Mae dysgwyr yn colli cyfleoedd i ddeall Cymraeg mewn addoliad
Yn aml mae dysgwyr Cymraeg yn colli allan ar yr eirfa grefyddol gyfoethog sy’n rhan o fywyd bob dydd ledled Cymru. Yr hydref hwn, mae gwasanaeth misol yng Nghadeirlan Bangor yn newid hynny.
Cynhelir Duw a Dysgwyr ar ddydd Llun cyntaf y mis am 12.30yp, gyda’r nesaf ar 6 Hydref.
Mae’r gwasanaeth Cymraeg gyda’r Cymun Bendigaid, wedi’i ddilyn gan ginio, yn cynnig gofod hamddenol i ddysgwyr glywed a defnyddio’r Gymraeg sy’n llenwi eglwysi ar hyd a lled Cymru—iaith na ddysgir yn aml mewn gwerslyfrau ond sy’n hanfodol ar gyfer deall diwylliant a bywyd cymunedol Cymraeg.

Mae Duw a Dysgwyr wedi’i addasu i apelio at bob dysgwr waeth beth fo’u lefel. Rhoddir geirfa allweddol a chanllawiau ynghylch ynganiad i helpu dysgwyr ddilyn y gwasanaeth. Ar ôl y gwasanaeth, caiff dysgwyr eu gwahodd i ginio a chlonc gyda Menter Iaith Bangor, lle gallant ymarfer eu sgiliau Cymraeg.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfle unigryw i brofi’r iaith a ddefnyddir mewn addoliad—rhan gyfoethog o dreftadaeth Cymru nad yw’n cael ei dysgu’n aml yn yr ystafell ddosbarth. Mae Elin Owen, Hwylusydd Iaith Gymraeg yn Esgobaeth Bangor, yn credu bod Duw a Dysgwyr yn ffordd o rannu ffydd wrth ddysgu, gan ddod â dysgwyr, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol ynghyd.
“Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfle bendigedig i ddysgwyr glywed a defnyddio Cymraeg mewn sefyllfa wirioneddol, gan brofi’r iaith a’r ffordd y’i defnyddir mewn addoliad. Mae’n le cefnogol i feithrin hyder, cwrdd ag eraill, a rhannu ffydd gyda’n gilydd.”
Meddai Deon Cadeirlan Bangor Manon James, "Mae hwn yn gyfle bendigedig i ni estyn allan at ddysgwyr ym Mangor ac ymhellach, a chynnig gofod cyfeillgar a chroesawgar iddyn nhw ymarfer eu Cymraeg, brofi presenoldeb Duw yn yr adeilad prydferth hwn a dysgu mwy am newyddion da’r ffydd Gristnogol."
Mae’r gwasanaeth yn rhan o ymrwymiad ehangach Esgobaeth Bangor i hyrwyddo’r Gymraeg. Yn 2022, derbyniodd yr esgobaeth wobr Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg, fel cydnabyddiaeth i’w hymdrechion i integreiddio’r Gymraeg mewn bywyd cymunedol.
Bydd y gwasanaeth Duw a Dysgwyr nesaf ar ddydd Llun 6 Hydref am 12.30yp yng Nghadeirlan Bangor. Croesewir pob dysgwr Cymraeg, ac nid oes angen archebu lle.
Learners missing out on opportunities to understand Welsh in worship
Welsh learners often miss out on the rich religious vocabulary that's part of everyday life across Wales. This autumn, a monthly service at Bangor Cathedral is changing that.
Duw a Dysgwyr takes place the first Monday of the month at 12.30pm, with the next one on 6 October.
The Welsh-language service with Holy Communion, followed by lunch, offers learners a relaxed space to hear and use the Welsh that fills churches across Wales—language that's rarely taught in textbooks but vital for understanding Welsh culture and community life.

Duw a Dysgwyr has been adapted to appeal to all learners regardless of their level. Key vocabulary and pronunciation guides are provided to help learners follow along. After the service, learners are invited to cinio a chlocnc - lunch and a chat - with Menter Iaith Bangor, where learners can practice their Welsh skills.
The service provides a unique opportunity to experience the language used in worship—a rich part of Welsh heritage that isn’t often taught in classrooms. Elin Owen, Welsh Language Enabler at the Diocese of Bangor, believes Duw a Dysgwyr is a way of sharing faith while learning while bringing together learners, students and members of the local community.
"This service is a wonderful chance for learners to hear and use Welsh in a real-life setting, experiencing both the language and the way it’s used in worship. It’s a supportive space to build confidence, meet others, and share in faith together."
Dean of Bangor Cathedral Manon James says, "This is a wonderful opportunity for us to reach out to dysgwyr in Bangor and beyond, and provide a friendly and welcoming space for them to practice their Welsh, experience God’s presence in this beautiful building and learn more about the good news of the Christian faith."
The service is part of the Diocese of Bangor's broader commitment to promoting the Welsh language. In 2022, the diocese received the Cynnig Cymraeg award from the Welsh Language Commissioner in recognition of its efforts to integrate Welsh into community life.
The next Duw a Dysgwyr service takes place on Monday 6 October at 12.30pm at Bangor Cathedral. All Welsh learners are welcome, and no booking is required.