minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Croesawu myfyrwyr Bangor am y tymor newydd

Wrth i flwyddyn academaidd newydd ddechrau, mae Caplan Prifysgol Bangor yn estyn croeso cynnes i fyfyrwyr sy’n dychwelyd ac i’r rhai newydd sy’n sefydlu eu hunain mewn bywyd prifysgol.

Mae’r tîm caplaniaeth aml-ffydd yn cynnig gofal bugeiliol a chymorth i fyfyrwyr a staff y Brifysgol fel ei gilydd.

Fel aelod o’r tîm, mae ein Caplan Prifysgol, y Parch. Neville Naidoo, yn darparu presenoldeb Cristnogol gofalgar a chynhwysol ar y campws.

Mae Caplaniaeth y Brifysgol yn ymgymryd â amrywiaeth eang o weithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal cinio ar Ddydd Nadolig ac ar Ŵyl y Pasg, yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol na all deithio adref dros yr ŵyl. Mae’r Gaplaniaeth hefyd yn bresenoldeb gweithgar yn ystod Wythnos y Glas, gan ymgysylltu â staff a myfyrwyr fel ei gilydd i rannu’r cymorth a gynigir — o ganllawiau ysbrydol a gofal bugeiliol i hyrwyddo lles pawb, beth bynnag eu ffydd neu gefndir.

Mae Neville yn dweud rhagor wrthym am ei rôl:

“Rwy’n gweithio’n agos gyda myfyrwyr Cristnogol i gynnig cyngor ysbrydol un-i-un pan fo cwestiynau mwy heriol yn codi am ffydd, sydd yn aml yn ymwneud â’u dryswch ynghylch safbwyntiau gwahanol yr eglwys ar rywedd, rhywioldeb, cynhwysiant llawn a bregusrwydd dynol. Ceir hefyd gwestiynau am geisio heddwch ac am ofalu am Greadigaeth o safbwynt Cristnogol.

“Mae’r sgyrsiau hyn yn rhai cadarn ac onest sy’n ein galluogi i archwilio’r Ysgrythur o safbwyntiau na fyddent efallai wedi dod ar eu traws o’r blaen oherwydd safbwynt enwad eglwysig benodol ar y pynciau sensitif hyn. Yn aml, byddaf yn cael y sgyrsiau hyn gyda grwpiau bach sy’n cyfarfod am baned mewn caffis lleol o bryd i’w gilydd.

“Mae gennym hefyd ychydig o fyfyrwyr sydd wedi dod yn weithgar yn y weinidogaeth yn y Gadeirlan.”

I gysylltu â Neville, anfonwch e-bost at NevilleNaidoo@cinw.org.uk

Digwyddiad cymdeithasol

Am Neville

Cyn symud i Gogledd Cymru, roedd Neville yn offeiriad yn Esgobaeth Johannesburg, De Affrica, ers ei ordeinio yn 2013. Mae ei yrfa ym maes datblygu cymunedol ac addysg yn ymestyn dros 35 mlynedd, yn bennaf mewn ysgolion, eglwysi a sefydliadau dielw. 

Mae Neville yn ymgyrchydd angerddol ac mae wedi treulio llawer o'i yrfa yn eiriol ar faterion cymdeithasol, megis ymwybyddiaeth HIV / AIDS ymhlith gweithwyr rhyw yn ardal golau coch Durban a darparu cymorth bugeiliol the Street Childrens Forum, The Deaf Association, The Quadraplegics Association, ymhlith eraill.

Cymraeg

Welcoming Bangor students for the new term

As a new academic year begins, the Bangor University Chaplaincy extends a warm welcome to both returning and new students settling into university life.

The multi-faith chaplaincy team offers pastoral care and support to both students and staff of the University.

As a member of the team, our University Chaplain, Revd Neville Naidoo, provides a caring and inclusive Christian presence on campus.

The University Chaplaincy takes part in a wide range of student activities throughout the year. These include hosting Christmas Day and Easter lunches, particularly for international students who are unable to travel home for the holidays. The Chaplaincy is also an active presence during Freshers Week, engaging with both staff and students to share the support it offers — from spiritual guidance and pastoral care to promoting the wellbeing of all, regardless of faith or background.

Neville tells us more about his role.

"I work closely with Christian students to offer them one one-on-one spiritual input whenever the more challenging questions are raised about faith, which often relates to their confusion about the church’s differing views about gender, sexuality, full inclusion and human vulnerability. Peacemaking, caring for Creation from a Christian point of view, are questions that often come up too.

"These are very robust conversations that allow us to explore scripture from perspectives that they might not have been exposed to due to the particular denomination's take on these sensitive topics. I often have these conversations with small groups who meet for coffee in our local cafes from time to time.

"We also have a few students who have become actively involved in ministry at the Cathedral."

To get in touch with Neville, email NevilleNaidoo@cinw.org.uk

Chaplaincy social

About Neville

Prior to moving to North Wales, Neville was a priest in the Diocese of Johannesburg, South Africa, since his ordination in 2013. His career in community development and education spans over 35 years, primarily in schools, churches and not for profit organisations. 

Neville is a passionate campaigner and has spent much of his career advocating on social issues, such as HIV/AIDS awareness amongst sex workers in the red light area of Durban and providing pastoral assistance to the Street Children's Forum, The Deaf Association, The Quadraplegics Association, amongst others.

Neville is married to Brendon. They have lived together for over 20 years.