RS Thomas wedi’i Gofio: Arddangosfa a Chyngerdd Telyn yng Nghadeirlan Bangor

I goffáu 25 mlynedd ers ei farwolaeth, bydd Cadeirlan Bangor yn cynnal arddangosfa o bortreadau RS Thomas gan yr artistiaid Cymreig Wil Rowlands, Stephen Hopper o Lanrhaeadr a Mildred Elsie Eldridge, gwraig RS Thomas, ynghyd â ffotoportrétau gan Howard Barlow, John Hedgecoe a Bernard Mitchell.
Bydd yr arddangosfa fer, o ddydd Sul 21ain i ddydd Iau 25ain Medi, yn dod i ben gyda gwasanaeth yn y Gadeirlan am 12.30yp dan arweiniad y deon newydd, y Canon Dr Manon Ceridwen James, a dilynir gan gyngerdd telyn am 1.30yp.
Bydd “Emyn i Gymro ~ Hymn to a Welshman” yn cael ei berfformio gan y delynores Mared Emlyn a Susan Fogarty, sydd â “gweinidogaeth drwy farddoniaeth” yn Esgobaeth Bangor. Fe’i cyfansoddwyd yn wreiddiol yn 2001 gan Pwyll ap Sion gyda geiriau Menna Elfyn i nodi blwyddyn ers marwolaeth Thomas.
Ymhlith y cyfranwyr eraill mae’r Athro Tony Brown, yr Athro Zoë Skoulding a’r Athro Jason Walford Davies, i gyd o Brifysgol Bangor, gyda cherddoriaeth i’r delyn gan y cyfansoddwr o’r Almaen, Wilfried Hiller.
“Mae adfywiad o ddiddordeb yn RS Thomas yn y flwyddyn goffa hon, gyda gwyliau yn Aberdaron a Brecon, lle’r oedd cerddi Thomas wedi’u gosod i gyfansoddiadau corawl newydd, a darllediad Radio 4 Love’s Moment gyda Gwyneth Lewis am 4yp ar 16 Medi,” meddai Susan Fogarty, Cyfarwyddwr Cymdeithas RS Thomas & ME Eldridge.
RS Thomas Remembered: Exhibition and Harp Recital at Bangor Cathedral

To commemorate the 25th anniversary of the death of RS Thomas, Bangor Cathedral will host an exhibition of RS Thomas portraits by Welsh artist Wil Rowlands, Stephen Hopper of Llanrhaeader and Mildred Elsie Eldridge the wife of RS Thomas, plus photo-portraits by Howard Barlow, John Hedgecoe and Bernard Mitchell.
The exhibition runs from Sunday 21st to Thursday 25th September and concludes with a service in the Cathedral at 12.30pm led by the Canon Dr Manon Ceridwen James, Dean of Bangor Cathedral. A harp recital will follow at 1.30pm
“Emyn I Gymro ~ Hymn to a Welshman” will be performed by harpist Mared Emlyn and Susan Fogarty who has a ‘ministry through poetry’ in the Diocese of Bangor. Originally composed in 2001 by Pwyll ap Sion and words by Menna Elfyn to mark the first anniversary of Thomas’s death. Other presenters are Prof. Tony Brown, Prof. Zoë Skoulding and Prof. Jason Walford Davies all of Bangor University, with music for harp by German composer Wilfried Hiller.
Susan Fogarty, the Director of the RS Thomas & ME Eldridge Society, says, “There is a resurgence of interest in RS Thomas in this anniversary year, with festivals in Aberdaron and Brecon, where Thomas’s poems were set to new choral compositions, and Radio 4’s Love’s Moment with Gwyneth Lewis broadcast at 4pm on 16th September”