Gwasanaeth coffa i anrhydeddu bywydau a gollwyd ar fynyddoedd Eryri
Bydd digwyddiad coffa newydd yn cael ei gynnal yn Eryri yn ddiweddarach y mis hwn i gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau ar yr Wyddfa a’r copaon cyfagos.
Cynhelir y cynulliad, o’r enw Cysgod yr Wyddfa, yn Eglwys Nant Peris ddydd Sul 26 Hydref rhwng 5.30pm a 6.00pm. Y Parchedig Naomi Starkey, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Eryri, sydd wedi trefnu’r digwyddiad, yn dilyn cyfres o farwolaethau ar y mynyddoedd yn ddiweddar.
“Ar ôl byw ym Mro Eryri ers dros flwyddyn, rydw i wedi dod i sylweddoli peryglon yn ogystal â harddwch y dirwedd anhygoel,” meddai’r Parchedig Naomi. “Mae hi mor ingol clywed am bobl sy’n dod am antur yn y mynyddoedd a sut mae’r antur honno weithiau’n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.”

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae sawl marwolaeth wedi bod ar yr Wyddfa a’r llwybrau cyfagos, gan gynnwys digwyddiadau ar Grib Goch, sydd uwchben Eglwys Nant Peris, ac ar odre’r bryniau a’r afonydd o amgylch y mynydd.
Dywedodd y Parchedig Naomi fod y penderfyniad i drefnu’r digwyddiad wedi dod yn rhywbeth personol, ar ôl i’w mab 23 oed gael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain beic yr haf hwn. “Fel mam yn ogystal â ficer, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i nodi’r colledion diweddar hynny a’r nifer fawr o rai eraill dros y blynyddoedd.”
Bydd y cynulliad dwyieithog yn fan agored ar gyfer myfyrio tawel yn hytrach na gwasanaeth eglwys ffurfiol. Bydd yn cynnwys cerddoriaeth ysgafn, darlleniadau, a’r cyfle i gynnau cannwyll.
“Rwyf eisiau darparu lle i alaru a chofio mewn lle cysegredig yng nghanol Eryri,” ychwanegodd y Parchedig Naomi.
Mae croeso i unrhyw un fynychu, gan gynnwys teuluoedd y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac aelodau o’r gymuned achub mynydd. Bydd yna gasgliad ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis, y tîm achub prysuraf yn y DU, a ymatebodd i fwy na 300 o alwadau yn 2025. Ym mis Medi yn unig, cawsant 32 o alwadau, a olygodd y bu’n rhaid i’r tîm llawn fynd allan 25 o weithiau.
Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad coffa o’r fath gael ei gynnal ac mae’n bosibl y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.
Nodiadau i Olygyddion
1, Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn sefydliad achub gwirfoddol sy’n gwasanaethu mynydd eiconig yr Wyddfa ac ardal amgylchynol Eryri. Wedi’i sefydlu ym 1965, mae’r tîm yn ymroddedig i roi cymorth brys i’r rhai sy’n cael eu hunain mewn perygl wrth heicio, dringo neu fynydda yn y rhanbarth.
2, Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn chwarae rôl hanfodol wrth ymateb i argyfyngau awyr agored, gan ddarparu gwasanaethau achub cyflym a phroffesiynol. Nhw yw’r tîm achub mynydd prysuraf yn y DU – ymatebwyd i 308 o alwadau am gymorth yn 2023 a 326 o alwadau yn 2024.
3, “Galwadau mis Medi: Bu’n gyfnod eithriadol o brysur unwaith eto at ddiwedd yr haf i’n gwirfoddolwyr, gyda 32 o alwadau ym mis Medi – a olygodd y bu’n rhaid i’r tîm fynd allan 25 o weithiau.” [Tudalen Facebook Tîm Achub Mynydd Llanberis]
Memorial service to honour lives lost on Snowdonia’s mountains
A new memorial event will take place in Snowdonia later this month to remember those who have died on Yr Wyddfa (Snowdon) and the surrounding peaks.
The gathering, titled Cysgod yr Wyddfa (“In Yr Wyddfa’s Shadow”), will be held at Nant Peris Church on Sunday 26 October from 5.30pm to 6.00pm. It has been organised by the Revd Naomi Starkey, Ministry Area Leader for Bro Eryri, following a series of recent mountain fatalities.
“Having lived in Bro Eryri for over a year, I’ve come to realise the dangers as well as the beauty of the amazing landscape,” said Revd Naomi. “It’s so poignant to hear of people coming for an adventure in the mountains and how that adventure sometimes ends in serious injury or death.”

Recent months have seen several fatalities on Yr Wyddfa and nearby routes, including incidents on Crib Goch, which is above Nant Peris Church, and in the foothills and rivers around the mountain.
Revd Naomi said the decision to organise the event became personal after her 23-year-old son was seriously injured in a bike accident this summer. “As a mother as well as a vicar, I wanted to do something to mark those recent losses and the many others over the years.”

The bilingual gathering will be an open space for quiet reflection rather than a formal church service. It will include gentle music, readings, and the opportunity to light a candle.
“I want to provide a space for grief and remembering in a sacred place that’s in the very heart of Eryri,” added Revd Naomi.
Anyone is welcome to attend, including families of those who have died and members of the mountain rescue community. A collection will be taken for Llanberis Mountain Rescue Team, the UK’s busiest rescue team, which responded to more than 300 call-outs so far this year. In September alone, they received 32 call-outs, resulting in 25 full-team deployments.
This is the first time such a memorial has been held and may become an annual event.
Notes for Editors
1, Llanberis Mountain Rescue Team is a volunteer-based rescue organization serving the iconic Yr Wyddfa and the surrounding Eryri. Founded in 1965, the team is dedicated to providing emergency assistance to those who find themselves in peril while hiking, climbing, or mountaineering in the region.
2, Llanberis Mountain Rescue Team plays a critical role responding to outdoor emergencies, providing swift and professional rescue services. They are the UK’s busiest mountain rescue team, in 2023 responding to 308 calls for assistance and in 2024, 326.
3, “September Callouts: The end of the summer months proved to be another busy period for our volunteers, with 32 callouts in September — resulting in 25 full team deployments.” {Llanberis Mountain Rescue Team Facebook page]