Offeiriad newydd yn cael ei benodi i gymuned MaesG, Bangor
Mae offeiriad newydd wedi’i benodi i wasanaethu un o ystadau tai mwyaf Cymru, sef Maesgeirchen, ar gyrion Bangor, Gwynedd.
Caiff y Parchg Andy Broadbent ei drwyddedu ddydd Sul, 19 Hydref, fel offeiriad yn gyfrifol am Eglwys y Groes, sy’n gwasanaethu cymuned o tua 4,000 o bobl sy’n adnabyddus yn lleol fel MaesG.
Cafoodd y Parchg Broadbent ei urddo ym mis Mehefin 2025, cyn hynny roedd yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Dwylan, sy’n cynnwys Penmaenmawr, Llanfairfechan a Dwygyfylchi. Yno, arweiniodd brosiect ieuenctid arloesol a gyllidwyd gan yr Eglwys yng Nghymru. O dan y cynllun Faith Alive, tyfodd y niferoedd o gyfranogwyr mewn blwyddyn o ddim ond dau o blant i fwy na 160 ar draws tri plwyf arfordirol.

Yn ei swydd newydd, mae’r Parchg Broadbent yn gobeithio adeiladu ymhellach ar y gwaith da sydd eisioes yn cael ei arwain gan y gynulleidfa leol a’r wardeiniaid. Yn ystod y pandemig, cafodd addoliad dydd Sul yn Eglwys y Groes ei atal, ac ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben symudwyd y gwasanaeth i ddydd Iau. Mae gwasanaethau dydd Sul rheolaidd bellach wedi ailgychwyn, gyda’r cyfarfodydd dydd Iau bellach yn gweithredu fel grŵp astudiaeth Feiblaidd.
Ymhlith ei flaenoriaethau mae hyrwyddo’r ddau wasanaeth yn ehangach a datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer addoli a disgyblaeth Gristnogol. Ymhlith y cynlluniau mae lansio gwasanaeth nos i’r rhai na allant fynychu ar ddydd Sul, ailgychwyn gweinidogaeth i blant drwy weithgareddau Llan llansat a’r Ysgol Sul, a chefnogi prosiectau cymunedol ehangach ar y stâd.
Wrth siarad cyn ei drwyddedu, dywedodd. “Rwy’n gyffrous iawn i ddechrau yn Eglwys y Groes ac o fewn cymuned Maesgeirchen. Mae gennyf angerdd dros wneud yr eglwys yn lle hwylus a hygyrch i bob oedran, ac mae’r gynulleidfa yma eisoes mor fywiog a brwdfrydig fel ei bod yn teimlo’n le addas iawn i mi.
“Rwyf am fod yn offeiriad sy’n cael ei arwain gan wasanaeth, gan ddiwallu anghenion y gymuned mewn eglwys fywiog a llawn cariad.”
Mae Eglwys y Groes yn rhan o Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol, sy’n cynnwys Eglwys Gadeiriol Bangor.
Dywedodd y Tra Pharchg Dr Manon Ceridwen James, Deon Cadeirlan Bangor ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol:
“Rydym yn falch iawn o groesawu’r Parchg Andy Broadbent i Eglwys y Groes a chymuned Maesgeirchen. Mae Andy yn dod â egni, creadigrwydd ac ymrwymiad dwfn i wasanaethu pobl o bob oed. Rydym yn gwybod y bydd yn gyfoeth mawr i’r plwyf ac y bydd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes ar waith.”
Bydd trwyddedu’r Parchg Andy yn cael ei gynnal am ddydd Sul 19 Hydref,11yb yn Eglwys y Groes. Croeso cynnes i bawb i fynychu.
New priest appointed to Bangor’s MaesG community
A new priest has been appointed to serve one of Wales’s largest housing estates, Maesgeirchen, on the outskirts of Bangor, Gwynedd.
Revd Andy Broadbent will be licensed on Sunday 19 October, as priest-in-charge of Eglwys y Groes, which serves the 4,000-strong community known locally as MaesG.
Ordained in June 2025, Revd Broadbent previously served in the Bro Dwylan Ministry Area, which covers the areas of Penmaenmawr, Llanfairfechan and Dwygyfylchi, where he led an innovative youth project funded by the Church in Wales. The Faith Alive scheme saw participation grow from just two children to more than 160 across three coastal parishes in a single year.
In his new role, Revd Broadbent hopes to build on work led by the local congregation and church wardens. During the pandemic, Sunday worship at Eglwys y Groes was suspended and after lockdown ended it moved to Thursdays. Regular Sunday services have since resumed, with Thursday gatherings continuing as a Bible study group.
His priorities include promoting both services more widely and developing new opportunities for worship and discipleship. Plans include launching an evening service for those unable to attend on Sundays, restarting children’s ministry through Messy Church and Sunday School, and supporting wider community projects on the estate.

Speaking ahead of his licensing, he said, “I’m so excited to get started in Eglwys y Groes and with the community of Maesgeirchen. I have a deep passion for making church fun and accessible for all ages, and the people here are already so full of life that it feels like a natural fit.
“I just want to be a service-led priest, meeting the needs of the community in a vibrant and loving church.”
Eglwys y Groes is part of the Bro Deiniol Ministry Area, which includes Bangor Cathedral.
The Very Revd Dr Manon Ceridwen James, Dean of Bangor Cathedral and Ministry Area Leader of Bro Deiniol says, “We are delighted to welcome Revd Andy Broadbent to Eglwys y Groes and the Maesgeirchen community. Andy brings energy, creativity, and a deep commitment to serving people of all ages. We know he will be a real asset to the parish and will build on the strong foundations already in place.”
Revd Andy’s licensing takes place on Sunday 19 October at 11am at Eglwys y Groes. All are welcome to attend.