Eglwys yn coffáu Canmlwyddiant Trychineb Argae Dolgarrog gydag arddangosfa goffa
Bydd Eglwys y Santes Fair, Dolgarrog, sy’n rhan o Esgobaeth Bangor, yn agor arddangosfa arbennig ddydd Gwener 24 Hydref rhwng 4 a 6 o’r gloch i nodi Canmlwyddiant Trychineb Argae Dolgarrog.
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Dolgarrog 100, rhaglen gymunedol o ddigwyddiadau sy’n arwain at y prif goffhad ddydd Sul 2 Tachwedd 2025 — union gan mlynedd ar ôl y drychineb a laddodd bymtheg o bobl yn 1925.
Bydd yr arddangosfa yn Eglwys y Santes Fair yn adrodd hanes y drychineb a’r cyfnod a’i dilynodd, drwy luniau, dogfennau ac atgofion personol. Crëwyd hi gyda chymorth academyddion o Brifysgolion Caerdydd a Bangor, a fydd hefyd yn bresennol i rannu eu gwybodaeth ac i siarad ag ymwelwyr.
Ochr yn ochr ar arddangosfa hanesyddol, bydd Grŵp Celf Dolgarrog yn cyflwyno arddangosfa gelf sy’n myfyrio ar y ganrif ers y drychineb, a bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu hargraffiadau eu hunain am hanes a chof y pentref.
Bydd yr arddangosfa’n parhau ar agor fel rhan o raglen Dolgarrog 100 ar 2 Tachwedd 2025, pan fydd Eglwys y Santes Fair hefyd yn fan cychwyn ar gyfer gorymdaith ganhwyllau gyda’r nos a gwasanaeth coffa wrth y Gofeb Filwrol.
Dywedodd y Parchg. Stuart Elliot, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Gwydr, “Mae Dolgarrog 100 yn garreg filltir bwysig i bobl Dolgarrog. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cynnig cyfle i’r gymuned a’r ymwelwyr gofio’r rhai a gollodd eu bywydau, ac i fyfyrio ar y ffyrdd y mae’r pentref wedi cadw eu cof yn fyw dros y ganrif ddiwethaf.”
Mae croeso i bawb fynychu agoriad yr arddangosfa ddydd Gwener 24 Hydref rhwng 4 a 6 o’r gloch yn Eglwys y Santes Fair, Dolgarrog. Mynediad am ddim.
Am ragor o wybodaeth am Dolgarrog 100, ewch i dudalennau Cyngor Cymuned Dolgarrog neu dilynwch y diweddariadau lleol wrth i’r canmlwyddiant agosáu.
Church marks Dolgarrog Dam Disaster with centenary exhibition
St Mary’s Church, Dolgarrog, part of the Diocese of Bangor, will open a special exhibition on Friday 24 October from 4–6 pm to mark the centenary of the Dolgarrog Dam Disaster.
The exhibition forms part of Dolgarrog 100, the community’s programme of events leading up to the main commemoration on Sunday 2 November 2025, exactly one hundred years after the disaster that claimed the lives of sixteen people in 1925.
The exhibition at St Mary’s Church will tell the story of the disaster and its aftermath through photographs, documents, and personal accounts. It has been created with support from academics from the Universities of Cardiff and Bangor, who will be in attendance to speak with visitors. Alongside the historical display, the Dolgarrog Art Group will present an exhibition reflecting on the century since the disaster, and visitors will be invited to share their own reflections on the village’s story.
The exhibition will remain open as part of the Dolgarrog 100 programme on 2 November 2025, when St Mary’s Church will also be the starting point for the evening’s lantern parade and commemoration service at the Cenotaph.
Revd Stuart Elliot, Ministry Area Leader for Bro Gwydr, says, “Dolgarrog 100 is an important centenary for the people of Dolgarrog. We hope that this exhibition will help the community and visitors alike to remember those who lost their lives and to reflect on the ways the village has carried their memory over the past hundred years.”
All are welcome to attend the exhibition opening on Friday 24 October from 4–6 pm at St Mary’s Church, Dolgarrog. Admission is free.
For more information about Dolgarrog 100, visit the Dolgarrog Community Council pages or follow local updates in the run-up to the centenary.
Photo: By Unknown - Scan from the original work, Public Domain.