Offeiriad newydd wedi’i benodi i Fôn
Mae Esgobaeth Bangor yn falch o gyhoeddi penodiad Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd i Fro Padrig yn Archddiaconiaeth Môn yn Esgobaeth Bangor. Bydd Catherine yn ymuno â thîm gweinidogaeth o ddeg offeiriad sy'n gwasanaethu ar gyfer yr ynys.
Mae’r Parch. Catherine Duff, sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd fel aelod o Dîm Cenhadaeth Torridge Team Mission Community yng nghefn gwlad Gogledd Dyfnaint yn Esgobaeth Exeter, wedi ei phenodi ar ôl proses gyfweld ddiweddar.
Treuliodd Catherine wyliau ei phlentyndod ar arfordir Gogledd Cymru, profiadau a helpodd i’w denu’n ôl i’r rhanbarth. Bu’n gweithio am ddegawd mewn addysg gynradd yn Birmingham cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yng Ngholeg Ripon Cuddesdon ac yna gwasanaethu ei churadiaeth ar draws naw plwyf gwledig yng Ngogledd Dyfnaint.
Mae Catherine yn dod â diddordeb cryf mewn addoli yn yr awyr agored a’r cysylltiad rhwng ffydd a’r dirwedd naturiol. Mae hi wedi dechrau dysgu Cymraeg ac yn edrych ymlaen at arwain gwasanaethau dwyieithog yn yr ardal.
Dywed y Parchedig Catherine, “Rwy’n falch iawn o ymuno ag Ardal Weinidogaeth Bro Padrig wrth i ni archwilio gyda’n gilydd yr hyn y mae Duw eisoes yn ei wneud yn y gymuned hon a lle mae’r Ysbryd yn ein harwain. Rwy’n arbennig o gyffrous am y cyfleoedd ar gyfer addoli yn yr awyr agored, gan dynnu ar ryfeddod arfordir a chefn gwlad Môn. Rwy’n edrych ymlaen at wasanaethu ochr yn ochr â’r bobl leol a dysgu Cymraeg fel y gallaf gyfranogi’n llawn yn ein haddoli dwyieithog.”
Dywed Archddiacon Môn, John Harvey: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Catherine i’n plith i arwain y cam nesaf o fywyd ein Hardal Weinidogaeth a gweithio’n agos gyda’r Parchedig Glenys Samson.”
Dywed Esgob Enlli, David Morris: “Mae Catherine yn dod â chyfoeth o roddion i’n hesgobaeth, ac rydym yn falch iawn o’i chroesawu i Fôn ac i’r esgobaeth. Mae’n ymuno â thîm ymroddedig o offeiriaid ar draws yr ynys y mae eu gweinidogaeth o rannu’r Efengyl a chroesawu ymwelwyr a phererinion yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr. Rydym yn edrych ymlaen at ei phresenoldeb a’i gweinidogaeth yn ein plith.”
Bydd Catherine yn symud ym mis Chwefror, a bydd dyddiad trwyddedu yn cael ei gyhoeddi’n nes at yr amser. Gofynnwn i chi weddïo dros Catherine yn ystod y cyfnod hwn, a hefyd dros bobl ac eglwysi Gweinidogaeth Tîm Torridge lle mae Catherine yn gwasanaethu ar hyn o bryd.
New priest for Anglesey
The Diocese of Bangor is delighted to announce the appointment of a new Ministry Area Leader for Bro Padrig in the Archdeaconry of Anglesey. Catherine will join a ministry team of ten priests who cover the island.
The Revd Catherine Duff who serves currently as a member of the Torridge Team Mission Community in rural North Devon in the Diocese of Exeter has been appointed after a recent interview process.
Catherine spent childhood holidays on the North Wales coast, experiences that helped draw her back to the region. She worked for a decade in primary education in Birmingham before training for ordained ministry at Ripon College Cuddesdon and later serving her curacy across nine rural parishes in North Devon.
Catherine brings a strong interest in outdoor worship and the connection between faith and the natural landscape. She has started learning Welsh and looks forward to leading bilingual services in the area.
Revd Catherine says, “I’m delighted to be joining the Ministry Area of Bro Padrig as we explore together what God is already doing in this community and where the Spirit is leading us. I’m especially excited about opportunities for outdoor worship, drawing on the wonder of Anglesey’s coast and countryside. I look forward to serving alongside local people and learning Welsh so that I can fully participate in our bilingual worship.”
Archdeacon of Anglesey John Harvey says “We look forward to welcoming Catherine among us to lead the next phase of life for our Ministry Area and working closely with the Revd Glenys Samson.
Bishop of Bardsey David Morris says, “Catherine brings a wealth of gifts to our diocese, and we are delighted to welcome her to Anglesey and the diocese. She joins a dedicated team of priests across the island whose ministry of sharing the Gospel and welcoming visitors and pilgrims is greatly appreciated. We look forward to her presence and ministry among us.”
Catherine will move in February, and a licensing date will be announced closer to the time. Please pray for Catherine in this time, and for the people and churches of the Torridge Team Ministry where Catherine currently serves.