Gwasanaeth carolau Cymraeg i ddysgwyr yng Nghadeirlan Bangor
Cynhelir gwasanaeth carolau Cymraeg i ddysgwyr a siaradwyr rhugl yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, ddydd Llun 1 Rhagfyr 2025.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys detholiad o gerddi Cymraeg a charolau traddodiadol Cymraeg a fydd yn eich rhoi yn yr hwyl Nadoligaidd. Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle i brofi llawenydd a chynhesrwydd Nadolig Cymraeg mewn ffordd hwylus a chroesawgar, p'un a ydych yn mynychu fel siaradwr hyderus neu rywun sydd dal ar eu taith ddysgu.
Bydd ensemble pres o Ysgol Syr Hugh Owen yn perfformio cerddoriaeth wyl o 12:15, gyda'r gwasanaeth yn dechrau am 12:30. Bydd Canon Tracy Jones, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn arwain y gwasanaeth. Bydd yr Esgob David Morris, dysgwr Cymraeg, hefyd yn ymuno â'r gwasanaeth.
Dywedodd Elin Owen, Galluogwr Cymraeg Esgobaeth Bangor: "Mae'n gyfle i ddysgwyr a siaradwyr rhugl ddod ynghyd a mwynhau'r ysbryd gwyl, tra'n profi traddodiadau, iaith a cherddoriaeth Nadolig Cymraeg. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gadael yn teimlo'n ysbrydoledig, yn rhan o'r gymuned, ac wedi'u hysbrydoli i barhau â'u taith iaith Gymraeg."
Yn dilyn y gwasanaeth, bydd Menter Iaith Bangor yn cynnal cinio ysgafn a bwffe Nadolig, gan ddarparu cyfle hamddenol i sgwrsio ac ymarfer Cymraeg mewn amgylchedd cyfeillgar.
Mae'r gwasanaeth yn agored i bob dysgwr a siaradwr rhugl Cymraeg.
Welsh language carol service for learners at Bangor Cathedral
A Welsh-language carol service for learners and fluent speakers will be held at St Deiniol’s Cathedral, Bangor, on Monday 1 December 2025.
The service will feature a selection of Welsh poems and traditional Welsh languages carols that will put everyone in the Christmas mood. The event offers a chance to experience the joy and warmth of a Welsh-language Christmas in a fun and welcoming way, whether attending as a confident speaker or Welsh learners of every level.
The brass ensemble from Ysgol Syr Hugh Owen will perform festive music from 12:15, with the service beginning at 12:30.
Canon Tracy Jones, who has learned Welsh will lead the service. Bishop David Morris, a Welsh learner, will also join the service.
Elin Owen, Welsh Enabler for the Diocese of Bangor, said: “It is an opportunity for learners and fluent speakers to come together and enjoy the festive spirit, while experiencing the traditions, language and music of a Welsh Christmas. We hope people leave feeling uplifted, part of the community, and inspired to continue their Welsh-language journey.”
Following the service, Menter Iaith Bangor will host a light lunch and Christmas buffet, providing a relaxed chance to chat and practise Welsh in friendly surroundings. The service is open to all Welsh learners and fluent speakers.