minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Diacon o Fangor yn gwasanaethu fel caplan yn urddo Archesgob Cymru

Gwasanaethodd diacon newydd ei hordeinio o Esgobaeth Bangor fel un o dri chaplan i Archesgob Cymru yn ei gwasanaeth urddo ar 8 Tachwedd.

Y Parchg Karren Morris (ar y chwith)

Ordeiniwyd Karen Morris yn ddiacon yn gynharach eleni yng Nghadeirlan Bangor ac mae bellach yn gweinidogaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Dwylan. Gwahoddodd Archesgob Cherry Vann hi i ymgymryd â’r rôl caplan yn y gwasanaeth cenedlaethol yng Nghadeirlan Sant Woolos, Casnewydd. Enwebwyd hi ar gyfer y rôl gan Robert Townsend, Archddiacon Meirionnydd, oherwydd eu cysylltiad cyffredin ag Esgobaeth Manceinion.

“Roedd yn anrhydedd mawr cael y cais,” meddai.

Dywedodd Karen fod maint y digwyddiad yn ei gwneud yn “anodd peidio â theimlo’n nerfus, yn enwedig fel rhywun sy’n agored am fyw gyda ADHD”. Ei phrif bryder, meddai, oedd cofio pob cam ar yr adeg cywir, er cafodd gymorth a chefnogaeth i baratoi gan Ragganon y gadeirlan, helpwyd hi hefyd gan a nodiadau manwl yn ei rhaglen o drefn y gwasanaeth.

Archesgob Cymru Cherry Van a'r Parchg Karen

Fel caplan, fi oedd yn gyfrifol am gario crosier yr Archesgob — “a oedd yn drwm iawn,” ychwanegodd — a sicrhau ei bod wedi’i gwisgo a’i chyfarparu ar yr eiliadau cywir yn y ddefod.

“Y peth pwysicaf oedd cefnogi’r Archesgob ar adeg pan oedd hi’n ymrwymo i wasanaethu Duw ar lefel ddyfnach ac â mwy o gyfrifoldeb,” meddai. “Roedd fy rôl i’n fach, ond yn fraint wirioneddol.”

Cymraeg

Bangor deacon serves as chaplain at Archbishop of Wales’ enthronement

A newly ordained deacon from the Diocese of Bangor served as one of three chaplains to the Archbishop of Wales at her enthronement service on 8 November.

Revd Karen Morris (left)

Karen Morris was ordained a deacon earlier this year at Bangor Cathedral and now ministers in the Bro Dwylan Ministry Area. Archbishop Cherry Vann invited her to take on the role at the national service at St Woolos Cathedral, Newport, after Robert Townsend, Archdeacon of Meirionnydd, suggested her because of their shared connection with the Diocese of Manchester.

“It was a tremendous honour to be asked,” she said.

Karen said the scale of the event made it “hard not to be nervous, particularly as someone open about living with ADHD”. Her main concern, she added, was remembering each step at the right time, though support from the cathedral’s Precentor and careful notes on her order of service helped her prepare.

Archbishop of Wales Cherry Van and Revd Karen

As chaplain, she was responsible for carrying the Archbishop’s crozier — “very heavy,” she noted — and ensuring the Archbishop was robed and equipped at the correct points in the liturgy.

“The important thing was to support the Archbishop at a moment when she committed herself to serving God at a much deeper level and with more responsibility,” she said. “My role was minor but a real privilege.”