiolwyr hefyd yn gweithio gyda'r Gadeirlan a Swyddfa'r Esgobaeth, gan gynnig eu harbenigedd ac ychwanegu capasiti lle y gallant.

Byddaf yn mynychu Cynhadledd eich Esgobaeth ar Hydref 11eg ac edrychaf ymlaen at gwrdd â rhai ohonoch o leiaf yno. Rwyf hefyd yn cael y fraint o sefydlu y Parch Ddr Manon Ceridwen James yn Ddeon eich Cadeirlan y prynhawn hwnnw. Os gwelwch yn dda defnyddiwch y cyfleoedd hynny i ddod i siarad â mi.

Cynhelir y Coleg Etholiadol rhwng 25 a 27 Tachwedd a gwn y byddwch chi, fel fi, yn gweddïo'n daer ar i Dduw ddatgelu i ni'r person iawn i arwain yr esgobaeth ymlaen.

Diolch am eich ffyddlondeb yn y cyfnod heriol hwn. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y sgyrsiau yr wyf eisoes wedi'u cael gyda rhai ohonoch ynghylch y gobaith a'r positifrwydd sy'n amlwg, er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd a phopeth sydd angen ei wneud. Mae heriau i'w hwynebu o hyd, ond rwy'n hyderus y bydd gras Duw yn llifo­sogi wrth inni gadw ein llygaid yn sefydlog ar Iesu a cheisio rhannu cariad anfesuradwy Duw gyda'r cymunedau a wasanaethwn.

Yng ngeiriau'r Tangnefedd yn ein liturgi, 'Corff Crist ydym ni ... gadewch inni wedyn ddilyn popeth sy'n creu heddwch ac sy'n adeiladu ein bywyd cyffredin.'

Byddwch yn sicr o'm gweddïau a'm cefnogaeth ym mha bynnag ffyrdd y gallaf ei roi.

Yr eiddoch, yng Nghrist,
Archesgob Cherry Vann

Cymraeg

Message from Archbishop Cherry

Dear Friends in Christ,

I am writing to you as a diocesan family in these first few days of your life together without a diocesan bishop to offer you encouragement and hope. As some of you will know, from September 1st, I have taken on responsibility as 'Guardian of the Spiritualities' for the diocese of Bangor until such time as your new bishop arrives. Whilst I am not able to be bishop for you in the fullest sense of that role, I will be doing what I can to support, encourage and guide you as you enter this new season.

It has been a difficult time for you these past months. This will undoubtedly have had an impact on you in all kinds of ways and to varying degrees. Work is being done to address the issues that have been raised and although it is going to take time for the diocese to get back on an even keel, the necessary work has begun. My prayer is that we will all pull together, strengthened and guided by God's Holy Spirit and confident that God is leading us into a hopeful future.

You will probably know that a major focus of my ministry as Archbishop for these next three years is going to be healing, reconciliation and the re-building of trust at all levels of the church's life and I hope that I can begin some of that work with you over the next few months.

I have already spent a day with the three Archdeacons and a zoom call with members of the Diocesan Office Staff. This has helped me to get a better sense of where things are up to and what needs to be put in place. My own Diocesan Secretary, Isabel Thompson, is spending time with the Diocesan Office staff over the next few months to help put policies and procedures in place and ensure good governance at a diocesan level.

I know that the staff of the RB are also working with the Cathedral and the Diocesan Office, offering their expertise and adding capacity where they can.

I will be attending your Diocesan Conference on October 11th and look forward to meeting at least some of you there. I also have the privilege of installing the Revd Dr Manon Ceridwen James as Dean of your Cathedral that afternoon. Please do use those opportunities to come and talk with me.

The Electoral College will take place 25th – 27th November and I know that you, like me, will be praying earnestly for God to reveal to us the right person to lead the diocese forward.

Thank you for your faithfulness in these challenging times. I have been heartened by the conversations I have already had with some of you at the hopefulness and positivity there clearly is, despite all that has happened and all that needs to be done. There remain challenges to be faced, but I am confident that God's grace will abound as we keep our eyes fixed on Jesus and seek to share God's immeasurable love with the communities we serve.

To take some words from the Peace in our liturgy, 'We are the body of Christ...let us then pursue all that makes for peace and builds up our common life.'

Be assured of my prayers and my support in whatever ways I can give it.

Yours, in Christ,

The Most Reverend Cherry Vann
Archbishop of Wales