minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gwasanaethau Nadolig yng Nghadeirlan Bangor

Mae Cadeirlan Bangor yn gwahodd pawb i ddathlu gobaith a llawenydd y Nadolig, gyda rhaglen lawn o wasanaethau a chroeso cynnes i bawb.

Dywed Deon Bangor, Manon Ceridwen James:

“Gobeithiwn y bydd pawb sy’n ymuno â ni yng Nghadeirlan Bangor yn profi cysur a llawenydd yr ŵyl.

“Os nad ydych wedi bod i’r eglwys ers peth amser, neu’n camu i mewn i’r Gadeirlan am y tro cyntaf, byddwch yn cael croeso cynnes. Gobeithiwn y bydd ein gwasanaethau’n cynnig heddwch, goleuni ac ymdeimlad newydd o obaith wrth i ni baratoi i ddathlu newyddion da cariad Duw tuag atom, sydd wrth galon neges y Nadolig.”

Nadolig yng Nghadeirlan Bangor

  • Dydd Mercher 17eg 6pm Naw Llith a Charol Anffurfiol (Dwyieithog) – Gwasanaeth o ddarlleniadau poblogaidd a charolau
  • Dydd Sul 21ain Rhagfyr 3.30pm Naw Llith a Charol Traddodiadol (Dwyieithog)
  • Dydd Mawrth 23ain 4pm Gwasanaeth y Crud – Gwasanaeth anffurfiol i’r teulu cyfan i ddathlu’r Nadolig. Dewch wedi’ch gwisgo fel eich hoff gymeriad o stori’r geni!
  • Noswyl Nadolig 11pm Cymun Canol Nos
  • Dydd Nadolig – 8.15 Cymun, 10am Cymun Dwyieithog ar gyfer Dydd Nadolig
  • Dydd Sul 28ain 8.15am Cymun – 10am Cymun Dwyieithog
  • Dydd Sul Ionawr 18fed 3.30pm Gwasanaeth y Plygain

Mae croeso i bawb i’r gwasanaethau hyn, ac maent yn rhad ac am ddim i’w mynychu.

Cymraeg

Bangor Cathedral announces Christmas services

Bangor Cathedral is inviting everyone to celebrate the hope and joy of Christmas, with a full programme of services and a warm welcome waiting for all.

Deon of Bangor, Manon Ceridwen James, says, “We hope all who join us at Bangor Cathedral will find real comfort and joy in this season.

“If you haven’t been to church for some time, or are stepping into the Cathedral for the first time, you will be warmly welcomed. We hope our services offer peace, light and a renewed sense of hope as we prepare to celebrate the good news of God’s love for us which is at the heart of Christmas.”

Christmas at Bangor Cathedral

  • Wednesday 17th 6pm Informal Nine Lessons and Carols (Bilingual) - A service of popular readings and carols
  • Sunday 21st Dec 3.30pm Traditional Nine Lessons and Carols (Bilingual)
  • Tuesday 23rd 4pm Crib service - An informal service for all the family to celebrate Christmas. Come dressed up as your favourite nativity character!
  • Christmas Eve 11pm Midnight Mass
  • Christmas Day - 8.15 Eucharist, 10am Bilingual eucharist for Christmas Day
  • Sunday 28th 8.15am Eucharist - 10am Bilingual Eucharist
  • Sunday January 18th 3.30pm Plygain service

All services are free to attend.